75th anniversary of VJ Day | 75fed pen-blwydd Diwrnod VJ

14/08/2020

Press Releases BannerVJ DAY

75th anniversary of VJ Day | 75fed pen-blwydd Diwrnod VJ

The next celebration on the Armed Forces calendar is the 75th Anniversary of Victory in Japan, which takes place this Saturday, 15th August 2020.

 

To honour the sacrifices made by the Allied forces in Japan, we will be flying our Welsh, Union Jack and Torfaen Flags. Commemorations on the day include:

  •  a national moment of remembrance will be marked with a two minute silence at 11am.
  • the Red Arrows conducting a UK-wide flypast tribute over Edinburgh, Belfast, Cardiff and London during the afternoon.
  • a ‘VJ Day 75: The Nation’s Tribute,’ a special programme will be broadcast on BBC One In the evening.

The Royal British Legion have issued guidance to their members across then UK advising on groups of no bigger than 30 meeting to mark the occasion ( e.g at a local war memorial). This is in line with Welsh Government current regulations which limits a group of up to 30 meeting outdoors. Coronavirus guidelines can be found here: https://gov.wales/coronavirus

 

Torfaen Councils Armed Forces Champion, Councillor Alan Jones said,

“We recently celebrated Victory in Europe Day, paying tribute to all the brave service men and women that served at home and abroad. Victory in Japan Day also marks another momentous occasion that we should never forget.

 

On the 15 August 1945, victory in the Far East brought an end to the Second World War, with many in the armed forces paying the ultimate sacrifice. This coming Saturday we will remember all those who courageously fought to keep our country and our allied countries safe.

 

Let’s celebrate this important moment in our country’s history together, ensuring we celebrate responsibly in order to keep Wales safe.”

 

Memories and messages of support can be shared on the day by using the VJ Day hashtag - #VJDay75

 

Please note, this year no ceremonies have been organised by the Council.


Y dathliad nesaf ar galendr y Lluoedd Arfog yw 75fed Pen-blwydd y Fuddugoliaeth yn Japan, a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn, 15fed Awst 2020.

 

I anrhydeddu’r aberth a wnaed gan Luoedd y Cynghreiriad yn Japan, byddwn yn hedfan ein baneri Cymru, Jac yr Undeb a Thorfaen. Bydd y digwyddiadau Coffa ar y diwrnod yn cynnwys:

  •  ennyd cenedlaethol o goffâd gyda dau funud o dawelwch am 11am.
  • y Saethau Coch yn hedfan dros Gaeredin, Belffast, Caerdydd a Llundain yn ystod y prynhawn.
  • rhaglen arbennig ‘VJ Day 75: The Nation’s Tribute,’ yn cael ei darlledu ar BBC1 gyda’r nos.

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi cyflwyno cyfarwyddyd i’w haelodau ledled y DU yn cynghori bod grwpiau o ddim mwy na 30 yn cyfarfod i nodi’r achlysur (e.e. ger cofeb ryfel leol). Mae hyn yn unol â rheoliadau presennol Llywodraeth Cymru sy’n cyfyngu grwpiau o hyd at 30 o bobl yn cyfarfod yn yr awyr agored. Mae canllawiau Coronafeirws i’w gweld yma: https://gov.wales/coronavirus

 

Meddai Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Alan Jones,

“Yn ddiweddar, bu i ni ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, gan dalu teyrnged i’r dynion a’r merched dewr a wasanaethodd yma a thramor. Mae Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Japan hefyd yn achlysur pwysig na ddylem byth ei anghofio.

 

“Ar 15 Awst 1945, daeth buddugoliaeth yn y Dwyrain Pell â diwedd i’r Ail Ryfel Byd, gyda llawer yn y lluoedd arfog yn talu’r aberth pennaf. Dydd Sadwrn, byddwn yn cofio pawb a frwydrodd yn ddewr i gadw ein gwlad a gwledydd y gynghreiriad yn ddiogel.

 

Gadewch i ni ddathlu’r foment bwysig hon yn hanes ein gwlad gyda’n gilydd, gan sicrhau ein bod yn dathlu’n gyfrifol er mwyn cadw Cymru’n ddiogel.”

 

Gallwch rannu negeseuon o gefnogaeth a/neu atgofion drwy ddefnyddio’r hashnod - #DiwrnodVJ75

 

Nodwch os gwelwch yn dda – nid yw’r Cyngor wedi trefnu unrhyw seremonïau eleni.

Read the latest Torfaen Council news