|
After the disappointment of the last two years, the Mic Morris Trust is delighted to be welcoming runners back to the start line in Blaenavon for the Torfaen 10k.
In what will be its 10th instalment, more than 1,000 runners are expected to take part in the popular road race on Sunday 10 July.
As with previous years, runners will line up at the starting line on Cwmavon Road in Blaenavon at 8:30am, with the race commencing at 9am.
A full road closure will be in place from Cwmavon Road, Blaenavon to Pontypool Park between 8am and 11:30am.
The Mic Morris 10k race is suitable for all runners and the minimum age for entrants is 15 years old. All runners will be chip timed and will receive a finishers bag when they cross the line, which includes a medal, tech t-shirt and other goodies.
With more than half of the spaces already taken, you’ll need to be quick out of the blocks to secure your place. Applications can be completed online.
For those that require transport on the day, a return shuttle bus from Pontypool Active Living Centre carpark to Blaenavon will be available when you book online.
All profits from the race will be donated to the Mic Morris Memorial Sporting Trust Fund.
Mic Morris was a police officer and a British international middle distance runner from Pontypool who died aged just 24 during a training run in 1983.
The trust fund was set up between Gwent Police and Torfaen Council to raise money for Torfaen’s elite young sports people, specifically for young people aged 11 to 21 who live in Torfaen.
Christine Vorres, Chair of the Mic Morris Trust said: “The gentle downhill gradient to the finish in Pontypool Park, really does make the Torfaen 10km a popular run for both elite athletes and beginners.”
"We are also excited to be hosting a Junior 2km Fun Run in the park so all the family can be involved on the day.”
“The proceeds from the event are used to support aspiring young athletes in Torfaen, so we are really looking forward to being in a position to assist them once again."
For road closure and event information, visit the Torfaen website. For sponsorship enquiries, or if you would like to volunteer on the day, call Christine Philpott on 01633 628936 or email: christine.philpott@torfaen.gov.uk
Ar ôl siom y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Mic Morris wrth eu bodd o fedru croesawu rhedwyr yn ôl i Flaenafon i ddechrau ras 10k Torfaen.
Yn y 10fed yn o’r fath, mae disgwyl i dros 1,000 o redwyr gymryd rhan yn y ras boblogaidd yma ar ddydd Sul 10 Gorffennaf.
Fel blynyddoedd cynt, bydd rhedwyr yn ymgynnull wrth y llinell gychwyn ar Cwmavon Road ym Mlaenafon am 8:30am, gyda’r ras yn dechrau am 9am.
Bydd y ffordd ar gau yn gyfan gwbl o Cwmavon Road, Blaenafon i Barc Pont-y-pŵl rhwng 8am a 11:30am.
Mae ras 10k Mic Morris yn addas i redwyr o bob math a’r terfyn oedran ieuengaf i gymryd rhan yw 15 oed. Bydd rhedwyr yn cael eu hamseru gan sglodyn ac yn derbyn bag i ddynodi eu bod wedi gorffen, yn cynnwys medal, crys T a man bethau eraill.
Gyda dros hanner y lleoedd wedi mynd eisoes, bydd angen i chi fod yn gyflym i sicrhau lle. Gallwch wneud cais ar-lein.
I’r rheiny sydd angen trafnidiaeth ar y diwrnod, bydd bws wennol yn dychwelyd o faes parcio Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl i Flaenafon a gallwch gadw lle ar-lein pan fyddwch yn cofrestru.
Bydd yr elw o’r ras yn mynd at Gronfa Ymddiriedolaeth Coffa Mic Morris.
Roedd Mic Morris yn swyddog gyda’r heddlu ac yn rhedwr pellter canol dros Brydain o Bont-y-pŵl a fu farw’n 24 oed wrth ymarfer yn 1983.
Sefydlwyd y gronfa gan Heddlu Gwent a Chyngor Torfaen er mwyn codi arian i bobl ifanc sy’n ymwneud â champau ar y lefel uchaf oll, yn arbennig pobl ifanc 11 i 21 oed sy’n byw yn Nhorfaen.
Dywedodd Christine Vorres, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Mic Morris: “Mae’r disgyniad graddol hyd at y llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl yn gwneud ras 10k Torfaen yn boblogaidd gydag athletwyr o radd uchaf a dechreuwyr fel ei gilydd.”
“Mae’r arian o’r digwyddiad yn mynd i gefnogi athletwyr ifanc yn Nhorfaen, felly pan fu rhaid i ni ohirio oherwydd COVID, roedd hynny’n golygu nad oedd modd i ni roi unrhyw grantiau.
“Rydym yn edrych ymlaen at allu helpu’n pobl ifanc unwaith eto. Dyma’r degfed tro i ni gynnal y ras ar ei ffurf bresennol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn. Rydym hefyd yn cynnal Ras 2k i Ieuenctid yn y parc felly gall y teulu cyfan ymuno yn yr hwyl ar y diwrnod.”
Ar gyfer gwybodaeth am gau ffyrdd ac am y digwyddiad, ewch i wefan Torfaen. Ar fwy o wybodaeth, ymholiadau am nawdd, neu os hoffech chi wirfoddoli ar y diwrnod, ffoniwch Christine Philpott ar 01633 628936 neu danfonwch: christine.philpott@torfaen.gov.uk
|