Saesneg yn isod / English below
Mynnwch ein newyddion diweddaraf yng Nghymraeg yn unig
Newyddion mis Medi
Swyddi ar gael!
|
|
Os diddordeb mewn gweithio i ni? Gweler rhestr o swyddi gwag isod a allai fod o ddiddordeb i chi :
|
Helpu plant i fod yn ‘Barod i Ddysgu’ pan fyddant yn cychwyn ysgol
Datblygwyd
Llywodreaeth Cymru pecyn 'Barod i
ddysgu' ar gyfer rhieni / gofalwyr plant sy’n dechrau ysgol gyda syniadau ac
awgrymiadau o bethau y gellir ei wneud yn y cartref i gefnogi trosiad i'r ysgol
gynradd.
Yn y pecyn mae taflen i rieni cyn ysgol fel cyflwyniad i'r cysyniad o ' Barod i ddysgu' a siart gweithgaredd gyda sticeri gwobrwyo i blant i weithio drwy'r gyda'u rhieni/gofalwyr yn y cyfnod sy’n arwain at ddechrau yn yr ysgol.
Datblygwyd animeiddiad fideo byr Barod i ddysgu i siarad rhieni a gofalwyr trwy'r hyn y gallant ei wneud gartref gyda'u plentyn i'w cael yn barod ar gyfer ysgol.
|
Barod i Ddysgu ydy ymgyrch diweddaraf Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref, cynllun Llywodraeth Cymru i wneud y cartref yn amgylchedd dysgu hwyl i
blant, fel eu bod yn cael y blaen mewn bywyd.
Os hoffech
chi becynnau ychwanegol neu fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, cysylltwch â Dechraucartref@gov.wales
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur ar gyfer mis Hydref
5ed - Cynhadledd Gofal Flynyddol, Stadiwm Dinas Caerdydd - Byddwn yn bresennol ynghyd â'r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans
9fed - Cynhadledd Gofal Cartref, Llanidloes - Bydd David Francis, ein Prif Arolygydd Cynorthwyol yn siarad
17eg - Care Road Show - Stadiwm Dinas Caerdydd - Byddwn yn mynychu a darparu diweddariad o ran Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 newydd
24ain - Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru, Seminar
Dysgu o brofiadau pobl hŷn i wella ymarfer, Canolfan yr Holl
Genhedloedd Caerdydd
|