Torfaen Weekly News Bulletin 28.04.23

28.04.2023

weekly news
Purple-lidded bin, cardboard, black recycling box with net and food waste

Raise the Rate 

Council Leader Anthony Hunt has announced an end to the consultation on three or four weekly purple-lidded bin collections.

Speaking at a meeting of the Full Council this week, Cllr Hunt said he and the Executive Member for the Environment had listened to residents’ concerns and were prepared to take alternative action to increase household recycling rates.  

He also announced a new survey will take place next month, as part of a new Raise the Rate campaign.

Message from Council Leader Cllr Hunt. 

Codi’r Gyfradd 

Mae Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, wedi cyhoeddi diwedd ar yr ymgynghoriad ar gasglu biniau â chlawr porffor bob tair wythnos neu bob pedair wythnos.

Wrth siarad mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn yr wythnos hon, dywedodd y Cynghorydd Hunt ei fod ef, a’r Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, wedi gwrando ar bryderon trigolion ac yn barod i gymryd camau gwahanol er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu aelwydydd.  

Dywedodd hefyd y byddai arolwg newydd ar y gweill fis nesaf, yn rhan o ymgyrch newydd Codi’r Gyfradd.

Neges gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hunt. 

Bins

Waste and recycling collections

Crews will be working on Bank Holiday Monday, so please leave your waste and recycling out as normal.  

 

Due to issues with some vehicles this week, crews will also be working over the weekend to collect any missed purple-lidded bins, so please leave out.

 

Any garden waste collections missed will be collected on residents next scheduled collection date. 

 

Find out about other office Bank Holiday changes

 

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Bydd y criwiau’n gweithio ddydd Llun Gŵyl y Banc, felly cofiwch roi’ch gwastraff a’ch deunydd i’w ailgylchu allan fel arfer. 

 

Am i ni gael trafferthion gyda rhai o’n cerbydau'r wythnos hon, bydd y criwiau’n gweithio dros y penwythnos hefyd, i gasglu unrhyw finiau â chlawr porffor a gollwyd. Felly cofiwch eu gadael allan. 

 

Bydd unrhyw gasgliadau gwastraff gardd a fethwyd yn cael eu casglu ar y dyddiad casglu nesaf a drefnwyd i breswylwyr.

 

Rhagor o wybodaeth am newidiadau eraill yn y swyddfa oherwydd Gŵyl y Banc


Croesyceiliog school podcast team

Welsh stars speak to school podcast

Students at Croesyceiliog Comprehensive School have been interviewing Welsh stars for a new school podcast. 

 

The team of six Year 7 pupils have already interviewed First Minister Mark Drakeford, opera singer Katherine Jenkins and Hollywood actor Luke Evans for Croesycast, which is available on the school's website. Read more here #NotInMIssOut.

 

Podlediad ysgol yn siarad â sêr o Gymru 

Mae myfyrwyr o Ysgol Gyfun Croesyceiliog wedi bod yn cyfweld â sêr o Gymru ar gyfer podlediad newydd yr ysgol.  

 

Mae’r tîm o chwe disgybl o Flwyddyn 7 eisoes wedi cyfweld â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y gantores opera, Katherine Jenkins a seren Hollywood, Luke Evans, ar gyfer Croesycast, sydd ar gael ar wefan yr ysgol. Darllenwch fwy yma #DdimYnoColliAllan.


griff primary

School wins digital film award

A team of primary school pupils from Pontypool has come third in a national competition to produce a video to promote internet safety.

 

The members of Griffithstown Primary School’s Digital Leaders Club competed against 40 schools across Wales in the National Hwb Safer Internet Day Film competition.

 

Their video called Harry Tiktoker and the Digital Wizard World is now available for use by other schools on the Hwb digital learning platform #NotInMissOut.

 

Read more about the Griffithstown Primary School award

 

Ysgol yn ennill gwobr am ffilm ddigidol

Mae tîm o ddisgyblion ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl wedi dod yn drydydd mewn cystadleuaeth genedlaethol i gynhyrchu fideo i hyrwyddo diogelwch ar y rhyngrwyd.

 

Fe fu aelodau Clwb Arweinwyr Digidol Ysgol Gynradd Griffithstown yn cystadlu yn erbyn 40 ysgol yng Nghymru yng nghystadleuaeth genedlaethol Ffilm ‘Diwrnod Defnyddio’r Rhyngwyd yn Fwy Diogel’ Hwb.

 

Enw eu fideo oedd Harry Tiktoker and the Digital Wizard World ac mae ar gael nawr er mwyn i ysgolion eraill ei defnyddio, ar blatfform dysgu digidol Hwb #DdimYnoColliAllan.

 


dementia support group

New dementia support group

A new support group is providing a welcoming space and activities for people living with dementia, memory loss and their carers.

 

The Forget Me Not Friday group is run by Torfaen Council's Community Connectors and meets every Friday at Cwmbran Library, 1pm to 3pm.

 

The group is designed to provide a safe and supportive environment for individuals to socialise and engage in free dementia-friendly activities, while their carers chat over a cuppa.

 

Read more about the 'Forget Me Not Friday' dementia support group

Grŵp cymorth dementia newydd

Mae grŵp cymorth newydd yn cynnig lle croesawgar a gweithgareddau i bobl sy’n byw gyda dementia a cholli’r cof, a’u gofalwyr.

 

Cysylltwyr Cymunedol Cyngor Torfaen sy’ rhedeg grŵp Forget Me Not Friday ac mae’n cwrdd bob dydd Gwener yn Llyfrgell Cwmbrân, o 1pm tan 3pm.

 

Cynlluniwyd y grŵp fel amgylchedd diogel a chefnogol, lle gall unigolion gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhad ac am ddim sy’n meddwl am bobl â dementia, tra bod eu gofalwyr yn cael sgwrs dros baned.

 

Darllenwch fwy am y grŵp cefnogi dementia 'Forget Me Not Friday'


golfing

Charity golf day

Golfing enthusiasts, golf widows, even golfing amateurs are invited to take part in the Torfaen Mic Morris Charity Golf fundraiser this summer.

 

Participants will tee-off at Pontypool Golf Club on Friday 9 June, where they will play a full 18-holes of golf to raise funds for the Torfaen Mic Morris Trust – a charity which supports young sports stars and athletes.

 

The competition is open to individuals and teams and play in a friendly Texas scramble format. To enter, players will need to have a maximum handicap of 28.

 

Learn more about how you can sign up for this event

 

Diwrnod golff elusennol

Mae yna wahoddiad i bob un sydd wrth eu bodd â golff, y rheiny sy’n colli eu partner i’r golff yn rheolaidd a hyd yn oed amaturiaid, i gymryd rhan yn nigwyddiad Golff Elusennol Mic Morris Torfaen yr haf hwn.

 

Bydd yr hwyl yn dechrau yng Nghlwb Golff Pont-y-pŵl ddydd Gwener 9 Mehefin, a’r rheiny sy’n cymryd rhan yn chwarae 18-twll llawn o golff. Y nod yw codi arian i Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen – elusen sy’n cefnogi sêr chwaraeon ac athletwyr ifanc.

 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unigolion a thimau ac mae’r chwarae ar ffurf “Texas scramble” cyfeillgar. Er mwyn cystadlu, bydd gofyn bod gan chwaraewyr handicap sydd heb fod yn fwy na 28.

 


acl pic

Looking to enrol on a GCSE course this September?

Just like Alex Madden did last year - he achieved a C grade in GCSE English after being supported to complete several qualifications with Torfaen Adult Community Learning.

 

Alex, 36, from Pontypool, has now enrolled on a free Essential Skills Maths class at the Settlement in Pontypool this term and hopes to study theology in the future.

 

If it has been several years since you last studied Maths, English, or other subjects, Torfaen Adult Community Learning offers a variety of free starter courses to help you brush away the cobwebs and improve your skills in a non-pressurised environment

 

Learn more about how you can study with Torfaen Adult Community Learning

 

Ydych chi’n ystyried cofrestru i wneud cwrs TGAU fis Medi hyn?

Dyna’n union a wnaeth Alex Madden y llynedd – enillodd TGAU Saesneg gradd C ar ôl cael cymorth i ddilyn sawl cymhwyster gan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen.

 

Erbyn hyn, mae Alex, sy’n 36, ac o Bont-y-pŵl, wedi cofrestru ar gyfer dosbarth Sgiliau Sylfaenol Mathemateg yn y ‘Settlement’ ym Mhont-y-pŵl y tymor hwn ac mae’n gobeithio astudio diwinyddiaeth yn y dyfodol.

 

Os nad ydych chi wedi astudio Mathemateg, Saesneg, neu bynciau eraill, ers sawl blwyddyn, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau cychwynnol rhad ac am ddim i’ch paratoi chi ac i wella’ch sgiliau, mewn amgylchedd lle na fydd unrhyw bwysau arnoch chi o gwbl.

 

Dysgwch fwy am sut y gallwch chi astudio gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen


consultations

Get involved Torfaen

We have two great consultations taking place right now.

 

The first one is all about building our food supply chains. We want to bring the community and businesses together to strengthen our food heritage and enable the food system to enhance our social, economic, and environmental impact. We believe that everyone should have access to healthy and sustainable food. 

 

The second consultation is focused on developing a 10-year strategy for managing our local canal. We want to make sure that this vital resource is well-maintained and that we're making the most of it for our community. 

 

Head to Get Involved Torfaen to take part. You can also sign up to the site and be among the first to be notified of future public consultations.  

 

Dweud eich dweud

Mae gennym ddau ymgynghoriad gwych ar y gweill ar hyn o bryd.

 

Mae’r ymgynghoriad cyntaf yn ymwneud â thyfu ein cadwyn cyflenwi bwyd. Rydyn ni eisiau dod â’r gymuned a busnesau ynghyd i gryfhau ein treftadaeth fwyd ac i alluogi’r system fwyd i wella’n heffaith ar gymdeithas, ar yr economi ac ar yr amgylchedd. Credwn y dylai bob un gael mynediad at fwyd iach a chynaliadwy. 

 

Ffocws yr ail ymgynghoriad yw datblygu strategaeth 10-mlynedd ynghylch rheoli ein camlas leol. Rydyn ni eisiau sicrhau bod yr adnodd hanfodol hwn yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, a’n bod yn manteisio i’r eithaf arno er budd ein cymuned. 

 

Head to Get Involved Torfaen to take part. You can also sign up to the site and be among the first to be notified of future public consultations.  


col payments

Cost of Living Payments

The UK government is set to offer further financial support to millions of households facing rising costs of living.

 

Eligible households on means-tested benefits and tax credits will receive three Cost of Living Payments totalling £900, with the first payment of £301 being issued between 25 April and 17 May.

 

No application is required as payments will be issued automatically.

 

Learn more about the Cost of Living payments

 

Taliadau Costau Byw

Mae Llywodraeth y DU yn barod i gynnig mwy o gymorth ariannol i filiynau o aelwydydd sy’n wynebu cynnydd mewn costau byw.

 

Bydd aelwydydd sy’n gymwys ac sy’n cael credydau treth a budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, yn cael tri Thaliad Costau Byw sy’n dod i gyfanswm o £900. Bydd y taliad cyntaf o £301 yn cael ei dalu rhwng 25 Ebrill ac 17 Mai.

 

Nid oes angen gwneud cais oherwydd mae’r taliadau’n cael eu talu’n awtomatig.

 

Rhagor o wybodaeth am y taliadau Costau Byw

Read the latest Torfaen Council news