|
Welsh Water is urging its customers not to flush wet wipes or kitchen roll down their toilets if they are affected by a toilet paper shortage during the COVID-19 (“coronavirus”) outbreak.
The company made the warning amid reports of shortages of toilet paper in shops, which may lead to higher sales of non-flushable alternatives, like wet wipes or kitchen roll.
Wet wipes are the major cause of sewer blockages in the UK – with wipes found in an estimated 93% of blockages every year. The blockages cost the company £7 million a year to tackle, and amount to around 2,000 incidents every month.
The company has urged customers to throw any wipes or kitchen roll in the bin, rather than down the toilet.
Wipes, along with other items like nappies and sanitary products, don’t break down in pipes like toilet paper and can combine with fats, oils and grease to create blockages which are difficult to clear and can cause raw sewage to build up and flood homes, businesses and the environment.
Steve Wilson, Welsh Water’s managing director of wastewater, said: “While we encourage everyone to practice good hygiene to protect against coronavirus, wet wipes and kitchen roll can be hugely damaging to our sewers.
“Throwing these items away in the bin instead of flushing them will reduce the number of blockages and the risk of flooding to homes, businesses and the environment during what is likely to be a difficult time for many people.
“It’s too early to say what impact the outbreak has had on our sewers but, as always, we’d urge everyone to only flush the 3Ps – pee, poo and paper – to help avoid problems.”
Mae Dŵr Cymru yn annog ei gwsmeriaid i beidio â fflysio cadachau gwlyb neu bapur cegin i lawr y tŷ bach os yw prinder papur tŷ bach yn effeithio arnynt yn ystod COVID-19 (“coronafirws”).
Rhybuddiodd y cwmni am hyn ynghanol adroddiadau am brinder papur tŷ bach mewn siopau, a allai arwain at bobl yn prynu mwy o bapurau gwahanol na ellir eu fflysio, fel cadachau gwlyb neu papur cegin.
Cadachau gwlyb sy'n gyfrifol am yr achosion mwyaf o flocio carthffosydd yn y DU - amcangyfrifir mai cadachau gwlyb sy'n cyfrif am 93% o'r rhwystrau bob blwyddyn. Mae'r rhwystrau yn costio £7 miliwn y flwyddyn i'r cwmni fynd i'r afael â nhw, ac yn cyfateb i tua 2,000 o ddigwyddiadau bob mis.
Mae'r cwmni wedi annog cwsmeriaid i daflu unrhyw gadachau neu bapur cegin yn y bin, yn hytrach nag i lawr y tŷ bach.
Nid yw cadachau, ynghyd ag eitemau eraill fel cewynnau a chynhyrchion misglwyf, yn dadelfennu mewn pibellau yn yr un modd â phapur tŷ bach a gallant gyfuno â brasterau, olewau a saim i greu rhwystrau sy'n anodd eu clirio ac a all achosi i garthffosiaeth amrwd gronni a gorlifo cartrefi , busnesau a'r amgylchedd.
Dywedodd Steve Wilson, rheolwr gyfarwyddwr dŵr gwastraff, Dŵr Cymru: “Er ein bod yn annog pawb i ymarfer hylendid da i amddiffyn rhag coronafirws, gall cadachau gwlyb a phapur cegin fod yn niweidiol iawn i’n carthffosydd.
“Bydd taflu’r eitemau hyn i ffwrdd yn y bin yn lle eu fflysio yn lleihau nifer y rhwystrau a’r risg o lifogydd i gartrefi, busnesau a’r amgylchedd yn ystod yr hyn sy’n debygol o fod yn gyfnod anodd i lawer o bobl.
“Mae’n rhy gynnar i ddweud pa effaith y mae’r achos wedi’i chael ar ein carthffosydd ond, fel bob amser, rydym yn annog pawb i fflysio’r 3P yn unig - pi-pi, pŵ a phapur tŷ bach - i helpu i osgoi problemau.”
|