Torfaen Weekly News Bulletin 07.07.23

07.07.2023

weekly news
Blaenavon investment plans

£1.1m for Blaenavon

More than £1m is being invested in transforming three derelict buildings in Blaenavon. 

Work to renovate the old Market Tavern pub and a former bookmakers, on Broad Street, has already started, with both to become home to new commercial properties and flats.

Work has also started on a former butchers, next to Bethelehem Chapel, which is to become a takeaway. All three projects are due to be completed by the beginning of next year. Read more about the plans for Blaenavon town centre

£1.1m o fuddsoddiad i Flaenafon

Mae mwy nag £1m yn cael eu buddsoddi yn nhrawsnewidiad tri adeilad gwag yng nghanol tref Blaenafon.

Mae gwaith i adnewyddu hen dafarn y Market Tavern a chyn siop fetio, ar Broad Street, wedi dechrau eisoes, gyda’r ddau yn mynd i fod yn eiddo masnachol a fflatiau.

Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar gyn siop cigydd, wrth ymyl Capel Bethlehem, a fydd yn dod yn siop tecawê. Mae disgwyl i’r tri phrosiect gael eu cwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf. Rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer canol tref Blaenafon.

carreg lam graduates

First pupils graduate from Carreg Lam

This week, the first set of pupils from Torfaen’s newly established Welsh Language Immersion Unit – Carreg Lam, have graduated.

 

Nine pupils completed the 12-week education programme, learning the Welsh Language in a structured and innovative way.

 

They will now join their main-stream classes and will continue to be supported by the centre in their schools before the next round of pupils arrive in September.

 

Read more about Carreg Lam here.

 

Disgyblion cyntaf yn gadael Carreg Lam

Heddiw, mae’r disgyblion cyntaf o Uned Drochi Iaith Gymraeg newydd Torfaen – Carreg Lam, wedi graddio.

 

Cwblhaodd naw o ddisgyblion y rhaglen addysg 12 wythnos o hyd, gan ddysgu’r iaith Gymraeg mewn ffordd strwythuredig ac arloesol.

 

Byddan nhw nawr yn ymuno â dosbarthiadau yn y brif ffrwd a byddan nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan y ganolfan yn eu hysgolion cyn i’r disgyblion nesaf gyrraedd fis Medi.

 

Darllenwch fwy am Garreg Lam yma.


Gary Meale and Kate Brayford

New team to tackle carbon emissions

It's Net Zero Week - which aims to highlight the importance of reducing and offsetting carbon emissions to tackle climate change.

 

Torfaen Council is developing a Local Area Energy Plan to transform how energy is consumed and generated across the borough and to develop a zero carbon energy system. 

 

Two new officers have also been appointed to help residents, communities and businesses become net zero. Meet our new decarbonisation officers Gary Meale and Kate Blayford.

 

Tîm newydd i daclo allyriadau carbon

Mae’n Wythnos Sero Net – sy’n anelu at amlygu pwysigrwydd lleihau allyriadau carbon a’u gwrthbwyso er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

Mae Cyngor Torfaen yn datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol er mwyn trawsnewid y ffordd y mae ynni’n cael ei ddefnyddio, a’i gynhyrchu, ar draws y fwrdeistref, ac i ddatblygu system ynni ddi-garbon. 

 

Penodwyd dau swyddog newydd hefyd, er mwyn helpu trigolion, cymunedau a busnesau i ddod yn sero net. Dewch i gwrdd â’n swyddogion datgarboneiddio newydd, Gary Meale a Kate Blayford.


catering team award

Catering team wins award for sustainability

Our school catering team has won a national award for their sustainable approach to school dinners.  

 

They were nominated for the LACA award which recognises organisations who are driving progressive change in school meals.

 

The team has produced an innovative and interactive sustainable school meals roadmap which aims to transform the way school dinners are planned, sourced and produced, to reduce carbon emissions. You can see the map here

 

Tîm arlwyo yn ennill gwobr am gynaliadwyedd

Mae ein tîm arlwyo ysgolion wedi ennill gwobr genedlaethol am eu dull cynaliadwy o ymdrin â chiniawau ysgol.  

 

Cawsant eu henwebu am wobr LACA sy'n cydnabod sefydliadau sy'n sbarduno newid cynyddol mewn prydau ysgol.

 

Mae’r tîm wedi llunio llwybr prydau ysgol cynaliadwy sy’n arloesol a rhyngweithiol gyda’r nod o newid ffynonellau, dulliau cynllunio a chynhyrchu prydau ysgol, i leihau allyriadau carbon. Gallwch weld y llwybr yma


clean air

Pupils lobby for clean air bill

More than 100 pupils from a school in Cwmbran have campaigned to the Senedd to introduce a Clean Air Bill in Wales.

 

Students from the Federation of Blenheim Road and Coed Eva Community Primary Schools told members of the Environment and Infrastructure Committee at the Senedd that air pollution was a major concern everyone.

 

Evidence suggests CO2 emissions around schools directly affects air quality and children's health on their commute to school. Read more here.

 

Disgyblion yn galw am aer glanach

Mae dros 100 o ddisgyblion o ysgol yng Nghwmbrân wedi ymgyrchu i'r Senedd gyflwyno Bil Aer Glân yng Nghymru.

 

Dywedodd myfyrwyr o Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Blenheim Road a Choed Eva wrth aelodau Pwyllgor yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd fod llygredd aer yn bryder mawr i bawb.

 

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod allyriadau CO2 o amgylch ysgolion yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd aer ac iechyd plant wrth iddynt deithio i'r ysgol.


Safer at 20

Preparation work for 20mph

Work to install new road signs will begin next week ahead of the introduction of a new 20mph speed limit.

 

From 17 September 2023, the default speed limit in built up areas in Wales will reduce from 30mph to 20mph.

 

Work to install posts and signs will begin in Cwmbran and is expected to take six weeks. Work on routes in Pontypool, Blaenavon and Ponthir will start in mid-August and be completed by 17 September. 

 

The signs will be covered until closer to the implementation date. Read more about the introduction of 20mph in Torfaen.

 

Gwaith paratoi ar 20mya newydd

Bydd gwaith i osod arwyddion ffyrdd newydd yn dechrau’r wythnos nesaf cyn cyflwyno cyfyngiad cyflymder 20mya newydd.

 

O 17 Medi 2023, bydd y cyfyngiad cyflymder rhagosodedig mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn gostwng o 30mya i 20mya.

 

Bydd gwaith i osod pyst ac arwyddion yn dechrau yng Nghwmbrân a disgwylir iddo gymryd chwe wythnos. Bydd gwaith ar ffyrdd ym Mhont-y-pŵl, Blaenafon a Phonthir yn dechrau ganol Awst a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 17 Medi. Ariennir y cynllun yn llawn gan Lywodraeth Cymru.

 

Bydd yr arwyddion yn cael eu gorchuddio tan yn nes at y dyddiad gweithredol.


summer reading challenge

Torfaen Summer Reading Challenge 

To mark the launch of the Summer Reading Challenge, come and join our librarians at Cwmbran Library from 9:30am this Saturday, to take part in some delightful crafts and activities.

 

Afterwards, you can sign your little ones up for the reading challenge!

 

If you can't make it to Cwmbran Library, don't worry! You can also register at Pontypool Library and Blaenavon Library. For the opening times, visit: www.torfaen.gov.uk

Learn more about the Summer Reading Challenge

 

Sialens Ddarllen yr Haf Torfaen

I nodi lansiad Sialens Ddarllen yr Haf, dewch i ymuno â’n llyfrgellwyr yn Llyfrgell Cwmbrân o 9:30yb dydd Sadwrn yma, i gymryd rhan mewn crefftau a gweithgareddau hyfryd.

 

Ar ôl hynny, gallwch gofrestru eich plant ar yr her ddarllen!

 

Os na fedrwch chi ddod i Lyfrgell Cwmbrân, peidiwch â phoeni! Gallwch hefyd gofrestru yn Llyfrgell Pont-y-pŵl a Llyfrgell Blaenafon. I weld yr amserau agor rhowch glic ar: www.torfaen.gov.uk.

 

Dysgwch fwy am her ddarllen yr haf


Annual Canvass

Are you registered?

Thank you to everyone who has responded as part of the annual canvass.

 

You have until the end of July to reply to the Communication A email. If you received a letter and don’t need to make any changes, you don’t need to respond.

 

We’ll be sending Communication B letters next week. Not everyone will get one – they are to double check specific information. Please respond by the end of July.

 

If you don’t receive an email or letter, you may not be registered. You can register here or contact the elections team on 01495 762200 or email voting@torfaen.gov.uk

 

Ydych chi wedi’ch cofrestru?

Diolch i bob un sydd wedi ymateb yn rhan o’r canfasio blynyddol.

 

Mae gennych hyd nes ddiwedd Gorffennaf i ateb yr e-bost â’r llinell destun ‘Communication A’. Os cawsoch lythyr ac nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau arnoch, ni fydd angen i chi ymateb.

 

Byddwn yn anfon llythyron Cyfathrebu B/Communication B yr wythnos nesaf.  Ni fydd pob un yn cael llythyr. Eu diben yw gwirio gwybodaeth benodol. Dylech ymateb erbyn diwedd mis Gorffennaf.

 

Os nad ydych wedi cael neges e-bost na llythyr, yna efallai nad ydych wedi’ch cofrestru. Gallwch gofrestru yma neu gysylltu â’r tîm etholiadau ar 01495 762200 neu anfon neges e-bost i voting@torfaen.gov.uk


stretchy plastic reccycling

Stretchy plastic recycling

Working with local company Capital Valley Plastics, residents can now drop off their stretchy plastic at the new recycling point in the Civic Centre, Pontypool, to be recycled. Find out more about the recycling point in the Civic Centre

 

Once collected, stretchy plastic can be recycled and turned into damp proof membrane for houses. Take a look at this short video to find out how stretchy plastic is recycled

 

Ailgylchu plastig ymestynnol

Mewn cydweithrediad â’r cwmni lleol Capital Valley Plastics, gall trigolion nawr fynd â’u plastig ymestynnol i’r man ailgylchu newydd yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, i’w ailgylchu. Darganfod mwy am y pwynt ailgylchu yn y Ganolfan Ddinesig

 

Wedi ei gasglu, gellir ailgylchu plastig ymestynnol a’i droi yn groenyn atal lleithder ar gyfer tai. Cymerwch olwg ar y fideo byr hwn i ddarganfod sut mae plastig ymestynnol yn cael ei ailgylchu.


asb week

Anti-social Behaviour Week

Council teams have been working with the police and probation service to support Anti-Social Behaviour Week.


A series of pro-active events like litter picks have taken place and meetings for residents to report issues.


Research has found almost 1 in 5 people have considered moving home because of the impact ASB , 1 in 10 have actually moved.


Anyone with concerns can speak to our Community Safety team on 01495 762200.

Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Mae timau'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r heddlu a'r gwasanaeth prawf i gefnogi Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhagweithiol fel casglu sbwriel, a threfnwyd cyfarfodydd i drigolion roi gwybod am faterion.

 

Mae ymchwil wedi canfod bod bron i 1 o bob 5 o bobl wedi ystyried symud adref oherwydd effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae 1 o bob 10 wedi symud mewn gwirionedd

 

Gall unrhyw un sy’n gofidio, siarad â’n tîm Diogelwch Cymunedol ar 01495 762200.


volunteer awards

Torfaen Community and Volunteer Awards

Do you know of a volunteer, community group or business which goes above and beyond for their community? If so, why not nominate them for this year’s Torfaen Community and Volunteer Awards.

 

The awards ceremony aims to celebrate unsung heroes across a variety of different areas, including environment and sustainability, health and business and the heart of the community award – which celebrates the achievements of a community group.

 

To nominate an individual, business, organisation or group, visit the TVA Wales website.

 

Read more about the Torfaen Community and Volunteer Awards

Gwobrau Cymuned a Gwirfoddolwyr Torfaen

 

Ydych chi’n gwybod am wirfoddolwr, grŵp cymunedol neu fusnes sy’n mynd yr ail filltir dros eu cymuned? Os felly, beth am eu henwebu ar gyfer Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr Torfaen eleni.

 

Bwriad y seremoni wobrwyo yw dathlu arwyr anhysbys mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys yr amgylchedd a chynaliadwyedd, iechyd a busnes a gwobr calon y gymuned – sy’n dathlu llwyddiannau grŵp cymunedol.

 

I enwebu unigolyn, busnes, sefydliad neu grŵp, ewch y wefan TVA Cymru.

 

Darllenwch fwy am Wobrau Cymuned a Gwirfoddolwyr Torfaen


tax credits

Tax credits dead fast approaching

If you are in receipt of tax credits, you now have less than one month to renew your claim - or risk having payments stopped.

 

Circumstances that could affect tax credits payments include changes to living arrangements, childcare, working hours or a change in income.

 

The quickest and easiest way for customers to renew their tax credits is digitally via GOV.UK or the HMRC app.

Dyddiad cau credydau treth yn prysur agosáu

Os ydych chi’n cael credydau treth, yna mae gennych lai na mis i adnewyddu eich cais – neu fe allai eich taliadau stopio.

 

Mae’r amgylchiadau a allai effeithio ar daliad eich credydau treth yn cynnwys newid i’ch trefniadau byw, gofal plant neu oriau gwaith neu newid i’ch incwm.

 

Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf i gwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth  yw gwneud hynny’n ddigidol ar GOV.UK neu trwy ap CThEF.


Torfaen Summer Fun Fest

Torfaen Summer Fun Fest 

Torfaen Summer Fun Fest kicks off at the end of the school term and is open to all children and young people in Torfaen, aged 0 to 25.

 

A wide range of activities will be on offer up until September, including educational workshops, arts and crafts, seasonal sports, excursions and more.

 

Find out more about Torfaen's Summer Fun Fest here.

 

Gŵyl Hwyl Haf Torfaen

Bydd Gŵyl Hwyl Haf Torfaen yn dechrau ar ddiwedd tymor yr ysgol a bydd yn agored i blant a phobl ifanc Torfaen i gyd, o 0 i 25 oed.

 

Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael tan fis Medi, gan gynnwys gweithdai addysgol, celf a chrefft, chwaraeon tymhorol, teithiau a mwy.

 


school uniform shop

School Uniform Shop Donations

Calling all parents of school age children! Are you looking to donate pre-loved school uniforms, PE kits or other school essentials?

 

Then you're in luck! We have a range of donation points set up across the borough for our upcoming Nifty Thrifty School Uniform Shop and Swap events in August.

 

A list of donations point can be found here

 

All donations need to be in good, clean condition and must be delivered to a donation point by Monday 24 July 2023.

 

Rhoddion siop gwisg ysgol

Yn galw rhieni plant ysgol! Ydych chi am roi gwisg ysgol ail-law, cit chwaraeon neu hanfodion ysgol eraill ?

 

Mae cyfle i chi felly! Mae gyda ni nifer o bwyntiau ar draws y fwrdeistref i chi gael rhoi i’n digwyddiadau Siop a Chyfnewid Gwisg Ysgol fis Awst.

 

Mae’n rhaid i bob dim sy’n cael ei roi fod yn lân ac mewn cyflwr da ac yn y pwynt casglu erbyn dydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

 


Head4Arts

Read the latest Torfaen Council news