Regarded as one of the fastest 10k runs in the UK, the Torfaen Sports Development Team are anticipating another successful event this year with entries already approaching the 1,000 mark and only a few hundred places remaining.
This year, the annual Mic Morris Torfaen 10k road race will be taking place on Sunday 14 July, 2019. If you wish still to enter you’ll need to be quick out of the blocks with the deadline date for entries on Friday 5 July.
Mic Morris was a police officer and a British international middle distance runner from Pontypool who died aged just 24 during a training run in 1983.
All profit from the race is donated to the Mic Morris Memorial Sporting Trust Fund. The trust fund was set up between Gwent Police and Torfaen Council to raise money for Torfaen’s elite young sports people, specifically for young people aged 11 to 21 who live in Torfaen. Last year, the fund supported three elite members which included Leila Thomas for netball, Alex Rosser for para-swimming and cyclist Zach Bridges.
The leader of Torfaen Council, Cllr Anthony Hunt said, “The Mic Morris 10k is an extremely popular event with runners of all ages and abilities taking part. The event has been growing every year and is always well-supported by the local community who turn out to cheer on the runners.
‘With a reputation for personal best times, runners are known to come from far and wide with runners from the USA, Canada and Australia all taking part in 2018.’
Event organiser Ben Jeffries said: ‘This year, we expect to see our biggest event yet, so if you have not already signed up, be quick and book your place at the starting line. The profile of this event is getting bigger and bigger every year and it’s extremely rewarding to see entrants from all over the UK now visiting Torfaen to take part in the Mic Morris run.’
Event organisers are advising runners to be at the starting line on Cwmavon Road, Blaenavon at 8:30am, with the race commencing at 9am. Runners will then head to the beautiful surroundings of Pontypool Park to cross the finish line. All runners will be chip timed and will receive a finishers bag when they cross the line which includes a medal, tech t-shirt and other goodies.
The race is suitable for all runners and the minimum age for entrants is 15 years old.
A full road closure will be in place from Cwmavon Road, Blaenavon to Pontypool Park between 8am and 11:30am. For road closure information visit the Torfaen website.
Entries can be completed on the Fullon Sport and if you require transport on the day, an option for a return shuttle bus journey from Pontypool Active Living Centre carpark to Blaenavon is available when you book online.
For event information, sponsorship enquiries, or if you would like to volunteer on the day, please call Christine Philpott on 01633 628936 or email christine.philpott@torfaen.gov.uk
Mae Tîm Datblygiad Chwaraeon Torfaen yn disgwyl digwyddiad llwyddiannus arall eleni gyda cheisiadau eisoes yn nesáu at 1,000 o redwyr ar gyfer y ras yma sy’n cael ei ystyried yn un o’r rasys 10k cyflymaf yn y DU, a dim ond rhai cannoedd o leoedd sydd ar ôl.
Eleni, bydd ras 10k blynyddol Mic Morris Torfaen ar ddydd Sul 14 Gorffennaf, 2019. Os hoffech chi gymryd rhan bydd angen i chi fod yn gyflym gan mai dydd Gwener, Gorffennaf 5 yw’r dyddiad cau.
Roedd Mic Morris yn heddwas ac yn rhedwr rhyngwladol dros Brydain o Bont-y-pŵl a fu farw yn 24 oed wrth ymarfer yn 1983.
Bydd yr holl elw o’r ras yn mynd i Gronfa Ymddiriedolaeth Coffa Chwaraeon Mic Morris. Sefydlwyd y gronfa gan Heddlu Gwent a Chyngor Torfaen i godi arian ar gyfer mabolgampwyr elît Torfaen, yn arbennig pobl ifanc 11-21 oed sy’n byw yn Nhorfaen. Eleni mae’r gronfa wedi cefnogi tri aelod elît sef Leila Thomas (Pêl-rwyd), Alex Rosser (para-nofio) a’r seiclwr Zach Bridges.
Dywedodd arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt, “Mae ras Mic Morris yn boblogaidd iawn gyda rhedwr o bob oed a gallu yn cymryd rhan. Mae’r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn ac mae’n cael cefnogaeth frwd gan y gymuned leol sy’n dod i annog y rhedwyr.
‘Gydag enw da am amserau da, mae rhedwyr yn dod o bell gyda rhedwyr o UDA, Canada ac Awstralia yn cymryd rhan yn 2018.’
Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Ben Jeffries: ‘Eleni rydym yn disgwyl y digwyddiad mwyaf eto, felly os nad ydych chi wedi danfon eich ffurflen gais eto, mae’n well i chi frysio a chael eich lle. Mae proffil y ras yn tyfu pob blwyddyn ac mae’n dda gweld cystadleuwyr o ar draws y DU nawr yn dod i Dorfaen i gymryd rhan yn ras Mic Morris.’
Mae trefnwyr y ras yn cynghori rhedwyr i fod wrth y llinell gychwyn ar Cwmavon Road, Blaenafon am 8:30am, gyda’r ras i gychwyn am 9am. Bydd y rhedwyr wedyn yn rhedeg at hyfrydwch Park Pont-y-pŵl i groesi’r llinell derfyn. Bydd pob rhedwr yn cael eu hamseru gan sglodyn ac yn derbyn bag arbennig pan fyddan nhw’n gorffen a fydd yn cynnwys medal, crys-T ac amryw o bethau eraill.
Mae’r ras yn addas i redwyr o bob math a rhaid bod yn 15 oed i gymryd rhan
Bydd y ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl o Cwmavon Road, Blaenafon i Barc Pont-y-pŵl rhwng 8am a 11:30am. Am wybodaeth ynglŷn â chau’r ffyrdd, ewch i wefan Torfaen.
Gallwch wneud cais ar Fullon Sport ac os oes angen trafnidiaeth arnoch chi ar y diwrnod, gallwch ddewis taith yn ôl ar fws o Ganolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl i Flaenafon os byddwch yn bwcio ar-lein.
Am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, ymholiadau am noddi, neu os hoffech chi wirfoddoli ar y diwrnod, ffoniwch Christine Philpott ar 01633 628936 neu danfonwch e-bost at christine.philpott@torfaen.gov.uk
|