Subways in Torfaen receive makeover | Addurno isffyrdd yn Nhorfaen

16/07/2021

Press Releases Bannersubwaysubway

Subways in Torfaen receive makeover | Addurno isffyrdd yn Nhorfaen

Staff and volunteers with Torfaen Play Service are bringing a splash of colour to underground walkways this summer.

 

The team recently brightened up a subway in Greenmeadow making it more attractive for the public to use.

 

Torfaen Play plan to make-over 6 similar subways across Torfaen by the end of the summer.

 

18-Year-old Sophie Goodland from Llanyrafon, who has just secured a full time position with the Play Service after volunteering with them for the past few years, said “I love the range of things we do for young people and the community and I thoroughly enjoyed painting the subways and brightening them up.

 

I think it’s lovely how we keep the design simple and fresh but with a bit of class around it. I absolutely love the eggplants. I am over the moon that I am starting full time with the service next week and I can’t wait to get stuck in to more projects like this one."

 

The project is part of a Welsh Government initiative to encourage children to play and be more active by creating safe, attractive routes.

 

Executive Member for Neighbourhood Services, Councillor Mandy Owen said, “Once again the play service has come up trumps in supporting the communities and brightening up these uninviting spaces. We have received numerous comments from passer-by’s about how this had brightened up the area and it fantastic to see so many young people getting involved.

 

For me it has been an absolute pleasure to work with our play volunteers on this project and I look forward to doing more in September across Torfaen. It makes such a difference to our communities and local areas.”


Mae staff a gwirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn dod â lliw i isffyrdd dros yr haf.

 

Yn ddiweddar, addurnodd y tîm isffordd yn y Ddôl Werdd gan ei gwneud yn fwy deniadol i’r cyhoedd ei defnyddio.

 

Mae Chwarae Torfaen yn bwriadu gwneud yr un peth i 6 o isffyrdd eraill yn Nhorfaen erbyn diwedd yr haf.

 

Dywedodd Sophie Goodland, 18 oed o Lanyrafon, sydd newydd sicrhau swydd amser llawn gyda’r Gwasanaeth Chwarae ar ôl gwirfoddoli gyda nhw dros y blynyddoedd diwethaf, “Rydw i wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o bethau yr ydym yn eu gwneud i bobl ifanc a’r gymuned ac fe fwynheais beintio’r isffyrdd a rhoi rhywfaint o liw iddyn nhw.

 

Rwy’n credu ei fod yn hyfryd ein bod ni’n cadw’r dyluniad yn syml a ffres ond gyda rhywfaint o raen hefyd.  Rydw i wrth fy modd gyda’r ŵylysiau.  Rydw i’n hynod o falch fy mod i’n dechrau gwaith llawn amser gyda’r gwasanaeth yr wythnos nesaf a galla’ i ddim aros i fwrw ymlaen gyda phrosiectau fel hyn.

 

Mae’r prosiect yn rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i annog plant i chwarae a bod yn fwy gweithgar trwy greu llwybrau diogel a deniadol.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Cymdogaethau, y Cynghorydd Mandy Owen, “Unwaith eto, mae’r gwasanaeth chware wedi gwneud yn wych wrth gefnogi cymunedau a rhoi sglein ar fannau anneniadol.  Rydym wedi derbyn nifer o sylwadau gan bobl sy’n mynd heibio sy’n dweud bod hyn wedi rhoi lliw i’r ardal ac mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan.

 

I fi mae hi wedi bod yn bleser llwyr cael gweithio gyda’r gwirfoddolwyr ar y prosiect yma ac rwy’n edrych ymlaen at wneud mwy ym Medi ar draws Torfaen.  Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cymunedau a’n hardaloedd lleol.”

Read the latest Torfaen Council news