 White Ribbon Day is an annual event that marks the United Nation’s International Day for the Elimination of Violence Against Women and aims to raise awareness of male violence towards women.
This year, White Ribbon Day takes place on Wednesday 25 November and we need residents to help raise awareness by taking part in the #149 challenge.
In previous years we have held a number of fund raising events but due to pressures created by the restrictions of a global pandemic, it will not be possible.
Instead, we are working in partnership with organisations across Gwent, including Gwent VAWDASV, Llamau, Office of the Police and Crime Commissioner and Gwent Police to support the virtual #149 community challenge.
What is the #149Challenge?
In 2018, 149 women were killed by men in the UK. More than half were killed by a former spouse or partner, and almost all of them were committed by a man known to the victim.
To highlight this the White Ribbon challenge focuses on the number 149.
White Ribbon aims to encourage communities to pledge support and help raise awareness of ending male violence against women. The challenge is open to everyone, schools, youth settings, sports clubs, businesses and local organisations are urged to get involved.
Your #149Challenge could be something you do alone, with a few people from your household, or as part of a group relay, please remember to always keep in-line with social distancing rules.
Here’s a few #149 challenges to consider:
- Walk or run for 149 minutes
- Cycle 149 kilometres, solo or in a relay with friends.
- 149 minutes doing something you love or even hate, be it playing a musical instrument (fun!) or doing household chores (not so fun!).
- How about a virtual relay? Get your family or community group involved. Have fun doing your chosen task, film yourself completing the challenge and virtually ‘pass the baton’ to someone else via social media.
- If sport’s not your thing, why not use your imagination? You could bake 149 cakes between your group or organisation, try and stay silent for 149 minutes (great idea for the kids!), or write a poem 149 words in length.
Once you have completed the challenge, you can share your achievements via social media, follow and tag @GwentVAWDASV @GwentPCC @GwentPolice and use hashtags #Torfaen #WhiteRibbonDay #NoExcuseForAbuse.
You can also show your support at home by downloading and printing a white ribbon to display in your window, or simply make your own which is available on the webpage.
The Police and Crime Commissioner for Gwent, Jeff Cuthbert, explained: “Covid-19 means the traditional walk to mark White Ribbon Day cannot take place; however, it is essential that we continue to do everything we can to raise awareness of abuse and the need for it to stop.
“Because of this, we are trying something new this year. We are encouraging people and organisations to take part in a #149Challenge and post their achievements online. People, schools, organisations, sports teams and community groups can set their own challenges focusing on the number 149. This could be seconds, minutes or whatever you like. You could even bake 149 cakes, climb 149 stairs or write a 149-word poem. It’s your challenge, you set it.
“The important part is that you share this message, support others to take a stand against violence against women, and encourage anyone experiencing abuse to speak out. Please don’t suffer in silence, help is available.”
You can find out more information about White Ribbon Day by visiting: https://www.gwent.pcc.police.uk/en/about-us/working-together/white-ribbon-day-2020/
If you are experiencing abuse or worried about someone The Live Fear Free 24/7 helpline is available for anyone affected by abuse and supports victims, survivors and those close to them. Call 0808 8010 800 or text 07860 077333.
 Digwyddiad blynyddol yw Diwrnod Rhuban Gwyn sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod.
Eleni, bydd Diwrnod Rhuban Gwyn ar ddydd Mercher 25 Tachwedd ac mae angen trigolion i helpu i godi ymwybyddiaeth trwy gymryd rhan yn her #149
Yn y gorffennol rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian ond, oherwydd pwysau cyfyngiadau'r pandemig byd-eang, ni fydd hynny'n bosibl.
Yn lle, bydd yn gweithio gyda sefydliadau ledled Gwent, gan gynnwys VAWDASV Gwent, Llamau, Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent i gefnogi'r her gymunedol #149
Beth yw'r Her #149?
Yn 2018, lladdwyd 149 o fenywod gan ddynion yn y DU. Lladdwyd dros hanner ohonyn nhw gan gyn-gymar neu bartner a lladdwyd pob un bron gan ddyn yr oedden nhw'n ei adnabod.
I bwysleisio hyn mae her y Rhuban Gwyn yn canolbwyntio ar y rhif 149.
Mae'r Rhuban Gwyn yn ceisio annog cymunedau i addo cefnogaeth a helpu i godi ymwybyddiaeth o ddod a thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben. Mae'r her ar agor i bawb ac anogir ysgolion, mudiadau ieuenctid, clybiau chwaraeon, busnesau a sefydliadau lleol i gymryd rhan.
Gallai eich Her #149 fod yn rhywbeth yr ydych yn ei wneud ar eich pen eich hun, gyda phobl ar eich aelwyd, neu fel rhan o grŵp, cofiwch gadw at y rheolau cadw pellter.
Dyma rai pethau i'w hystyried ar gyfer her #149:
- Cerdded neu redeg am 149 munud
- Seiclo 149 cilomedr, ar eich pen eich hun neu ar daith gyfnewid gyda ffrindiau.
- 149 munud yn gwneud rhywbeth yr ydych yn hoffi neu ei gasáu, boed yn ganu offeryn cerdd (hwyl!) neu'n wneud gwaith tŷ (ddim yn hwyl)
- Beth am daith gyfnewid rithiol? Ymunwch gyda'r teulu neu grŵp cymunedol. Gallwch gael hwyl gyda'ch tasg, ffilmiwch eich hun yn cwblhau'r her ac yn ‘trosglwyddo'r ffon’ yn rhithiol i rywun arall trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Os nad yw chwaraeon i chi, defnyddiwch eich dychymyg? Gallech bobi 149 o deisennau yn eich grŵp neu fudiad, aros yn dawel am 149 munud (syniad da i'r plant!), neu ysgrifennu cerdd o 149 o eiriau.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r her, gallwch rannu'ch llwyddiannau trwy'r cyfryngau cymdeithasol, dilynwch a thagiwch @GwentVAWDASV @GwentPCC @GwentPolice a defnyddiwch yr hashnodau #Torfaen #WhiteRibbonDay #NoExcuseForAbuse.
Gallwch ddangos eich cefnogaeth gartref trwy lawrlwytho ac argraffu rhuban gwyn i arddangos yn eich ffenestr, neu gwnewch eich un eich hun sydd ar gael ar y wefan.
Esboniodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Covid-19 yn golygu na all y daith gerdded draddodiadol i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn ddigwydd; serch hynny, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i wneud pob dim i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth a’r angen i hyn stopio.
“Oherwydd hyn, rydym yn rhoi tro ar rywbeth newydd eleni. Rydym yn annog pobl a sefydliadau i gymryd rhan mewn Her #149 a phostio’u gorchestion ar-lein. Gall pobl, ysgolion, mudiadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol osod eu heriau eu hunain gan ganolbwyntio ar y rhif 149. Gallai hyn fod yn eiliadau, munudau neu beth bynnag hoffech chi. Gallech chi hyd yn oed bobi 149 o deisennau, dringo 149 o risiau neu ysgrifennu cerdd 149 o eiriau. Eich her chi fydd hwn, chi sy’n gosod.
“Y peth pwysig yw eich bod yn rhannu’r neges yma, cefnogi eraill i gymryd safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod, ac annog unrhyw un sy’n dioddef camdriniaeth i siarad am hynny. Peidiwch â dioddef yn dawel, mae cymorth ar gael.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ddirwnod Rhugan Gwyn trwy ymweld â: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/partneriaethau/diwrnod-rhuban-gwyn-2020/
Os ydych chi'n profi camdriniaeth neu'n pryderu am rywun, mae'r llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn ar gael 24/7 i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan gamdriniaeth ac yn cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r rheiny sy'n agos atyn nhw. Ffoniwch 0808 8010 800 neu, danfonwch neges destun at 07860 077333.
|