Summer fun down at the farm | Hwyl yr haf ar y fferm

07/09/2021

Press Releases Bannerfarm summer 2021farm summer  2 2021

Summer fun down at the farm | Hwyl yr haf ar y fferm

It’s been a busy summer at Greenmeadow Community Farm, which has welcomed more than 17,000 visitors - and 40 rare breed piglets - since it reopened at the end of May.

 

The farm had been closed for 14 months due to the coronavirus pandemic before reopening the gates four months ago.

 

Since then, the café, shop and tractor rides have been reinstated, pedigree sheep sales have returned, and the farm’s new crop cycle technology has started bearing fruit.

 

A number of events have also taken place over the summer, including the recent Hope Rescue dog show which attracted more than 500 visitors and Llanyrafon Food and Craft markets which take place on the last Sunday of each month.

 

Senior Farm Manager Sally Partridge said: “It’s been fantastic to see visitors at the farm again and people have been very understanding about the restrictions we have in place to ensure everyone’s safety.

 

“We have steadily increased visitor capacity and we’re in the process of planning an exciting programme for the October half-term and run up to Christmas. Follow us on social media and keep an eye on our new website for more details.”

 

Councillor Fiona Cross, Torfaen’s Executive Member for the Children, Families and Communities, added: “Greenmeadow Community Farm is one of Torfaen’s jewels and it’s great to see visitors have been returning over the summer. 

 

“The online booking system, which was introduced to help manage safe visitor numbers, has been very successful. Although visitors can now turn up on the day, numbers are still restricted so the best way to guarantee a fun day out is to book in advance.”

 

For the latest information and to book tickets, visit the website www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk or call 01633 647662 and leave a message.


Mae e wedi bod yn haf prysur yn Fferm Gymunedol Greenmeadow, sydd wedi croesawu dros 17,000 o ymwelwyr – a 40 o foch bach o frîd prin – ers ailagor ddiwedd Mai.

 

Roedd y fferm wedi bod ar gau am 14 mis oherwydd pandemig y coronafeirws cyn ailagor pedwar mis yn ôl.

 

Ers hynny, mae’r caffi, y siop a’r teithiau tractor wedi dechrau eto, mae gwerthiant defaid pedigri wedi dychwelyd, ac mae technoleg newydd cylchdro cnydau’r fferm wedi dechrau dwyn ffrwyth.

 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi bod dros yr haf hefyd, gan gynnwys sioe gŵn Hope Rescue a ddenodd dros 500 o ymwelwyr yn ddiweddar a marchnadoedd Bwyd a Chrefft Llanyrafon sy’n digwydd ar ddydd Sul diwethaf pob mis.

 

Dywedodd Uwch Reolwr y Fferm, Sally Partridge: “Mae e wedi bod yn wych gweld ymwelwyr yn y fferm eto ac mae pobl wedi bod yn amyneddgar gyda’r cyfyngiadau sy’n bod er mwyn sicrhau diogelwch pawb.

 

“Rydym wedi cynyddu'r capasiti ar gyfer ymwelwyr yn raddol ac rydym wrthi’n cynllunio rhaglen gyffrous ar gyfer hanner tymor yr hydref a’r cyfnod cyn y Nadolig.  Dilynwch ni trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Torfaen dros yr Amgylchedd: “Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn un o drysorau Torfaen ac mae’n wych gweld bod ymwelwyr wedi bod yn dychwelyd dros yr haf. 

 

“Mae’r system ar-lein ar gyfer bwcio, a gyflwynwyd i helpu i reoli niferoedd yr ymwelwyr yn ddiogel, wedi bod yn llwyddiannus iawn.  Er bod ymwelwyr nawr yn gallu galw heibio ar y diwrnod, mae niferoedd yn dal i fod yn gyfyngedig felly’r ffordd orau o sicrhau diwrnod yn y fferm yw bwcio o flaen llaw.”

 

Am y wybodaeth ddiweddaraf ac i archebu tocynnau, ewch i’r wefan www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk neu ffoniwch 01633 647662 a gadewch neges.

Read the latest Torfaen Council news