Responding to the pandemic crisis: our approach to recovery / Ymateb i argyfwng y pandemig: ein hagwedd tuag at adferiad

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/28efd00

Care Inspectorate Wales
twitter

@care_wales

website

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

facebook

Cymraeg / Saesneg

Saesneg yn isod / English below

Ymateb i argyfwng y pandemig: ein hagwedd tuag at adferiad

 

Annwyl Gydweithiwr

Rwy'n ymwybodol eich bod wedi derbyn llawer o ohebiaeth dros y deufis diwethaf ac er nad wyf am ychwanegu at hyn, roeddwn yn credu ei bod yn bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith cynllunio wrth i Arolygiaeth Gofal Cymru symud ymlaen o ymateb i argyfwng y pandemig i ystyried ein dull o adfer.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi a'ch timau unwaith eto am eich gwaith caled yn ystod amgylchiadau anodd y pandemig. Mae gweld cymaint o bobl yn marw mewn cartrefi gofal yn hynod o drist ac rwy'n ymwybodol bod y sefyllfa wedi peri cryn drallod i deuluoedd ac i'r staff sy'n gofalu am y bobl.

Mae ein galwadau ffôn gyda chi wedi dangos y dulliau cadarnhaol ac arloesol rydych wedi bod yn eu defnyddio i ymdopi â'r sefyllfa yn ogystal â'r heriau a'r rhwystredigaethau rydych wedi'u hwynebu. Gallwch fod yn hyderus ein bod eisoes wedi bod yn trafod y materion hyn gyda'r partneriaid perthnasol, ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rydym bellach wrthi'n ystyried sut y gallwn symud ymlaen o ymateb i'r argyfwng i'r cam nesaf o ‘adfer’. Rydym yn ymwybodol bod teuluoedd a ffrindiau yn awyddus iawn i ymweld â phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal ac rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i feddwl am ffordd ddiogel o wneud hyn. Rydym yn cynnal ymgyrch yn y cyfryngau i gasglu safbwyntiau ar hyn ac rydym yn awyddus i glywed eich syniadau. Gallwch rannu eich safbwyntiau drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein y gallwch gael gafael arni ar ein gwefan. Y cyngor ar hyn o bryd yw parhau i gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr fel y nodwyd yn y llythyr gan Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 23 Mawrth, yn ogystal â dilyn y rheol gyffredinol o gyfarfod ag aelodau o un aelwyd arall yn unig yn yr awyr agored. Caiff canllawiau i ddarparwyr a theuluoedd eu llunio cyn gynted â phosibl ar ymweld â gwasanaethau gofal yn ddiogel.

Rydym hefyd wrthi'n trafod sut y gallwn symud ymlaen â'r broses adfer o ran ein rôl wrth oruchwylio a rhoi sicrwydd i'r cyhoedd. Mae gennym bryderon am nifer fach o wasanaethau, ac o ganlyniad, byddwn yn cynnal arolygiadau o'r gwasanaethau hynny, yn seiliedig ar gyngor iechyd y cyhoedd ar sut y gellir gwneud hynny'n ddiogel. Nid ydym yn bwriadu ailddechrau cynnal arolygiadau arferol hyd nes ei bod yn ddiogel i ni wneud hynny ac rydym yn cydweithio'n agos â chomisiynwyr awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ystyried sut y gallwn fod yn hyderus fod pobl yn ddiogel ac y caiff eu llesiant eu hyrwyddo, drwy rannu gwybodaeth a chydlynu gweithgareddau'n effeithiol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn lleihau'r galw ar ddarparwyr a nifer y bobl sy'n dod i mewn i gartrefi gofal tra bo COVID-19 yn parhau i gael ei ledaenu yn y gymuned.

Mae'n gadarnhaol iawn gweld bod mwy o brofion ar gael erbyn hyn, ond rydym wedi clywed bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch hyn oherwydd yr effaith ar wasanaethau os bydd nifer o staff asymptomatig yn derbyn canlyniad positif ac yn gorfod hunanynysu. Er ein bod yn cydnabod y pryder hwn, mae'n bwysig dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn gwybod bod comisiynwyr yn ystyried sut y gallant roi cymorth i unrhyw wasanaeth yn y sefyllfa hon.

Byddwn yn ystyried sut y gallwn symud ymlaen o'r cam adfer i'r cam nesaf, ac ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu dychwelyd i'r drefn arferol a oedd ar waith cyn y pandemig gan ein bod wedi dysgu bod ffyrdd gwahanol o gyflawni ein rôl. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau, mae croeso i chi eu hanfon atom yn AGC@llyw.cymru. Rydym yn gobeithio cynnal digwyddiadau rhithwir i ddarparwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i gynnal trafodaethau.

Diolch i chi eto am eich ymroddiad ac am barhau â'ch gwaith caled. Cymerwch ofal.

Yn gywir

Gillian Baranski sig

 

 

 

 

Gillian Baranski
Y Prif Arolygydd
Arolygiaeth Gofal Cymru


Responding to the pandemic crisis: our approach to recovery

 

Dear Colleague

I am aware you have received a lot of communication over the last two months and whilst not wishing to add to this, I thought it important to update you on our planning as Care Inspectorate Wales moves from responding to the pandemic crisis to considering our approach to recovery.

Firstly, I would like to thank you and your teams once again for your hard work in difficult circumstances during the pandemic. The death of so many people living in care homes is extremely upsetting and I know how distressing this has been for families and for staff caring for people.

Our ‘check-in’ calls with you have identified the positive and innovative ways you have been managing as well as the challenges and frustrations you have had to contend with. Please be assured we have been and continue to raise these issues with relevant partners.

We are now considering how we move from responding to the crisis, to the next phase of ‘recovery’. We are aware families and friends are very keen to visit people living in care homes and we are working closely with the Welsh Government and other key stakeholders to consider how this can be done safely. We are running a media campaign to gather views on this and are keen to know any ideas you have. You can share your views via an online form which can be accessed via our website. At present, the advice to restrict visitors as set out in the letter from Albert Heaney, Deputy Director General, Health and Social Services, on 23 March is still in place, alongside the general rule to only meet with one other household outside. Guidance for providers and families about people safely visiting care services will be produced as soon as possible.

We are also now discussing how we move towards recovery in our public assurance and oversight role. There are a small number of services where our concerns are such that we will be carrying out an inspection, underpinned by public health advice on how to do so safely. We do not intend to resume routine inspections until it is safe to do so and are working closely with local authority and health board commissioners to consider how we can be assured people are safe and their well-being promoted by effectively sharing information and co-ordinating activity. We hope this will minimise the demands on providers and the number of people coming in to care homes whilst community transmission of COVID-19 remains.

It is very positive that testing is now more widely available but we have heard there is some nervousness about this because of the impact on services if a number of asymptomatic staff test positive and need to self-isolate. Whilst we recognise this concern, it is important to follow Welsh Government and Public Health Wales guidance. We know commissioners are considering how they can support any service in this situation.

We will be considering how we move from our recovery phase to the next stage and this will not necessarily mean a return to how we did things pre-pandemic as we have learned there are different ways of carrying out our role. If you have ideas or suggestions, please do send them in to us at CIW@gov.wales. We also hope to hold virtual provider events later in the year which will provide further opportunities for discussion.

Thank you again for your dedication and continuing hard work. Take care.

Yours sincerely

Gillian Baranski sig

 

 

 

 

Gillian Baranski
Chief Inspector
Care Inspectorate Wales


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2020 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us