Torfaen Learning Zone update

https://content.govdelivery.com/accounts/UKTORFAEN/bulletins/26741c7

Torfaen Learning Zone bannerroadmap

Welcome to the latest news on the TLZ

The Torfaen Learning Zone will Coleg Gwent's newest campus and will be the home of all English language A Level education in Torfaen. It will also offer students the Welsh Baccalaureate and a range of vocational qualifications.

The new centre replaces three English medium school sixth forms in the borough and will be managed and run by Coleg Gwent in partnership with the council. 

The centre will provide the pathway for Torfaen students into higher education, training and employment.

The Torfaen Learning Zone will open to students in September 2020.

Croeso i’r newyddion diweddaraf ar Barth Dysgu Torfaen

Parth Dysgu Torfaen fydd campws newydd Coleg Gwent a bydd yn gartref i holl addysg Lefel A Saesneg ei hiaith yn Nhorfaen. Bydd hefyd yn cynnig Bagloriaeth Cymru i fyfyrwyr ac ystod o gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r ganolfan newydd yn disodli tri chweched dosbarth Saesneg eu cyfrwng yn y fwrdeistref a bydd yn cael ei rheoli a’i rhedeg gan Goleg Gwent mewn partneriaeth â’r cyngor. 

Bydd y ganolfan yn darparu’r llwybr i fyfyrwyr Torfaen i addysg uwch, hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd Parth Dysgu Torfaen yn agor i fyfyrwyr ym mis Medi 2020.

TLZ external

Enrol now by clicking here or

call 01495 333 777 to apply today!

Cofrestrwch nawr drwy glicio yma neu ffoniwch 01495 333 777 i wneud cais heddiw!

hoarding

 


Take a peek inside 

This latest fly-though footage gives a fantastic tour inside the new facilities. Click here

Cipolwg tu mewn

Mae’r ffilm wych hon sy’n hedfan drwy’r adeilad yn dangos y tu mewn i’r cyfleusterau newydd. Cliciwch

Torfaen Learning Zone fly through

TLZ

Milestone celebrated at topping out ceremony

During September a topping out ceremony took place on the roof of the Torfaen Learning Zone to mark the significant milestone in the £24 million development. to read more click here

Dathlu carreg filltir mewn seremoni gosod carreg gopa

Yn ystod mis Medi, cafwyd seremoni gosod carreg gopa ar do Parth Dysgu Torfaen i nodi’r garreg filltir arwyddocaol yn y datblygiad £24 miliwn.


TLZ internal

patrick

Head of Torfaen Learning Zone appointed

Coleg Gwent have appointed Patrick Seale as the first Head of School, General Education (A levels) Patrick started his role in September 2019 and has been busy making preparations for the new staff.

Patrick said: 'I am excited to join Coleg Gwent to lead on the development of A levels at the new Torfaen Learning Zone. The new campus provides a platform to develop outstanding A level performance in a wide selection of subjects which gives learners in the borough the best opportunity of progressing into their chosen university, apprenticeship or job.

'Most recently I led a large and successful  curriculum team at New College Swindon. I managed a range of A levels including Law, Business, Economics and Computer Science alongside vocational and Higher Education provision. Alongside this I still enjoy maintaining my subject specialism by examining A levels for AQA.'

Penodi Pennaeth Parth Dysgu Torfaen

Mae Coleg Gwent wedi penodi Patrick Seale fel Pennaeth cyntaf yr Ysgol, Addysg Gyffredinol (Lefel A). Cychwynnodd Patrick yn ei rôl ym mis Medi 2019 ac mae wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y staff newydd.

Meddai Patrick: 'Mae’n beth cyffrous ymuno â Choleg Gwent i arwain ar ddatblygu lefel A ym Mharth Dysgu newydd Torfaen. Mae’r campws newydd yn cynnig llwyfan i ddatblygu perfformiad lefel A rhagorol mewn detholiad eang o bynciau sy’n rhoi’r cyfle gorau i ddysgwyr yn y fwrdeistref i symud ymlaen i’r brifysgol o’u dewis, prentisiaeth neu swydd.

'Yn fwyaf diweddar, arweiniais dîm cwricwlwm mawr a llwyddiannus yn New College Swindon. Roeddwn yn rheoli amrywiaeth o bynciau lefel A gan gynnwys y Gyfraith, Busnes, Economeg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, ynghyd â darpariaeth alwedigaethol ac Addysg Uwch. Ynghyd â hyn, rwy’n mwynhau parhau gyda fy arbenigrwydd trwy arholi lefel A ar gyfer AQA.'

sian

Coleg Gwent have also appointed Sian Hughes as Head of Learner Services and Maria Johnson as Head of Vocational Studies.

With  a background in teaching and more than twenty years’ experience in Education, Sian (pictured) has delivered learning support projects in libraries, museums and schools before joining Coleg Gwent in 2005 as a  Learning Centre Manager at Pontypool. 

As a Head of Learner Services, she is responsible for learner transition into the Torfaen Learning Zone. She has been busy working closely with local schools and with safeguarding and youth support groups throughout Gwent.

As Head of Vocational Studies, Maria is responsible for vocational curriculum at the campus including Independent Living Skills, HE and Access to Higher Education and is working closely with schools and local employers.

Mae Coleg Gwent hefyd wedi penodi Sian Hughes fel Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr a Maria Johnson fel Pennaeth Astudiaethau Galwedigaethol.

Gyda chefndir mewn dysgu a mwy nag ugain mlynedd o brofiad mewn Addysg, mae Sian wedi cyflwyno prosiectau cymorth dysgu mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac ysgolion cyn ymuno â Choleg Gwent yn 2005 fel Rheolwr Canolfan Ddysgu ym Mhont-y-pŵl. 

Fel Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr, mae’n gyfrifol am drosglwyddo dysgwyr i Barth Dysgu Torfaen. Mae wedi bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion a grwpiau cymorth ieuenctid ledled Gwent.

Fel Pennaeth Astudiaethau Galwedigaethol, mae Maria’n gyfrifol am y cwricwlwm galwedigaethol ar y campws gan gynnwys Sgiliau Byw’n Annibynnol, Addysg Uwch a Mynediad i Addysg Uwch ac mae’n gweithio’n agos ag ysgolion a chyflogwyr lleol.


Latest curriculum and Pupil Transition news - click here for latest 

Following work between Coleg Gwent and all the borough’s secondary schools to align curriculums and study materials, the number of A levels on offer in Cwmbran has increased to 26 and vocational qualifications have increased from 13 to 16.  There will also be several foundation degree courses on offer – for more info click here 

As part of the pupil transition process staff from Coleg Gwent and the council have attended options evenings at Cwmbran High, Croesyceiliog and St, Alban’s as well as school assemblies at St. Alban’s, Abersychan and West Mon.

Learners can apply now. Enrol by clicking here or call 01495 333 777 to apply today!

Transition Activities

Coleg Gwent's presence in schools this year has included:

  • Year 12 and Year 11 assemblies
  • Monthly drop in surgeries in West Mon and Abersychan and fortnightly visits to, St Albans, Croesyceiliog and Cwmbran High
  • Parents’ evenings from Year 12 to Year 9.

Regular Torfaen Learning Zone visits for year 11 and year 12 learners will take place on Friday afternoon's in the New Year. 

Newyddion diweddaraf cwricwlwm a Phontio Disgyblion - cliciwch yma am y diweddaraf 

Ar ôl gwaith gyda Choleg Gwent a holl ysgolion uwchradd y fwrdeistref i alinio cwricwlwm a deunyddiau astudio, mae nifer y pynciau lefel A sydd ar gael yng Nghwmbrân wedi cynyddu i 26 ac mae cymwysterau galwedigaethol wedi cynyddu o 13 i 16. Bydd hefyd nifer o gyrsiau gradd sylfaen ar gael – i gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma 

Fel rhan o’r broses o bontio disgyblion mae staff o Goleg Gwent a’r cyngor wedi mynychu nosweithiau opsiynau yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Croesyceiliog a St, Alban’s ynghyd â chyfarfodydd boreol yn St. Alban’s, Abersychan a Gorllewin Mynwy.

Gall dysgwyr gofrestru nawr. Gallwch gofrestru trwy glicio yma neu ffonio 01495 333 777 i wneud cais heddiw!

Gweithgareddau Pontio

Mae presenoldeb Coleg Gwent mewn ysgolion eleni wedi cynnwys:

  • Cyfarfodydd boreol Blwyddyn 12 a Blwyddyn 11
  • Cymorthfeydd galw heibio misol yng Ngorllewin Mynwy ac Abersychan ac ymweliadau bob pythefnos â St Alban’s, Croesyceiliog ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân
  • Nosweithiau rhieni o Flwyddyn 12 i Flwyddyn 9.

Bydd ymweliadau rheolaidd â Pharth Dysgu Torfaen ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11 a Blwyddyn 12 yn digwydd ar brynhawn Gwener yn y Flwyddyn Newydd. 


roadmap

Roadmap and info for parents with FAQ 

Supporting the parents and guardians of our learners is as important to us as treating our learners as individuals to ensure they achieve their goals. Click here for info and FAQ

We understand that you may have concerns over your child moving to a brand new college.

To help with this, Coleg Gwent have compiled a list of frequently asked questions they’ve had from parents so far. In this booklet, you’ll find out information on the support we have at the college (highlighted as a strength in their latest Estyn inspection), transport, the campus and the transition from school to college life. If you still have any questions, please take a look at the leaflet on our website or get in touch with Coleg Gwent's friendly Student Recruitment team.  

Map a gwybodaeth i rieni gyda Chwestiynau Cyffredin 

Mae cefnogi rhieni a gwarcheidwaid ein dysgwyr mor bwysig i ni â thrin ein dysgwyr fel unigolion i sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth a gweld y Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn deall os oes gennych bryderon ynglŷn â’ch plentyn yn symud i goleg newydd sbon.

I helpu gyda hyn, mae Coleg Gwent wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin y maent wedi eu derbyn gan rieni hyd yn hyn. Yn y llyfryn hwn, mae gwybodaeth ar y cymorth sydd gennym yn y coleg (wedi ei nodi fel cryfder yn yr arolwg Estyn diweddaraf), cludiant, y campws a phontio o fywyd ysgol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, edrychwch ar y daflen ar ein gwefan neu cysylltwch â thîm cyfeillgar Recriwtio Myfyrwyr Coleg Gwent.  

tlz inside

On target and on budget

All structural works have now been completed. The steel frame has infilled with a steel framing system and cladding carrier rails. Work has also started on the internal walls to get a head start on the internal fit out.

The new entrance road within the old Meritor area is now formed. A new turning circle has been formed outside the Meritor main entrance as part of the new scheme.

Most of the underground drainage is in place, the felt roof is complete and the sprinkler systems are being installed. Lift shafts have been built and painted.

A part of St. David’s Road has been narrowed in order to relocate the bus stop and create the new road junction which can seen as you walk over the bridge from Morrisons towards the Town Centre.

A handover date of June 2020 remains on target and costs remain on budget and the building will be open for all students in September 2020 as planned.

Ar y targed ac o fewn y gyllideb

Mae’r holl waith strwythurol bellach wedi ei gwblhau. Mae’r ffrâm ddur wedi ei llenwi gyda system fframio ddur a rheiliau cludo cladin. Mae’r gwaith hefyd wedi dechrau ar y waliau mewnol er mwyn cychwyn ar y gwaith mewnol.

Mae’r fynedfa newydd yn hen ardal Meritor wedi ei ffurfio. Mae cylch droi newydd wedi ei hadeiladu y tu allan i brif fynedfa Meritor fel rhan o’r cynllun newydd.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith draenio tanddaearol wedi ei wneud ac mae’r systemau chwistrellu yn cael eu gosod. Mae siafftiau lifft wedi eu hadeiladu a’u peintio.

Mae rhan o St. David’s Road wedi ei gulhau er mwyn adleoli’r lloches bws ac i greu cyffordd newydd y gellir ei gweld wrth i chi gerdded dros y bont o Morrisons tuag at Ganol y Dref.

Mae dyddiad trosglwyddo ym mis Mehefin 2020 yn dal ar y targed ac mae’r costau’n parhau i fod o fewn y gyllideb, a bydd yr adeilad ar agor i fyfyrwyr ym mis Medi 2020, yn unol â’r cynlluniau.


TLZ drone

Drone and Time lapse footage

As part of keeping you updated on site progress, the latest drone footage has been captured to show how the Torfaen Learning Zone is rising from the ground.  To view some brilliant aerial footage click here

Ffilm drôn a’r delweddau diweddaraf

Fel rhan o’ch diweddaru ar y cynnydd ar y safle, mae’r ffilm ddiweddaraf o’r drôn yn dangos sut mae Parth Dysgu Torfaen yn codi o’r ddaear. I weld yr olygfa wych o’r awyr cliciwch yma  https://www.youtube.com/watch?v=Ci10-yAncFo

TLZ internal 2

Take a peek inside 

This latest fly-though footage gives a fantastic tour inside the new facilities. Click here

Cipolwg tu mewn

Mae’r ffilm wych hon sy’n hedfan drwy’r adeilad yn dangos y tu mewn i’r cyfleusterau newydd. Cliciwch


Webpages

For more information and stay up to date with the latest news, please visit our Learning Zone webpages 

Tudalennau gwe

I gael mwy o wybodaeth a chael y newyddion diweddaraf, rhowch glic ar dudalennau gwe ein Canolfan Ddysgu


TLZ reception
Coleg Gwent
Torfaen logo
Torfaen logo