Weekly news bulletin | Newyddion Wythnosol

08/03/2019

weekly newsspring clean 2019

Torfaen preparing for spring clean with cleanse of A4042 roadside verges

The council has started preparations ahead of its third Spring Clean which begins Friday 22 March and runs until Tuesday 23 April. The Torfaen Spring Clean will run in parallel with Keep Wales Tidy’s annual Spring Clean Cymru campaign.

By working in partnership with Keep Wales Tidy and other partners such as Bron Afon, the council is encouraging community groups, sports and social clubs, churches, schools, businesses and residents to get involved and take part in litter picks and clear up events in their area.

Read more...

Torfaen yn paratoi am wanwyn glân trwy lanhau ymylon ffordd yr A4042

Mae’r cyngor wedi dechrau paratoi ar gyfer ei drydydd Gwanwyn Glân sy’n dechrau ar ddydd Gwener 22 Mawrth ac sy’n mynd ymlaen tan ddydd Mawrth 23 Ebrill.  Bydd Gwanwyn Glân Torfaen yn cyd-fynd ag ymgyrch flynyddol Gwanwyn Glân Cymru Cadwch Gymru’n Daclus.

Trwy gydweithio â Chadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid eraill fel Bron Afon, mae’r cyngor yn annog grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon a chymdeithasol, eglwysi, ysgolion, busnesau a thrigolion i gymryd rhan mewn casgliadau sbwriel yn eu hardaloedd.

Darllen mwy...

Civic Centre Pontypool

Council approves 2019/20 budget

Torfaen council have approved a £176 million net budget that continues to invest and protect its corporate priorities of schools, services for vulnerable residents and cleaning and greening the borough.

 

The 2019/20 budget includes approximately £3.5 million of savings and efficiencies to meet a shortfall due to a range of factors including increased demand for services and rising costs to deliver them, national pay pressures and a below inflation funding settlement. Read more...

 

Cyngor yn cymeradwyo cyllideb 2019/20

Mae cynghorwyr Torfaen wedi cymeradwyo cyllideb net gwerth £176 miliwn sy'n parhau i fuddsoddi yn ei flaenoriaethau corfforaethol, a’u diogelu, sef ysgolion, gwasanaethau i drigolion diamddiffyn a glanhau a gwyrddu'r fwrdeistref.

 

Mae cyllideb 2019/20 yn cynnwys tua £3.5 miliwn o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd i ddiwallu diffyg oherwydd amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys y galw cynyddol am wasanaethau a chostau cynyddol i'w cyflawni, pwysau cyflog cenedlaethol a setliad sy'n is na chwyddiant. Darllen mwy...


health well-being

New well-being initiative launched in Torfaen for families

Torfaen Play Service are working in partnership with Torfaen Sports Development and Families First to deliver a series of health and well-being sessions to families in Torfaen.  

 

Families that are identified or signposted to join the 10 week programme are supported to increase their health and well-being through a series of physical activities. Read more...

 

Menter lles newydd wedi'i anelu at deuluoedd yn cael ei lansio yn Nhorfaen

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth ag Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen a Theuluoedd yn Gyntaf i gyflwyno cyfres o sesiynau iechyd a lles i deuluoedd yn Nhorfaen.

 

Cefnogir teuluoedd sy'n cael eu nodi neu eu hatgyfeirio i ymuno â'r rhaglen 10 wythnos i gynyddu eu hiechyd a'u lles trwy gyfres o weithgareddau corfforol. Darllen mwy...


Universal Credit

Torfaen Council is committed to supporting the most vulnerable residents in Torfaen. The image below demonstrates how we have supported residents that have been impacted by Welfare Reform, in particular Universal Credit. 

 

For further information and support, visit the Universal Credit pages on the Torfaen website. 

 

Universal Credit

Credyd Cynhwysol                                                       

Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i gefnogi trigolion mwyaf bregus Torfaen.  Mae’r llun isod yn dangos sut rydym wedi cefnogi’r trigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan Ddiwygio Lles, yn enwedig Credyd Cynhwysol.

 

Am fwy o wybodaeth a chymorth, ewch i dudalennau Credyd Cyffredinol ar wefan Torfaen.

 

Universal credit welsh

Apprenticeship week

Apprenticeship Week Cymru 2019 - You're hired

Torfaen Training encourages businesses to embrace apprentices as part of a nationwide celebration of the value of apprentices.

 

Having an apprentice in the workplace is a practical and cost effective way to build a skilled workforce and address skills gaps. They are also great way to bring a return on investment. Read more...

 

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2019 – Chi Piau Hi!

Mae Hyfforddiant Torfaen yn annog busnesau i groesawu prentisiaid fel rhan o ddathliad cenedlaethol i werthfawrogi gwerth prentisiaid.

 

Mae cael prentis yn y gweithle yn ffordd ymarferol a chost-effeithiol o adeiladu gweithlu medrus a mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau. Maent hefyd yn ffordd wych o weld buddsoddiad yn dwyn ffrwyth. Darllen mwy...


Elections Polling Station

Polling station review

The council is reviewing all its polling districts and polling stations in Torfaen.

 

Recommendations may include relocating your current polling station and we would like your comments and suggestions regarding the proposals. Read more...

 

Adolygiad gorsafoedd pleidleisio

Mae’r Cyngor yn adolygu’r holl ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio yn Nhorfaen.

 

Gall cynigion gynnwys ail-leoli eich gorsaf pleidleisio bresennol a hoffem gael eich sylwadau a’ch awgrymiadau ynglŷn â’r argymhellion. Darllen mwy...


care

Thousands more care workers needed in Wales by 2030

Wales will need thousands more people to work in caring roles with adults and children by 2030 if it is to keep pace with the growing demand for care services and provide support for communities across the country.

 

To help attract more people to work in care, a national campaign called WeCare has been launched today. Read more...

 

Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng nghymru erbyn 2030

Bydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.

 

I helpu i ddenu mwy o bobl i weithio mewn gofal, mae ymgyrch genedlaethol o’r enw Gofalwn wedi’i lansio heddiw. Darllen mwy...


magic moments

Magic Moments in Homecare

Yesterday, The Wales School for Social Care Research and The Gwent Regional Partnership Team launched an interactive event that brought together home carers from across Gwent and beyond to celebrate the innovation, commitment and good practice of care staff through the sharing of stories and ‘magic moments.’

 

The ‘Magic Moments in Homecare’ event also celebrated the positive difference home carers make every day to people’s lives across Gwent. Read more..

 

Munudau Hudol mewn Gofal Cartref

lansiodd Coleg Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol a Thîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent ddigwyddiad rhyngweithiol yn dwyn at ei gilydd ofalwyr cartref o bob cwr o Went a thu hwnt i ddathlu’r arloesi, yr ymroddiad ac arferion da staff gofal trwy rannu straeon a ‘munudau hudol’.

 

Roedd y digwyddiad ‘Munudau Hudol mewn Gofal Cartref’ hefyd yn dathlu’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae gofalwyr cartref yn ei wneud bob dydd i fywydau pobl ledled Gwent. Darllen mwy...


youth apprentices

Torfaen Youth Apprenticeship scheme success

18-year-old Thannaya Lewis, 17-year-old Josh Legge, 20-year-old Libby Martin and 17-year-old Carla O brien are the latest young people to complete the Torfaen Youth Services apprenticeship programme, and will be looking to take their next steps on to higher education at Cardiff Metropolitan University this year. 

 

In a working partnership approach between Torfaen Youth Service and Torfaen Training, apprentices are hired as trainees on a programme that consists of taught and work based learning sessions, with paid employment for 30 hours a week on an apprenticeship wage. Read more...

 

Llwyddiant cynllun Prentisiaeth Ieuenctid Torfaen

Thannaya Lewis, 18 oed, Josh Legge, 17 oed, Libby Martin, 20 oed a Carla O brien, 17 oed, yw’r bobl ifanc diweddaraf i gwblhau rhaglen brentisiaeth Gwasanaethau Ieuenctid Torfaen, a byddant yn cymryd eu camau nesaf i addysg uwch ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd eleni. 

 

Mewn cynllun partneriaeth gwaith rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen a Hyfforddiant Torfaen, caiff prentisiaid eu cyflogi fel hyfforddeion ar raglen sy’n cynnwys sesiynau a ddysgir a sesiynau dysgu yn y gwaith, gyda chyflogaeth â thâl am 30 awr yr wythnos ar gyflog prentis. Darllen mwy...


library

Torfaen Libraries New Library Management System

Torfaen Libraries are currently upgrading their library management system and customers may find that some services are limited during the week beginning 18 March 2019.

 

The catalogue and online access to library accounts may be affected between 18 and 25 March,although customers will be able to renew items by contacting any Torfaen library.

We apologise for any inconvenience.

 

System Newydd Rheoli Llyfrgelloedd Torfaen

Mae Llyfrgelloedd Torfaen ar hyn o bryd yn uwchraddio’r system rheoli llyfrgelloedd ac efallai y bydd cwsmeriaid yn canfod fod ein gwasanaethau wedi eu cyfyngu yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 18 Mawrth 2019.

 

Efallai y bydd y catalog a mynediad arlein i gyfrifon llyfrgell yn cael eu heffeithio rhwng 18 a 25 Mawrth, er y bydd cwsmeriaid yn gallu adnewyddu eitemau trwy gysylltu ag unrhyw un o lyfrgelloedd Torfaen. Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod a achosir.


The Torfaen Mic Morris Trust Fund is open for applications!

If you’re a talented sports person in Torfaen aged between 11 - 21 years and part of a sports club, you can apply now! [link here]

 

Those eligible will be placed within four categories which include:

 

- World class performer

- Elite Cymru

- Member of a national team or squad as specified through the list provided by Sport Wales

- Ranked within the top 5 for Welsh and/or top 10 for GB (age group performance level for their discipline)

 

Application forms are available by contacting Torfaen Sports Development on 01633 628936 or you can apply online.  For more information visit the Torfaen website.

 

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Mic Morris ar agor i geisiadau!

Os ydych chi’n berson talentog mewn chwaraeon yn Nhorfaen, yn 11 – 21 oed ac yn rhan o glwb chwaraeon, gallwch wneud cais nawr! [link here]

 

Bydd y rheiny sy’n gymwys yn cael eu gosod mewn pedwar dosbarth sy’n cynnwys:

                                                                                                                                                    

-Perfformiwr o radd flaenaf (Byd-eang)

- Elît Cymru

- Aelod o dîm neu garfan genedlaethol yn ôl rhestr a ddarperir gan Chwaraeon Cymru

- Yn y 5 uchaf  yng Nghymru neu’r 10 uchaf ym Mhrydain (grŵp oedran am eu camp)

 

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â Datblygiad Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 neu gallwch wneud cais ar-lein. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Torfaen.


Supporting the homeless

If you are aware of someone who may be sleeping rough, please contact Torfaen Council to let us know where they are and help us co-ordinate a response. You can inform us in the following ways:

  1. Telephone the council’s customer care service on 01495 762200.
  2. Reporting the information via the Street Link website or app
  3. Using the Homeless form on the council’s website and app

Cefnogi’r digartref

Os ydych chi’n gwybod am rywun a all fod yn cysgu allan, cysylltwch os gwelwch yn dda â Chyngor Torfaen i adael i ni wybod ble maen nhw ac i’n helpu ni i gydlynu ymateb. Gallwch ddweud wrthym yn y ffyrdd canlynol:

  1. Ffonio gwasanaeth gofal cwsmeriaid y cyngor ar 01495 762200.
  2. Rhoi’r wybodaeth trwy wefan neu ap Street Link
  3. Defnyddio’r ffurflen Ddigartrefedd ar wefan ac ap y Cyngor

Roadworks

Torfaen roadworks latest

Each week a list of the latest roadworks taking place in Torfaen is updated on our website. To see the latest click the link. 

Weekly roadworks list |  Back to top

 

Roadworks

Gwaith ffordd Torfaen – y diweddaraf

Bob wythnos, mae rhestr o’r gwaith ffordd diweddaraf sy’n digwydd yn Nhorfaen yn cael ei diweddaru ar ein gwefan. I weld y diweddaraf, cliciwch ar y ddolen. 

Rhestr gwaith ffordd wythnosol


Sponsored posts. These posts below are external advertisements from local businesses and their presence should not be seen as an endorsement by Torfaen County Borough Council.
 
Swyddi a noddir. Mae'r swyddi hyn isod yn hysbysebion allanol gan fusnesau lleol ac ni ddylid gweld eu presenoldeb fel cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen.

 

Bright Financial Services Advert

Professional assistance for your financial needs

Bright Financial Affiliates Ltd has been providing independent mortgage and protection advice for over 20 years in South Wales. We have independent financial advisers local to; Abergavenny, Bargoed, Brecon, Bridgend, Cardiff, Cwmbran, Newport, Swansea, Tredegar and Usk. Our advisers have a wealth of experience and provide efficient services at competitive prices. We can also visit you, if you’re unable to come to our office. Click here to visit their website. 

 

Cymorth proffesiynol ar gyfer eich anghenion ariannol

Mae Bright Financial Affiliates Ltd wedi bod yn darparu cyngor morgais ac amddiffyniad annibynnol am fwy nag 20 mlynedd yn Ne Cymru. Mae gennym gynghorwyr ariannol annibynnol lleol yn ardaloedd: Y Fenni, Bargoed, Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Abertawe, Tredegar a Brynbuga. Mae gan ein cynghorwyr gyfoeth o brofiad ac maent yn cynnig gwasanaeth effeithiol am brisiau cystadleuol. Medrwn hefyd ddod atoch chi, os na fedrwch ddod i’n swyddfa. 

Cliciwch yma i fynd i’w gwefan. 


 

Advertise Your Business

Advertise Your Business 

Torfaen's Stay Connected e-bulletins are seen by 1000s of residents every week. If you would like to advertise your business here please email garethj.phillips@torfaen.gov.uk for further details. 


Mae e-fwletinau Cadw Cyswllt Torfaen yn cael eu darllen gan filoedd o drigolion pob wythnos. Os hoffech chi hysbysebuch busnes yn y fan hyn danfonwch e-bost garethj.phillips@torfaen.gov.uk am fanylion pellach.