Help us shape the Future of the Farm | Helpwch ni i lunio Dyfodol y Fferm

26/03/2021

Press Releases Bannerfarm

Help us shape the Future of the Farm | Helpwch ni i lunio Dyfodol y Fferm

Today (26/03/2021) Torfaen Council have launched a public consultation to capture views on the future development of Greenmeadow Community Farm.

 

The team at Greenmeadow Community Farm have been working with external consultants, to find viable solutions to ensure the farm can remain a thriving attraction for families and schools.

 

The farm now wishes to engage with residents to find out what the community wants and possible areas for investment.

 

The Farm’s Manager, Sally Partridge, said: “Feedback from the community is key to the long-term plans for the farm and will help ensure its sustainability for future generations. It will also support our future funding applications.The farm has been in a precarious financial position for many years and relies heavily on council subsidy and admission fees.

 

“Given national pressures on priority council services, we can no longer rely on subsidy and we need to become financially self-sufficient. This might mean introducing new things, doing things differently or even stopping some things altogether.”    

 

By responding to the survey - https://getinvolved.torfaen.gov.uk/communications/futuregmcf-en, you can play your role in helping the farm find ways of delivering what you want in order to keep it vibrant and exciting.

 

Sally added: "We would love to hear from as many people as possible, to glean your thoughts and ideas which will form valuable input into this research. There is no doubt what an incredible asset the farm is, not only to the community but also to visitors from far and wide, but we need to attract new visitors and new income to make the farm self-sustaining.”


Heddiw (26/03/2021) mae Cyngor Torfaen wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn pobl ar ddatblygiad Fferm Gymunedol Greenmeadow yn y dyfodol.

 

Mae’r tîm yn Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr allanol, i ganfod atebion ymarferol i sicrhau y gall y fferm barhau fel atyniad ffyniannus i deuluoedd ac ysgolion.

 

Mae’r fferm nawr eisiau cysylltu gyda thrigolion i gael gwybod beth y mae’r gymuned ei eisiau a’r meysydd posibl ar gyfer buddsoddiad.

 

Meddai Rheolwr y Fferm, Sally Partridge: “Mae adborth gan y gymuned yn allweddol i’r cynlluniau hirdymor ar gyfer y fferm a bydd yn helpu i sicrhau ei chynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hefyd yn cefnogi ein ceisiadau am gyllid yn y dyfodol. Mae’r fferm wedi bod mewn sefyllfa ariannol anodd iawn am lawer o flynyddoedd ac mae’n dibynnu’n fawr ar gymhorthdal gan y cyngor a ffioedd mynediad.

 

“O ystyried pwysau cenedlaethol ar wasanaethau blaenoriaeth y cyngor, ni allwn bellach ddibynnu ar gymhorthdal ac mae angen i ni fod yn hunan-gynhaliol yn ariannol. Gallai hyn olygu cyflwyno pethau newydd, gwneud pethau’n wahanol neu hyd yn rhoi rhoi’r gorau i rai pethau yn llwyr.”

 

“Drwy ymateb i’r arolwg

https://getinvolved.torfaen.gov.uk/health-social-care/futuregmcf-cy

, gallwch  chwarae eich rhan i helpu’r fferm i ddarganfod ffyrdd o gynnig yr hyn rydych chi ei eisiau er mwyn ei chadw’n fywiog a chyffrous.”

 

Ychwanegodd Sally: "Byddem wrth ein boddau yn clywed gan gymaint o bobl ag y bo modd, i gael eich syniadau a’ch barn chi, a fydd yn fewnbwn gwerthfawr i’r gwaith ymchwil yma. Nid oes amheuaeth bod y fferm yn ased wych, nid yn unig i’r gymuned ond hefyd i ymwelwyr o bob cwr, ond mae angen i ni ddenu ymwelwyr newydd ac incwm newydd er mwyn gwneud y fferm yn hunan-gynhaliol.”

 

Read the latest Torfaen Council news