Torfaen high school embraces Big Green Week
Pupils at a school in Pontypool have turned their school green as part of Great Big Green Week this week.
From climate quizzes and poster competitions, to litter picks and lobbying Senedd members on environmental law, students at St Albans’ RC School have embraced the theme of the week to tackle climate change and protect nature...
Find out more about what pupils have been up to
Ysgol uwchradd yn Nhorfaen yn croesawu'r Wythnos Werdd Fawr
Mae disgyblion ysgol ym Mhont-y-pŵl wedi troi eu hysgol yn werdd fel rhan o’r Wythnos Fawr Werdd.
Gyda chwis hinsawdd a chystadleuaethau poster, codi sbwriel a lobio aelodau’r Senedd ar gyfraith amgylcheddol, mae disgyblion Ysgol Gatholig Sant Alban wedi cofleidio thema’r wythnos o daclo newid yn yr hinsawdd a gwarchod natur...
Dysgwch fwy am yr hyn y mae’r disgyblion wedi bod yn ei wneud
Garnteg School backs #NotInMissOut
A school in Torfaen has seen an increase in attendance, thanks to an innovative approach to education.
Garnteg Primary School, in Pontypool, has seen its year-on-year attendance rate go from 91.1% in May 2022, to 91.6% in May 2023.
The achievement has been attributed to the school's commitment to providing rich learning opportunities and friendly competition between classes to lower unauthorised absences.
Read more about Garnteg Primary School's attendance success
Ysgol Garnteg yn cefnogi #DdimMewnColliMas
Mae ysgol yn Nhorfaen wedi gweld cynnydd ym mhresenoldeb ei disgyblion diolch i’w hagwedd arloesol at addysg.
Gwelodd Ysgol Gynradd Garnteg ym Mhont-y-pŵl ei chyfradd presenoldeb blwyddyn-ar-flwyddyn yn codi o 91.1% ym mis Mai 2022, i 91.6% ym mis Mai 2023.
Credir bod y cyrhaeddiad hwn yn ganlyniad i ymrwymiad yr ysgol i gynnig cyfleoedd dysgu cyfoethog, a chystadleuaeth gyfeillgar rhwng dosbarthiadau i leihau absenoldebau anawdurdodedig.
Darllenwch mwy am lwyddiant presenoldeb Ysgol Gynradd Garnteg
Pontypool Cultural Hub and Café Quarter plans take step forward
Preliminary work is due to take place next week ahead of 3-projects within Pontypool Town Centre.
Groundwork investigation will take place outside Glantorvaen Road car park from Wednesday 21 June to Friday 23 June. Please note during this time, the lower car park will be temporarily inaccessible.
On Sunday 25 June, work will take place at the Hanbury Road public toilets. The facilities will be temporarily closed for the day but alternative toilets will be available.
Find out more about the projects
Cynlluniau Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl a'r Ardal Gaffi yn cymryd cam ymlaen
Disgwylir i'r gwaith rhagarweiniol fynd rhagddo'r wythnos nesaf cyn cyflwyno 3 phrosiect yng Nghanol Tref Pont-y-pŵl.
Bydd ymchwiliad gwaith daear yn digwydd y tu allan i'r maes parcio o Glantorvan Road ddydd Mercher 21 Mehefin tan ddydd Gwener 23 Mehefin. Noder, yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd mynediad dros dro i faes parcio isaf.
Yn ogystal, ar ddydd Sul 25 Mehefin, bydd gwaith yn mynd rhagddo ar safle toiledau Hanbury Road. Bydd y cyfleusterau ar gau dros dro am y dydd ond bydd toiledau eraill ar gael.
Darganfod mwy am y prosiectau
Veterans Support Hub to open
Torfaen Council is proud to announce the launch of a new veterans’ support hub which opens in Cwmbran next week, as part of Armed Forces Week 2023.
Torfaen Veterans Support Hub is located at Woodland Road Sports and Social Club and aims to create a secure and inviting space where veterans can connect with fellow individuals who have shared similar experiences.
Read more about the veterans support hub
Hwb Cymorth i Gyn-filwyr ar Fin Agor
Mae Cyngor Torfaen yn falch o gyhoeddi lansiad hwb cymorth i gyn-filwyr newydd, sy’n agor yng Nghwmbrân yr wythnos nesaf yn rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog 2023.
Mae Hwb Cymorth i Gyn-filwyr Torfaen yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road. Mae’n anelu at greu lle diogel a chroesawgar lle gall cyn-filwyr ddod i gysylltiad ag unigolion sydd wedi cael profiadau tebyg.
Darllenwch mwy am yr hwb cymorth i gyn-filwyr
Nifty Thrifty School Uniform Shop returns
With just weeks to go until the end of the school year, parents may already be concerned about the cost of buying new school uniform for the autumn return.
To follow on from the success of last year’s Nifty Thrifty school uniform shop and swap, Torfaen Council is hosting two other events this year, taking place on:
- Wednesday 16 August, 11am - 2pm, at Pontypool Indoor Market.
- Tuesday 22 August, 11am - 2pm at the Congress Theatre, Cwmbran
As well as good quality, pre-loved uniforms, there will be PE kits, coats, bags, shoes and stationery, all free of charge.
Click here to find out how can donate any pre-loved items.
Dychwelyd yn gynnil i'r ysgol
Gydag wythnosau yn unig i fynd tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, efallai bod rhieni’n pryderu eisoes am gost prynu gwisg ysgol newydd ar gyfer tymor yr hydref.
I ddilyn ymlaen o lwyddiant Siop Craff a Chynnil y llynedd pan oedd cyfle i siopa a chyfnewid gwisg ysgol, mae Cyngor Torfaen yn cynnal dau ddigwyddiad arall eleni, a hynny:
- Ddydd Mercher 16 Awst, 11am - 2pm, ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
- Dydd Mawrth 22 Awst, 11am - 2pm yn Theatr y Congress, Cwmbrân
Yn ogystal â gwisgoedd ail law o ansawdd da, bydd dillad chwaraeon, cotiau, bagiau, esgidiau ac offer ysgrifennu am ddim.
Cliciwch yma i weld sut y gallwch gyfrannu eitemau ail-law.
Black box recycling
Don't let your recycling pile up.
No matter how small, we're here to collect it each week.
Together we can #RaisetheRate
Ailgylchu bocs du
Peidiwch â gadael i’ch ailgylchu gronni.
Waeth pa mor fach, rydym ni yma i’w gasglu pob wythnos.
Gyda’n gilydd, gallwn #CodirGyfradd
Community review consultation
There are 6 community councils in Torfaen, covering Blaenavon, Croesyceiliog and Llanyrafon, Cwmbran, Henllys, Ponthir and Pontypool.
Every 10 years, a community review must be done to ensure their size, structure and boundaries reflect the nature of local communities. To take part, visit Get Involved Torfaen.
Ymgynghoriad adolygiad cymunedol
Mae yna 6 chyngor cymuned yn Nhorfaen, sef Blaenafon, Croesyceiliog a Llanyrafon, Cwmbrân, Henllys, Ponthir a Phont-y-pŵl.
Pob 10 mlynedd, mae’n rhaid cynnal adolygiad cymunedol i sicrhau bod eu maint, strwythur a ffiniau’n adlewyrchu natur cymunedau lleol. I gymryd rhan, ymweld Dweud Eich Dweud Torfaen.
Nursery Admissions
September 2024 Nursery admissions forms, for children born between 1/09/2020 and 31/08/2021, have now been mailed out to parents and carers.
If you have not received any correspondence by Friday 16 June, please download an application form from our website or contact school.admissions@torfaen.gov.uk
The deadline for applications is Friday 21 July.
Derbyn i feithrinfeydd
Mae ffurflenni derbyn i’r Meithrin ym mis Medi 2024 ar gyfer disgyblion a anwyd rhwng 1/09/2020 a 31/08/2021, bellach wedi eu hanfon at rieni a gofalwyr.
Os nad ydych wedi derbyn unrhyw ohebiaeth erbyn dydd Gwener 16 Mehefin, a fyddech cystal â lawr lwytho ffurflen gais o’n gwefan www.torfaen.gov.uk neu, cysylltwch ar school.admissions@torfean.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 21 Gorffennaf.
Get ready for 20mph
Across Wales, most roads with 30mph default speed limits are changing to 20mph from the 17th September 2023. #ReadyFor20mph
Byddwch yn barod am y 20mya
O 17 Medi 2023, bydd cyfyngiadau cyflymder 30mya yn cael eu gostwng i 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac ar strydoedd prysur i gerddwyr ledled Cymru. #BarodAm20mya
|