Summer Support for Vulnerable and Key Worker Children | Cymorth dros yr Haf i Blant sy’n Agored i Niwed a Phlant Gweithwyr Allweddol

08/07/2020

newsschool

Summer Support for Vulnerable and Key Worker Children | Cymorth dros yr Haf i Blant sy’n Agored i Niwed a Phlant Gweithwyr Allweddol

Due to the ongoing pandemic, we are today announcing support for vulnerable children and some key worker children that will be put in place for the summer holiday period.

 

With playscheme and other youth and sport activities not able to run over the summer period, from Monday 20 July, and 5 weeks up to Friday 21 August, we will be able to offer support for the following groups across 7 locations in Torfaen:

  •  100 vulnerable children per day
  •  130 primary and secondary age key worker children per day, for parents and carers

who used one of our hubs before 10 June 2020 and have no alternative childcare to call on.

 

Parents and carers who are potentially eligible have already been identified and will be contacted from today. They will not need to contact the council and will be provided with all of the details they need to access the provision. Those contacted about the key worker support will also be asked to choose 3 out of the 5 weeks for support.

 

Commenting today, Torfaen Executive Member for Education, Councillor Richard Clark, said: ‘Recent announcements by the First Minister about extended support bubbles and lifting of the travel restrictions should open up opportunities for parents to source childcare with extended family/friends which did not exist before. We know however that some families, and particularly those with vulnerable children, will still struggle and we want to do as much as we can to help them.’

 

Dermot McChrystal, Chief Officer for Education and Lead Director for Children & Young People, said: ‘We are going to stretch the resources we have available to us over the summer as far as we can, and whilst we know that we won’t be able to help everybody I am confident that the provision we can make will be welcomed by those who would otherwise struggle.’

 

Further details about the summer provision has been added to the Frequently Asked Questions on the council’s website.


 Oherwydd y pandemig, rydym heddiw yn cyhoeddi cymorth i blant sy’n agored i niwed a rhai plant gweithwyr allweddol a fydd yn gweithredu dros gyfnod gwyliau’r haf.

 

Gyda’r cynllun chwarae a gweithgareddau eraill ieuenctid a chwaraeon yn methu rhedeg dros gyfnod yr haf, o ddydd Llun 20 Gorffennaf ac am 5 wythnos hyd at ddydd Gwener 21 Awst, byddwn yn gallu cynnig cymorth ar gyfer y grwpiau canlynol mewn 7 lleoliad yn Nhorfaen:

  • 100 o blant sy’n agored i niwed fesul diwrnod
  • 130 o blant oedran cynradd ac uwchradd gweithwyr allweddol fesul dirwnod, ar gyfer rhieni a gofalwyr sydd wedi defnyddio un o’n hybiau cyn 10 Mehefin 2020 a lle nad oes ganddynt ofal plant amgen i’w helpu.

Mae rhieni a gofalwyr a all fod yn gymwys eisoes wedi eu hadnabod a byddwn yn cysylltu â nhw o heddiw ymlaen. Ni fydd angen iddynt gysylltu a’r cyngor a byddant yn derbyn yr holl fanylion sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio’r ddarpariaeth. Bydd gofyn i’r sawl sy’n cael eu cysylltu ynglŷn â chymorth gweithwyr allweddol ddewis 3 allan o’r 5 wythnos er mwyn cael cymorth.

 

Gan wneud sylwadau heddiw, dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: ‘Dylai cyhoeddiadau diweddar gan y Prif Weinidog ynglŷn â swigod cymorth estynedig a llacio’r cyfyngiadau teithio roi cyfleoedd i rieni gael gofal plant gyda theulu estynedig/ffrindiau nad oeddynt yn bodoli cynt. Rydym yn gwybod, serch hynny, y bydd rhai teuluoedd, ac yn enwedig teuluoedd gyda phlant sy’n agored i niwed, yn cael anawsterau o hyd ac rydym eisiau gwneud cymaint ag y gallwn i’w cynorthwyo.’

 

Meddai Dermot McChrystal, Prif Swyddog Addysg a Chyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc: ‘Rydym am ymestyn yr adnoddau sydd ar gael i ni dros yr haf mor eang ag y gallwn, ac er ein bod yn gwybod na fyddwn y gallu helpu pawb, rwy’n hyderus y bydd y ddarpariaeth y gallwn ei chynnig yn cael ei chroesawu gan y sawl a fyddai’n ei chael yn anodd fel arall.’

 

Mae manylion pellach am y ddarpariaeth dros yr haf wedi eu hychwanegu at yr adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan y cyngor.

Read the latest Torfaen Council news