Nifty, Thrifty Torfaen Bulletin | Bwletin Torfaen Cynnil, Clyfar

12/04/2019

Nifty Thrifty Torfaenmoney

Nifty, Thrifty Torfaen...

Packed with all the latest news, tips and information to help your money go that little bit further.

Awgrymiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf i helpu'ch arian i fynd ychydig ymhellach.

Are you struggling financially and looking for some support?

There are services across Torfaen that can help people who are in financial difficulty.  The can offer support with benefits and debt advice, offer hardship support to purchase gas, electric and basic household items and provide foodbank vouchers.

 

If you or someone you know are struggling, here’s where you can get some help:

 

Building Resilient Communities Financial Inclusion Team: Helen Jenkins 01495 742855 / 07834555055 Helen.Jenkins@Torfaen.gov.uk

 

Citizens Advice: Call 03444 77 20 20 or email reception@torfaencab.org.uk or call into one of our offices or outreach locations

 

Hafan Cymru (Family Support)

Vanessa Morris 07788 646975 Vanessa.Morris@hafancymru.co.uk

Hannah Berry 07768507604 Hannah.Berry@hafancymru.co.uk

 

Bron Afon Community Housing (Tenancy Support):

Jade Glastonbury 01633 620444 / jade.glastonbury@bronafon.org.uk

 

Melin Homes - Money Advice Team email: moneyadvice@melinhomes.co.uk or call 01495 745910

 

Supporting People Housing Support Services:  Services funded through the Supporting People Programme can help people who may be at risk of losing their home or struggling to access accommodation to meet their needs.  We have a range of options to assist including financial inclusion support, 121 support tailored to your needs, drop in surgeries or supported housing.  Please call the Supporting People Gateway on 01495 766949 for further information. 


Ydych chi’n cael anawsterau ariannol ac a ydych yn chwilio am gymorth?

Mae gwasanaethau ledled Torfaen a all helpu pobl sydd ag anawsterau ariannol. Gallant gynnig cymorth gyda chyngor ar fudd-daliadau a dyledion, cynnig cymorth mewn caledi i brynu eitemau nwy, trydan ac eitemau sylfaenol i’r cartref, a darparu talebau banciau bwyd. 

Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn cael trafferthion, dyma ble medrwch gael help:

 

Tîm Cynhwysiant Ariannol Cymunedau Cydnerth: Helen Jenkins 01495 742855 / 07834555055 Helen.Jenkins@Torfaen.gov.uk

 

Cyngor ar Bopeth: Ffoniwch 03444 77 20 20 neu e-bostiwch reception@torfaencab.org.uk neu ewch heibio un o’n swyddfeydd neu leoliad allgymorth

 

Hafan Cymru (Cymorth i’r Teulu)

Vanessa Morris 07788 646975 Vanessa.Morris@hafancymru.co.uk

Hannah Berry 07768507604 Hannah.Berry@hafancymru.co.uk

 

Tai Cymunedol Bron Afon (Cymorth gyda Thenantiaeth):

Jade Glastonbury 01633 620444 / jade.glastonbury@bronafon.org.uk

 

Cartrefi Melin – Tîm Cyngor Ariannol, ebost: moneyadvice@melinhomes.co.uk neu ffoniwch 01495 745910

 

Gwasanaethau Cymorth Tai Cefnogi Pobl:  Gall gwasanaethau a ariennir drwy’r Rhaglen Cefnogi Pobl helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref neu sy’n cael anhawster i ganfod llety sy’n addas i’w hanghenion. Mae gennym ystod eang o opsiynau i gynorthwyo gan gynnwys cymorth cynhwysiant ariannol, cymorth un i un sy’n addas i’ch anghenion, cymorthfeydd galw heibio neu lety â chymorth. Ffoniwch Borth Cefnogi Pobl ar 01495 766949 i gael rhagor o wybodaeth.


Benefit Payments over Easter

Any benefits payments due on Good Friday or Easter Monday will be paid on 18 April.

 

Visit www.gov.uk/how-to-have-your-benefits-paid

Taliadau Budd-dal dros y Pasg

Bydd unrhyw daliadau budd-dal sy’n ddyledus ar Ddydd Gwener y Groglith neu Ddydd Llun y Past yn cael eu talu ar 18 Ebrill.

Ewch i www.gov.uk/how-to-have-your-benefits-paid


Smart About Money

Need help making your money go that little bit further?

You can, every Monday and Friday at the TRAC2 Offices Trevethin, or call 01495 764078 to speak with a member of the team. 

 

The support is designed to help people manage their money better. As well as support with budgeting the project worker will link people to the wider services available from Citizens Advice Torfaen and the wider support network of agencies across Torfaen.

Call gydag Arian

Angen help i wneud i’ch arian fynd ychydig ymhellach?

Gallwch alw heibio Swyddfeydd TRAC2 yn Nhrefddyn bob dydd Llun a dydd Gwener, neu ffoniwch 01495 764078 i siarad gydag aelod o’r tîm. 

 

Bwriad y cymorth yw helpu pobl i reoli eu harian yn well. Ynghyd â chymorth gyda chyllidebu, bydd y gweithiwr prosiect yn cysylltu pobl gyda’r gwasanaethau ehangach sydd ar gael gan Gyngor ar Bopeth Torfaen a’r rhwydwaith ehangach o asiantaethau ar draws Torfaen.


Gas/Electric support

If you’re having problems paying for Gas or Electric, please contact the Discretionary Assistance Fund Wales on 0800 859 5924. Alternatively you can email: Feedback@northgateps.com 

Cymorth gyda Nwy/Trydan

Os ydych yn cael trafferthion yn talu am Nwy neu Drydan, cysylltwch â Chronfa Cymorth Dewisol Cymru ar 0800 859 5924. Neu gallwch e-bostio: Feedback@northgateps.com

Neu Gwnewch Gais Yma


Warmer Wales

If you are looking for advice on how to reduce your energy costs we can arrange for a specialist energy adviser to meet you at a local venue or at your home to give in depth advice tailored to your needs.

 

For more information contact Citizens Advice Torfaen on 01633 876121 (option 2) or email

reception@citizensadvicetorfaen.org.uk

Cymru Gynhesach

Os ydych eisiau cyngor ar sut i leihau costau ynni, medrwn drefnu bod cynghorydd ynni arbenigol yn eich cyfarfod yn lleol neu yn eich cartref i roi cyngor manwl sy’n addas i’ch dibenion chi.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Torfaen ar 01633 876121 (opsiwn 2) neu e-bostiwch

reception@citizensadvicetorfaen.org.uk


Support with food

Grocery Aid: If you or your partner work or have worked in any part of the grocery industry you are eligible for help from Grocery Aid. They offer free emotional support and advice on many problems including; mental health issues, finance, debt worries, relationship breakdowns, legal questions and carers support. You may also be entitled to financial assistance.

 

Applications are individually assessed based on your circumstances. For more information or to receive support call 08088 021 122 or visit groceryaid.org.uk for live chat. 

 

Eastern Valley Food Bank: The Food Bank operates from The Hope Centre, Unit 5 Pavilion Industrial Estate, Pontnewynydd and the Salvation Army in Cwmbran.

All centre opening times can be found here

 

Fareshare:

Every Thursday at Bethlehem Church, Broad Street, Blaenavon 

Every Thursday at Griffithstown ‘Women in Need’ Refuge

Cymorth gyda bwyd

Grocery Aid: Os ydych chi neu eich partner yn neu wedi bod yn gweithio mewn unrhyw ran o’r diwydiant bwyd, rydych yn gymwys i gael help gan Grocery Aid. Maent yn cynnig cymorth emosiynol a chyngor am ddim ar nifer o broblemau gan gynnwys: materion iechyd meddwl, cyllid, pryderon am ddyledion, perthynas yn chwalu, cwestiynau cyfreithiol a chymorth i ofalwyr. Efallai hefyd y bydd gennych hawl i gymorth ariannol.

Mae ceisiadau’n cael eu hasesu’n unigol yn seiliedig ar eich amgylchiadau. I gael rhagor o wybodaeth neu i gael cymorth, ffoniwch 08088 021 122 neu ewch i groceryaid.org.uk i gael sgwrs fyw. 

Banc Bwyd Eastern Valley: Mae’r Banc Bwyd yn gweithio o The Hope Centre, Uned 5 Stad Ddiwydiannol y Pafiliwn, Pontnewynydd a Chanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghwmbrân.

Mae oriau agor y ganolfan i’w gweld yma

Fareshare:

Bob dydd Iau yn Eglwys Bethlehem, Broad Street, Blaenafon

Bob dydd Iau yn Lloches ‘Women in Need’ Griffithstown


Pension Credit Changes

Right now, someone over 65 living as a couple is entitled to claim pension credit regardless of their partner's age. From 15 May 2019, those claiming as a couple will only be able to begin claiming if BOTH partners are over 65.

 

Make a claim for pension credit or seek advice from Age Connects Torfaen

Newidiadau i Gredyd Pensiwn

Nawr, mae rhywun sydd dros 65 oed sy’n byw fel cwpl yn medru hawlio credyd pensiwn beth bynnag yw oedran eu partner. O 15 Mai 2019, bydd rhai sy’n hawlio fel cwpl ond yn medru gwneud hynny os yw’r DDAU bartner dros 65 oed.

 

Gwneud cais am gredyd pensiwn neu ofyn am gyngor gan Age Connects Torfaen


Easter Bunny

Entertaining the kids this Easter

Keep the children entertained with lots of free and low cost activities. There are plenty of places to get outside in Torfaen including Pontypool Park, Cwmbran Boating Lake and Blaenavon Landscape, check out the activities at Cwmbran Stadium or Pontypool Active Living Centre or take a look other things to do.

Diddanu’r plant dros y Pasg

Diddanwch y plant gyda llawer i weithgareddau rhad ac am ddim a chost isel. Mae digon o leoedd yn Nhorfaen i fynd allan i’r awyr agored gan gynnwys Parc Pont-y-pŵl, Llyn Cychod Cwmbrân a Thirwedd Blaenafon, mae gweithgareddau yn Stadiwm Cwmbrân   neu Ganolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl  neu mae rhagor o bethau i’w gwneud yma.


Building Resilient Communities 

Torfaen Building Resilient Communities Financial Inclusion Team is able to assist individuals and families to maximise income and to make better financial decisions.

 

They can provide support to access grants for essential items and emergency cash, assist with money management to help prioritise key bills and plan purchases. They also look at opportunities for people to start saving as well as sign post to local services and charities that are able to provide household items and furniture for free or minimal cost

 

To speak with a member of the team, contact the north Torfaen office on 01495 766188 or south Torfaen office on 01633 648812.

Meithrin Cymunedau Cydnerth 

Mae Tîm Cynhwysiant Ariannol Cymunedau Cydnerth Torfaen yn medru cynorthwyo unigolion a theuluoedd i wneud y mwyaf o’u hincwm a gwneud penderfyniadau ariannol gwell.

Gallant roi cymorth i wneud ceisiadau am grantiau ar gyfer eitemau hanfodol ac arian mewn argyfwng, helpu gyda rheoli arian i flaenoriaethu biliau allweddol a chynllunio pryniannau. Maent hefyd yn edrych ar gyfleoedd i bobl ddechrau cynilo ynghyd â’u cyfeirio at wasanaethau lleol ac elusennau sy’n medru darparu eitemau ar gyfer y tŷ a dodrefn am ddim neu gost isel.

I siarad ag aelod o’r tîm, cysylltwch â swyddfa gogledd Torfaen ar 01495 766188 neu swyddfa de Torfaen ar 01633 648812.


Hafan CYmru

Hafan Cymru support at Cwmbran Library

Every Saturday from 9am until 12pm the Hafan Cymru team will be at Cwmbran Library to support residents on a range of issues.

 

They can help with advice on housing/maintaining a tenancy, emotional support, help to complete forms, guidance with domestic abuse issues, parenting information and support with benefits and debt management.

 

For more information about this service please call 07768507604 or visit:

www.hafancymru.co.uk

Cymorth Hafan Cymru yn Llyfrgell Cwmbrân

Bob dydd Sadwrn o 9am hyd at 12pm bydd tîm Hafan Cymru yn Llyfrgell Cwmbrân i gynorthwyo trigolion ar amrywiaeth o faterion.

Gallant helpu gyda chyngor ar dai / cadw tenantiaeth, cymorth emosiynol, help i gwblhau ffurflenni, arweiniad ar faterion camdriniaeth ddomestig, gwybodaeth i rieni a chymorth gyda budd-daliadau a rheoli dyledion.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, ffoniwch call 07768507604 neu ewch i:

www.hafancymru.co.uk


Mind

Mental Health & Housing Surgeries

Are you struggling to find suitable accommodation or looking to manage your home?

Do you need help with budgeting, accessing benefits and managing your money? 

Is your mental health making it difficult to cope with day to day living?

 

If so, Torfaen and Blaenau Gwent Mind are here to help!

They hold open access sessions at the following locations:

  • Pontypool Wellbeing Centre, Monday to Friday, 9am - 3:30pm
  • Cwmbran Citizen Advice, Monday, Tuesday, Thursday, Friday, 10am - 3:30pm    and Wednesday, 8:30am - 3:30pm

For more information call 01495 757393 or contact the Supporting People Gateway team on 01495 766949. www.torfaenmind.co.uk 

Cymorthfeydd Iechyd Meddwl a Thai

Ydych chi’n cael anhawster i gael hyd i lety addas neu eisiau rheoli eich cartref?

Ydych chi angen help i gyllidebu, gwneud cais am fudd-daliadau a rheoli eich arian? 

A yw eich iechyd meddwl yn ei gwneud yn anodd ymdopi o ddydd i ddydd?

Os felly, mae Mind Torfaen a Blaenau Gwent yma i helpu!

Maent yn cynnal sesiynau agored yn y mannau canlynol:

  • Canolfan Les Pont-y-pŵl, Llun - Gwener, 9am - 3:30pm
  • Cyngor ar Bopeth Cwmbrân, Llun, Mawrth, Iau, Gwener, 10am - 3:30pm    ac ar ddydd Mercher, 8:30am - 3:30pm

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01495 757393 neu cysylltwch â thîm Porth Cefnogi Pobl ar 01495 766949. www.torfaenmind.co.uk