Gregor proves he’s a Little Trooper | Gregor yn profi ei fod yn ‘Filwr’ Bach Gwych

01/07/2021

Press Releases Bannernew inn primary

Gregor proves he’s a Little Trooper | Gregor yn profi ei fod yn ‘Filwr’ Bach Gwych

A new club has been set up at New Inn Primary School for pupils whose parents are serving in the armed forces.

 

Pupil Gregor Allan, whose dad serves in the Royal Air Force, came up with the idea for the Little Troopers club after supporting his five-year-old sister Isla when their dad was on tour overseas.

 

Gregor has now been recognised by the charity Little Troopers, which supports military children, and was named Little Trooper of the Month in April.

 

To celebrate, all pupils at New Inn Primary School marked Armed Forces Week with a Forces Fitness workshop and a visit from the Royal Welsh regimental goat Shenkin IV and Goat Major Sgt Mark Jackson.

 

Gregor, who is in year 4, said: "The military children were picked to be team captains. I felt proud to lead a team like my dad. Working as a team was fun, we kept going as we didn't want to let our team down.”

 

Faith Lees, who is in year 3, added: “It was the best day ever! I'm so proud of my daddy and now my friends know all about the army and we had fun working as a little army."

Forces Fitness sessions are funded by Welsh Government and available free to all schools in Torfaen with service children.

 

New Inn Primary School, which has 10 pupils from military families, is now hoping to be named an Armed Forces Friendly school by SSCE Cymru, which supports service children in education.

 

Teaching assistant Ceri Knight, who helps run the Little Troopers club, said “Our first meeting was really heart-warming. They talked with such pride about being part of a military family and agreed that it was great to be able to chat to someone who understood that a parent might be away for important dates, such as birthdays, Christmas or even parents' evenings.

 

“The children have decided to have regular meetings and their next challenge is to design an complete their own assault course and we will celebrate the end of term with a picnic.”

 

For more information about Forces Fitness visit:https://www.forcesfitness.co.uk/ 

Armed Forces New Inn

 

Mae clwb newydd wedi'i sefydlu yn Ysgol Gynradd New Inn i ddisgyblion y mae eu rhieni'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

 

Syniad y disgybl Gregor Allan, y mae ei dad yn gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol, oedd sefydlu clwb Little Troopers ar ôl cefnogi Isla, ei chwaer, pump oed, pan oedd eu tad yn gwasanaethu dramor.

 

Mae Gregor bellach wedi cael ei gydnabod gan yr elusen Little Troopers, sy'n cefnogi plant y lluoedd arfog, ac ym mis Ebrill, cafodd ei enwi'n Milwr Bach y Mis.

 

I ddathlu, fe wnaeth pob disgybl yn Ysgol Gynradd New Inn ddathlu Wythnos y Lluoedd Arfog gyda gweithdy Forces Fitness ac ymweliad gan afr catrawd Frenhinol Cymru, Shenkin IV a’i Rhingyll Mark Jackson.

 

Dywedodd Gregor, sydd ym mlwyddyn 4: "Dewiswyd plant y lluoedd arfog i fod yn gapteiniaid ar y timau. Roeddwn i'n teimlo'n falch o arwain tîm fel fy nhad. Roedd gweithio’n rhan o dîm yn hwyl, fe wnaethon ni ddal ati gan nad oedden ni eisiau siomi ein tîm. ”

 

Ychwanegodd Faith Lees, sydd ym mlwyddyn 3: “Hwn oedd y diwrnod gorau erioed! Rydw i mor falch o fy nhad a nawr mae fy ffrindiau'n gwybod popeth am y fyddin, a chawson ni hwyl yn gweithio fel byddin fach."

 

Mae sesiynau Forces Fitness yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent ar gael am ddim i bob ysgol yn Nhorfaen sydd â phlant y lluoedd arfog.

 

Mae Ysgol Gynradd New Inn, sydd â 10 o ddisgyblion o deuluoedd milwrol, bellach yn gobeithio cael ei henwi'n ysgol sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog gan SSCE Cymru, sy'n cefnogi plant y lluoedd arfog mewn addysg.

 

Dywedodd y cynorthwyydd dysgu, Ceri Knight, sy'n helpu i redeg y clwb Little Troopers “Roedd ein cyfarfod cyntaf yn galonogol iawn. Fe wnaethant siarad â'r fath falchder am fod yn rhan o deulu milwrol a chytunwyd ei bod yn wych gallu sgwrsio â rhywun a oedd yn deall y gallai rhiant fod i ffwrdd am ddyddiadau pwysig, fel penblwyddi, y Nadolig neu hyd yn oed nosweithiau rhieni.

 

“Mae’r plant wedi penderfynu cynnal cyfarfodydd rheolaidd a’u her nesaf yw cynllunio a chwblhau cwrs antur eu hunain a byddwn yn dathlu diwedd y tymor gyda phicnic.”

 

I gael mwy o wybodaeth am Forces Fitness https://www.forcesfitness.co.uk/ 

Read the latest Torfaen Council news