Appeal for old stationery to help save lives | Apêl am hen ddeunydd ysgrifennu i helpu i arbed bywydau

22/04/2020

newscare

Appeal for old stationery to help save lives | Apêl am hen ddeunydd ysgrifennu i helpu i arbed bywydau

Last week, Torfaen Council were rummaging at the back of stationery cupboards looking for supplies of unused acetate sheets to help the battle against Covid-19.

 

Acetate was once commonly used for overhead projectors and to protect important documents or books, but it’s now rarely used in the modern office environment.

 

These acetate sheets are now being turned into NHS approved facemasks by local resident Dale Snook.

 

Dale who lives in Pontypool is working around the clock with his wife to produce the life-saving protective facemasks using his 3D printer from his garage at home.  The facemasks are being used in local nursing homes and the county hospital to protect NHS and care staff on the front line of the response to the covid-19 virus.

 

Dale, who is a former pupil at West Mon and now works as a Senior CNC programmer, has been furloughed during the crisis by his employer Safran Seats GB who make aircraft seats in Cwmbran.

 

Dale’s wife, Emma, who is a teaching assistant at a local primary school, saw a design for PPE visors on the web and between them they have been working shifts day and night to produce the facemasks on their 3D printer at home. 

 

Between them they have now provided hundreds of protective face masks which have gone to:

  • Panteg County Hospital
  • Churchwood Surgery
  • TyCeirious Nursing Home
  • Panteg Nursing Home
  • Talygarn
  • Blaina Surgery
  • Gateway Church Charity
  • Individual key workers

Dale said: “When you hear about the significant risks our dedicated frontline workers are taking to do their critical work and listen to what a difference they are making, you have choices.  You can either choose to continue listening or try to make a positive contribution however big or small. We just need more materials donated now so we can keep up with the demand for the facemasks.”

 

Dale’s sister Kathryn and her husband have also joined the production line, printing the wishbone headbands around their own work commitments.

 

Kathryn who is a teacher at West Mon, said:  “Our reasons for getting involved are quite simple, we wanted to help key workers during this crisis. We teach, practice and preach ‘A mind to be kind' in school and this was definitely a time to put words into action.”

 

Safran Seats have now given Dale a second printer and supplied filament and acetate sheets and Dale is now connected to an online network that has been set up on Facebook to produce the life-saving PPE.

 

To donate old acetate (240 micron clear binding sheets), email: Dale.Snook63@GMail.com who will make arrangements to collect donated resources


Yr wythnos ddiwethaf, roedd Cyngor Torfaen yn twrio mewn cypyrddau gan chwilio am ddalennau asetad heb eu defnyddio er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

 

Roedd Asetad yn gyffredin ar un adeg ac yn cael ei ddefnyddio mewn uwchdaflunyddion ac i ddiogelu dogfennau neu lyfrau pwysig, ond prin iawn yw ei ddefnydd bellach mewn swyddfeydd modern.

 

Mae’r dalennau yma nawr yn cael eu troi’n fygydau ar gyfer y GIG gan un o’n trigolion lleol, Dale Snook.

 

Mae Dale sy’n byw ym Mhont-y-pŵl yn gweithio’n galed gyda’i wraig i gynhyrchu’r mygydau diogelwch a allai arbed bywydau gan ddefnyddio argraffydd 3-D yn ei garej yn ei gartref.  Maen nhw’n cael eu defnyddio mewn cartrefi nyrsio lleol a’r ysbyty sirol er mwyn amddiffyn staff y GIG a’r sector gofal sydd ar reng flaen y frwydr yn erbyn firws covid-19.

 

Mae Dale, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gorllewin Mynwy ac sydd nawr yn gweithio fel Uwch Raglennydd, yn segur o’i waith yn ystod yr argyfwng yn dilyn penderfyniad gan ei gyflogwyr, Safran Seats GB, sy’n gwneud seddi i awyrennau yng Nghwmbrân.

 

Gwelodd gwraig Dale, Emma, sy’n gynorthwyydd dysgu mewn ysgol gynradd leol, ddyluniad ar gyfer fisorau diogelwch ar y we a, rhyngddyn nhw, maen nhw wedi bod yn gweithio ddydd a nos i gynhyrchu’r mygydau ar eu hargraffydd 3-D gartref. 

 

Rhwng y ddau ohonyn nhw, maen nhw wedi gwneud cannoedd o fygydau sydd wedi mynd i:

  • Ysbyty Sirol Panteg
  • Meddygfa Churchwood
  • Cartref Nyrsio Tŷ Ceirios
  • Cartref Nyrsio Panteg
  • Tal-y-garn
  • Meddygfa Blaenau
  • Elusen Eglwys Gateway
  • Gweithwyr allweddol unigol

 

Dywedodd Dale: “Pan rydych chi’n clywed am y risgiau sylweddol mae ein gweithwyr rheng flaen yn eu cymryd er mwyn gwneud eu gwaith hanfodol ac yn gwrando ar y gwahaniaeth y maen nhw’n gwneud, mae gennych ddewis.  Gallwch naill ai barhau i wrando, neu geisio gwneud rhyw gyfraniad, boed hynny’n fach neu’n fawr. Mae angen rhagor o ddeunyddiau arnom ni er mwyn bodloni’r galw am  y mygydau.”

 

Mae chwaer Dale, Kathryn, a’i gŵr hefyd wedi ymuno yn y gwaith, gan argraffu penrwymynnau er gwaethaf eu hymrwymiadau gwaith eu hunain.

 

Dywedodd Kathryn, sy’n athrawes yn Ysgol Gorllewin Mynwy; “Mae ein rhesymau dros gymryd rhan yn syml, roedden ni am helpu gweithwyr allweddol yn ystod yr argyfwng yma.  Rydym yn addysgu, yn ymarfer ac yn pregethu caredigrwydd yn yr ysgol ac roedd hwn yn gyfle i roi geiriau ar waith.”

 

Mae Safran Seats bellach wedi rhoi ail argraffydd i Dale ac wedi rhoi ffilamentau ac asetad ac mae Dale nawr wedi cysylltu â rhwydwaith ar-lein sydd wedi ei sefydlu ar Facebook i gynhyrchu’r cyfarpar diogelwch.

 

I roi hen asetad (dalennau rhwymo clir 240 micron), danfonwch e-bost at: Dale.Snook63@GMail.com a fydd yn trefnu i gasglu’r hyn sy’n cael ei roi

 

Read the latest Torfaen Council news