Weekly news bulletin | Newyddion Wythnosol

08/02/2019

weekly newsrecycle

New bag sorting policy coming to Household Waste Recycling Centre

On Monday 04 March a new bag sorting policy will be coming into action at the Household Waste recycling Centre (HWRC) as part of the council's plans to reduce the amount of recyclable products sent for disposal.

The new policy will mean that any mixed bagged waste brought to the HWRC intended for the non-recyclable waste skip will have to be taken to a designated bag sorting area. Read more...

Polisi newydd ar ddidoli bagiau yn dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Ddydd Llun 4 Mawrth bydd polisi newydd ar ddidoli bagiau yn dod i rym yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref  (CAGC) fel rhan o gynlluniau'r cyngor i leihau swm y cynhyrchion ailgylchadwy y mae angen gwaredu arnynt.

Bydd y polisi newydd yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fagiau gwastraff cymysg a ddaw i'r sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu yn y CAGC, fynd i ardal ddidoli bagiau dynodedig. Darllen mwy...

social care

Council trials new smart technology for social care

The Lifeline service in Torfaen is currently trialling the use of new smart technology in order to support the most vulnerable people across the borough to overcome the challenges they face daily.  

 

This new service is aimed at supporting people who are unable to control their home environment due to poor dexterity, memory or feel socially isolated from their community. Read more...

 

Cyngor yn rhoi technoleg newydd mewn gofal cymdeithasol ar brawf

Mae gwasanaeth Lifeline yn Nhorfaen yn rhoi tro ar hyn o bryd ar dechnoleg newydd er mwyn cefnogi'r bobl fwyaf bregus yn y fwrdeistref i oresgyn yr heriau y maen nhw eu hwynebu bob dydd.

 

Bwriad y gwasanaeth newydd yw cefnogi pobl nad sy’n gallu rheoli eu hamgylchiadau cartref oherwydd deheurwydd neu gof gwael neu am eu bod yn teimlo eu bod wedi eu hynysu o’u cymunedau. Darllen mwy...


ysgol gyfun gwynllyw

Your views wanted on proposals to reorganise Ysgol Gyfun Gwynllyw

On Monday 14 January, Torfaen Council opened statutory consultation on proposals to extend the age range of pupils at Ysgol Gyfun Gwynllyw. Read more...

Mae angen eich barn am y cynigion i ad-drefnu Ysgol Gyfun Gwynllyw

Ddydd Llun 14 Ionawr, fe gychwynnodd Cyngor Torfaen ymgynghoriad statudol ar y cynigion i ymestyn ystod oedran disgyblion yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Darllen mwy...


school extensionschool extension

Torfaen schools receive multi million pound extension

Welsh Government’s minister for education, Kirsty Williams AM has visited Torfaen to officially open new multi-million pound extensions at Garnteg and Cwmffrwdoer primary schools. The works form part of Torfaen’s 21st Century Schools programme.

 

Ysgolion Torfaen yn cael estyniadau gwerth miliynau o bunnoedd

Mae gweinidog addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC wedi ymweld â Thorfaen i agor estyniadau newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn ysgolion cynradd Garnteg a Cwmffrwdoer. Mae’r gwaith yn rhan o raglen ysgolion 21ain Ganrif Torfaen.


Supporting the homeless

There are a number of ways in which you can help people who are sleeping out, particularly during times of adverse weather.

 

If you are aware of someone who may be sleeping rough, please contact Torfaen Council to let us know where they are and help us co-ordinate a response. You can inform us in the following ways:

  1. Telephone the council’s customer care service on 01495 762200.
  2. Reporting the information via the Street Link website or app
  3. Using the Homeless form on the council’s website and app

Cefnogi’r digartref

Mae yna nifer o ffyrdd i chi helpu pobl sy’n cysgu allan, yn arbennig yn ystod tywydd garw.

Os ydych chi’n gwybod am rywun a all fod yn cysgu allan, cysylltwch os gwelwch yn dda â Chyngor Torfaen i adael i ni wybod ble maen nhw ac i’n helpu ni i gydlynu ymateb. Gallwch ddweud wrthym yn y ffyrdd canlynol:

  1. Ffonio gwasanaeth gofal cwsmeriaid y cyngor ar 01495 762200.
  2. Rhoi’r wybodaeth trwy wefan neu ap Street Link
  3. Defnyddio’r ffurflen Ddigartrefedd ar wefan ac ap y Cyngor

Playservice

 

Did you know Torfaen Play Service are recruiting?

Torfaen Play Service are currently looking to recruit experienced play and care workers. In the role, you will provide support to children and young people with complex and profound disabilities at playschemes in both Torfaen and Monmouthshire. Ideally you will have some playwork / disability experience and an aptitude for organising fun activities and consider yourself to be enthusiastic and committed. Apply here

 

In Addition to this, the Play Service are recruiting Volunteers and Play Helpers for the February half term and Summer Play schemes in both Torfaen and Monmouthshire. For more information email:  Andrea.sysum@torfaen.gov.uk

 

Oeddech chi’n gwybod bod Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn recriwtio?

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen am recriwtio gweithwyr chwarae a gofal profiadol.Yn y rôl yma, byddwch yn rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau cymhleth a dwys mewn cynlluniau chwarae yn Nhorfaen a Sir Fynwy. Yn ddelfrydol bydd gennych chi rywfaint o brofiad gyda gwaith chwarae / anabledd  a’r gallu i drefnu gweithgareddau hwyliog ac yn ystyried eich hun fel rhywun brwdfrydig ac ymroddedig.

 

Hefyd, mae’r Gwasanaeth Chwarae yn recriwtio Gwirfoddolwyr a Chynorthwywyr Chwarae ar gyfer cynlluniau chwarae hanner tymor Chwefror a’r Haf yn Nhorfaen a Sir Fynwy.  Gallwch ymuno yma: http://bit.ly/2APW0Zu . Am fwy o wybodaeth danfonwch e-bost at Andrea.sysum@torfaen.gov.uk


youth

Torfaen Youth residential 

Torfaen Youth Service has an exciting opportunity for young people 11-25 years old to attend a residential taking place during February half term (Monday 25th – Thursday 28th February) in Barton Camp, Somerset.

 

Activities will include: air rifle shooting, frisbee golf, skiing, climbing, bushcraft, orienteering and Cheddar Gorge Caves as well as the opportunity to complete a 15 hour 'Take up the Challenge' certificate.

 

The trip is free but there will be a £20 deposit requiredFor more information please contact Jessica Pullin on Jessica.pullin@torfaen.gov.uk or 01633647729. *Spaces are limited!

 

Cwrs Preswyl Ieuenctid Torfaen

Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Torfaen gyfle cyffrous i bobl ifanc 11-25 oed i fynychu cwrs preswyl yn ystod hanner tymor Chwefror (Dydd Llun 25ain – Ddydd Iau 28ain Chwefror) yn Barton Camp, Gwlad yr Haf. 

                                                      

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys: Saethu â reiffl, golff Ffrisbi, Sgïo, Dringo, Crefft Byw yn y Gwyllt, Cyfeiriadu ac ogofau Ceunant Cheddar yn ogystal â’r cyfle i gwblhau tystysgrif Take the Challenge am 15 Awr.

                               

Mae’r daith am ddim ond bydd angen blaendal o £20. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jessica Pullin ar Jessica.pullin@torfaen.gov.uk neu 01633647729. Cyfyngir ar nifer y lleoedd sydd ar gael!​


Consultation on Pontypool rugby ground lease

A consultation on the future management of the rugby ground within Pontypool Park is now open.

This consultation is on the specific matter of the management of the Park and the rugby grounds. 

The consultation period is open for six weeks and will close at 5pm on 22nd February 2019. 

Click here to view related documents and how to respond

 

Ymgynghoriad ar brydles y cae rygbi

Mae ymgynghoriad ar reoli’r cae rygbi ym Mharc Pont-y-pŵl yn y dyfodol nawr wedi cychwyn.

Mae’r ymgynghoriad hwn ar fater penodol rheoli’r Parc a’r cae rygbi. 

Mae’r cyfnod ymgynghori yn chwe wythnos ac fe ddaw i ben am 5pm ar 22ain Chwefror 2019.

Cliciwch yma i weld dogfennau cysylltiedig a sut i ymateb 


Roadworks

Torfaen roadworks latest

Each week a list of the latest roadworks taking place in Torfaen is updated on our website. To see the latest click the link. 

Weekly roadworks list |  Back to top

 

Roadworks

Gwaith ffordd Torfaen – y diweddaraf

Bob wythnos, mae rhestr o’r gwaith ffordd diweddaraf sy’n digwydd yn Nhorfaen yn cael ei diweddaru ar ein gwefan. I weld y diweddaraf, cliciwch ar y ddolen. 

Rhestr gwaith ffordd wythnosol


Sponsored posts. These posts below are external advertisements from local businesses and their presence should not be seen as an endorsement by Torfaen County Borough Council.
 
Swyddi a noddir. Mae'r swyddi hyn isod yn hysbysebion allanol gan fusnesau lleol ac ni ddylid gweld eu presenoldeb fel cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen.

 

Bright Financial Services Advert

Professional assistance for your financial needs

Bright Financial Affiliates Ltd has been providing independent mortgage and protection advice for over 20 years in South Wales. We have independent financial advisers local to; Abergavenny, Bargoed, Brecon, Bridgend, Cardiff, Cwmbran, Newport, Swansea, Tredegar and Usk. Our advisers have a wealth of experience and provide efficient services at competitive prices. We can also visit you, if you’re unable to come to our office. Click here to visit their website. 

 

Cymorth proffesiynol ar gyfer eich anghenion ariannol

Mae Bright Financial Affiliates Ltd wedi bod yn darparu cyngor morgais ac amddiffyniad annibynnol am fwy nag 20 mlynedd yn Ne Cymru. Mae gennym gynghorwyr ariannol annibynnol lleol yn ardaloedd: Y Fenni, Bargoed, Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Abertawe, Tredegar a Brynbuga. Mae gan ein cynghorwyr gyfoeth o brofiad ac maent yn cynnig gwasanaeth effeithiol am brisiau cystadleuol. Medrwn hefyd ddod atoch chi, os na fedrwch ddod i’n swyddfa. 

Cliciwch yma i fynd i’w gwefan. 


 

Advertise Your Business

Advertise Your Business 

Torfaen's Stay Connected e-bulletins are seen by 1000s of residents every week. If you would like to advertise your business here please email garethj.phillips@torfaen.gov.uk for further details. 


Mae e-fwletinau Cadw Cyswllt Torfaen yn cael eu darllen gan filoedd o drigolion pob wythnos. Os hoffech chi hysbysebuch busnes yn y fan hyn danfonwch e-bost garethj.phillips@torfaen.gov.uk am fanylion pellach.