Information from Shelter Housing
Free-to-attend 90 minute webinars
Tuesday 14 April: 6.00pm-7.30pm
Wednesday 22 April: 2.30pm-4.00pm
Thursday 30 April: 9.30am-11.00am
During this difficult time and as rapid changes are being introduced we would like to give you priority booking on our new ninety minute webinar to be delivered via Zoom.
The webinar will consider will consider the pandemic in the context of poor housing and homelessness, and identify the legislative changes in the Coronavirus Act 2020. It will also outline the guidance issued to tenants, landlords and local authorities and consider related issues, including:
- Coronavirus Act 2020
- Government guidance for tenants
- Government guidance for landlords
- Government guidance for local authorities
- The homelessness response
- Legal Aid and other issues.
After attending, you will be able to:
- Apply the new law concerning Notices
- Understand the provisions for possession proceedings
- Identify when and to whom the guidance applies
This webinar is suitable for housing advisors, homelessness and housing staff, from the statutory, social housing and voluntary sectors. It is an opportunity to ask our expert trainer Tony Martin questions and share practice issues.
Sessions will run as follows:
Tuesday 14 April: 6.00pm-7.30pm
Wednesday 22 April: 2.30pm-4.00pm
Thursday 30 April: 9.30am-11.00am
This webinar will be delivered using Zoom. This platform does not require Adobe Flash or for you to dial in. Zoom uses your computer's audio or you can select one of the phone numbers provided which will enable you to follow the webinar via phone.
How to request a place:
We will soon be moving all Shelter Training bookings to a new platform, AccessplanIT. The bookings for this webinar will be taken through the AccessplanIT learner portal.
Unless you have attended NHAS webinars or training booked through the AccessplanIT portal you will need to request a login. To do this please send an email titled ‘training portal login request’ stating your full name, department/team, organisation name and full (usual office) address including postcode to training@shelter.org.uk
Once you have a login you can find the webinar by entering COVID in the ‘keyword’ search box, pick the appropriate date and time and request your place.
Gwybodaeth gan Shelter Housing
Gweminarau 90 munud am ddim i’w mynychu
Dydd Mawrth 14 Ebrill: 6.00pm-7.30pm Dydd Mercher 22 Ebrill: 2.30pm-4.00pm Dydd Iau 30 Ebrill: 9.30am-11.00am
Yn ystod y cyfnod anodd hwn ac wrth i newidiadau cyflym gael eu cyflwyno, hoffem roi cofrestriad blaenoriaeth ar ein gweminar 90 munud newydd i’w chyflwyno drwy Zoom.
Bydd y weminar yn ystyried y pandemig yng nghyd-destun cartrefi gwael eu cyflwr a digartrefedd a nodi’r newidiadau deddfwriaethol yn Neddf Coronafeirws 2020. Bydd hefyd yn amlinellu’r canllawiau a roddwyd i denantiaid, landlordiaid ac awdurdodau lleol ac yn ystyried materion cysylltiedig, gan gynnwys:
- Deddf Coronafeirws 2020
- Canllaw’r llywodraeth ar gyfer tenantiaid
- Canllaw’r llywodraeth ar gyfer landlordiaid
- Canllaw’r llywodraeth ar gyfer awdurdodau lleol
- Ymateb i ddigartrefedd
- Cymorth Cyfreithiol a materion eraill.
Ar ôl mynychu, byddwch yn gallu:
- Defnyddio’r gyfraith newydd ar Hysbysiadau
- Deall y darpariaethau ar gyfer achosion meddiant
- Adnabod pryd ac i bwy y mae’r canllawiau yn berthnasol
Mae’r weminar yn addas i gynghorwyr tai, staff digartrefedd a thai o’r sectorau statudol, tai cymdeithasol a’r sectorau gwirfoddol. Mae’n gyfle i holi ein hyfforddwr arbenigol Tony Martin a rhannu materion arfer.
Bydd y sesiynau yn rhedeg fel a ganlyn:
Dydd Mawrth 14 Ebrill: 6.00pm-7.30pm
Dydd Mercher 22 Ebrill: 2.30pm-4.00pm
Dydd Iau 30 Ebrill: 9.30am-11.00am
Bydd y weminar yn digwydd drwy Zoom. Nid yw’r llwyfan hwn angen Adobe Flash ac nid oes angen deialu i mewn. Mae Zoom yn defnyddio sain eich cyfrifiadur neu gallwch ddewis un o’r rhifau ffôn a ddarperir a fydd yn eich galluogi i ddilyn y weminar ar y ffôn.
Sut i ofyn am le:
Yn y man byddwn yn symud holl gofrestriadau Hyfforddiant Lloches i lwyfan newydd, AccessplanIT. Bydd y cofrestru ar gyfer y weminar hon yn digwydd drwy borth dysgwr AccessplanIT.
Os nad ydych wedi mynychu gweminarau NHAS o’r blaen neu hyfforddiant wedi ei drefnu drwy’r porth AccessplanIT, bydd angen i chi wneud cais i fewngofnodi. I wneud hyn, anfonwch ebost gyda’r teitl ‘cais mewngofnodi porth hyfforddi’ gan nodi eich enw llawn, adran/tîm, enw’r sefydliad a chyfeiriad llawn (y swyddfa arferol) gan gynnwys y côd post at training@shelter.org.uk
Unwaith byddwch wedi cael manylion mewngofnodi gallwch gael hyd i’r weminar drwy roi COVID yn y blwch chwilio ‘gair allweddol’, dewis dyddiad ac amser priodol a gwneud cais am eich lle.
|