|
Nearly 190 young carers in Torfaen have signed up for a national ID card, allowing them to be more visible within their communities.
The National ID card scheme was launched by Carers Trust Wales in 2021 and allows young carers to easily identify themselves to professionals, without having to share personal details about their caring role.
For example, the cards make it easier for young carers to collect prescriptions and tell teachers about their caring responsibilities.
Brandon Furley, 15, from Cwmbran, cares for his mother who suffers from an undiagnosed neurological disorder, and is one of 189 young carers who have a card in Torfaen.
As his mum experiences multiple seizures a day, this requires Brandon to take on lots of tasks around the house.
During a typical day he helps prepare lunchboxes, puts washing away and helps his mum, who is wheelchair bound, to move around the house.
Brandon said “Now I have my Young Carers ID card, I feel more recognised and it gives me a positive feeling that I am not alone”.
Being a part of Torfaen young carers has allowed me to do activities I wouldn't normally be able to do. I really enjoy going to youth club and on residentials, where I have learnt to build a go-cart”.
As a reward for young carers, the new ID card also entitles them to gain free access to Torfaen Leisure Trust gyms, swimming pools and fitness classes, and also includes free entry into Greenmeadow Community farm.
Torfaen Executive Member for Children, Families & Communities, Councillor Fiona Cross, said: “It’s fantastic to hear that all the young carers we know about have signed up for the ID cards, especially as the scheme was only launched last year.
“I now hope that other young carers who may not be aware of the cards, or the support we can offer them, get in touch. We want to help them be more visible and get the recognition they rightly deserve.”
To mark Carers Week 2022, this week young carers from across the borough took part in one hour walk around Cwmbran Boating Lake, waving their flags to be visible and recognised for what they do.
To be eligible to apply for the Young Carers National ID card, individuals must be helping look after a family member who is sick, disabled, has mental health problems or is affected by substance misuse.
For more information or to apply for the ID card, search for Young Carers on the Torfaen Council Website.
Mae bron i 190 o ofalwyr ifanc yn Nhorfaen wedi cofrestru i gael cerdyn adnabod cenedlaethol, sy’n caniatáu iddyn nhw fod yn fwy gweladwy yn eu cymunedau.
Lansiwyd y cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn 2021 ac mae’n caniatáu i ofalwyr ifanc ddangos i weithwyr proffesiynol mai dyna ydyn nhw, heb orfod rhannu manylion personol am eu rôl ofalu.
Er enghraifft, mae’r cerdyn yn ei gwneud yn haws i ofalwyr ifanc nôl presgripsiwn a dweud wrth eu hathrawon am eu cyfrifoldebau gofalu.
Mae Brandon Furley, 15 oed, o Gwmbrân, yn gofalu am ei fam sy’n dioddef cyflwr niwrolegol heb ddiagnosis, ac mae’n un o 189 o ofalwyr ifanc gyda’r cerdyn yn Nhorfaen.
Gan fod ei fam yn cael nifer o drawiadau bob dydd, mae hyn yn golygu bod Brandon yn ymgymryd â llawer o dasgau o gwmpas y tŷ.
Mewn diwrnod nodweddiadol, mae’n helpu i baratoi bocsys cinio, cadw’r dillad a helpu ei fam, sydd mewn cadair olwyn, i symud o gwmpas y tŷ.
Meddai Brandon: “Nawr bod gen i gerdyn adnabod gofalwr ifanc, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghydnabod ac mae’n rhoi teimlad positif i mi nad ydw i ar fy mhen fy hun.
“Mae bod yn rhan o ofalwyr ifanc Torfaen wedi caniatáu i mi ymgymryd â gweithgareddau na fyddwn fel arfer yn gallu eu gwneud. Rwy’n mwynhau mynd i’r clwb ieuenctid a sesiynau preswyl, lle rydw i wedi dysgu adeiladu go-cart”.
Fel gwobr i ofalwyr ifanc, mae’r cerdyn adnabod newydd hefyd yn rhoi hawl iddyn nhw ddefnyddio campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, a mynediad am ddim i Fferm Gymunedol Dôl Werdd.
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: “Mae’n wych clywed bod yr holl ofalwyr ifanc rydym yn gwybod amdanyn nhw wedi cofrestru i gael cerdyn adnabod, yn enwedig gan mai dim ond y llynedd y lansiwyd y cynllun.
“Rwyf nawr yn gobeithio y bydd gofalwyr ifanc eraill, nad ydynt efallai yn gwybod am y cynllun, neu’r cymorth y gallwn ei gynnig iddyn nhw, yn cysylltu â ni. Rydym eisiau iddyn nhw fod yn fwy gweladwy a chael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu.”
I nodi Wythnos Gofalwyr 2022, cymerodd gofalwyr ifanc yn y fwrdeistref ran mewn taith awr o gwmpas Llyn Cychod Cwmbrân, gan chwifio eu baneri i gael eu gweld a’u cydnabod am yr hyn maent yn ei wneud.
I fod yn gymwys i wneud cais am gerdyn adnabod cenedlaethol Gofalwyr Ifanc, rhaid i unigolion fod yn helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd wedi ei effeithio gan gamddefnyddio sylweddau.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais, chwiliwch am Ofalwyr Ifanc ar wefan Cyngor Torfaen.
|