 New Torfaen Play sessions prove a success in the New Year
Torfaen Play Service started 2019 by doing what they do best, offering free play and support sessions to children across Torfaen.
The New Year brought three days of new respite sessions for children with disabilities at Greenmeadow and St Dials Community Centre, with additional play sessions offered at Cwmbran stadium for all children aged 8 to 12 years. Read more...
Sesiynau newydd Chwarae Torfaen yn llwyddiant yn y Flwyddyn Newydd
Dechreuodd Gwasanaeth Chwarae Torfaen 2019 trwy wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau, sef cynnig sesiynau chwarae a chefnogaeth am ddim i blant ar draws Torfaen.
Cafwyd tri diwrnod o sesiynau seibiant newydd i blant ag anableddau yng Nghanolfan Gymunedol y Ddôl Werdd, gyda sesiynau chwarae ychwanegol yn cael eu cynnig yn Stadiwm Cwmbrân i blant 8 i 12 oed. Darllen mwy...

Torfaen Adult Learning class contribute to UK Study for Contemporary Adult Reading
Torfaen Adult Community Learning’s Essential Skills Communications class has been a part of a growing study headed by University College London about 'Reading Aloud in Britain Today'.
Reading Aloud in Britain Today (RABiT) is a two-year study of contemporary adult reading aloud practices which ends in May 2019. The purpose of the study is to find out what, where, why, how and whether adults read aloud, or listen to others. Read more...
Dosbarth Dysgu Oedolion Torfaen yn cyfrannu at Astudiaeth y DU ar gyfer Darllen Cyfoes mewn Oedolion
Mae dosbarth Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Dysgu Cymunedol Oedolion Torfaen wedi bod yn rhan o astudiaeth a arweinir gan Goleg Prifysgol Llundain yn ymwneud â 'Reading Aloud in Britain Today'.
Mae Reading Aloud in Britain Today (RABiT) yn astudiaeth ddwy flynedd o arferion darllen oedolion cyfoes sy’n dod i ben ym mis Mai 2019. Pwrpas yr astudiaeth yw canfod lle, pam, sut ac a yw oedolion yn darllen yn uchel, neu’n gwrando ar eraill. Darllen mwy...

What do you think about childcare in Torfaen?
Tell us your views and enter our prize draw to win £100 of high street shopping vouchers. This questionnaire forms part of a review of childcare demand within Torfaen. Click here to get started
Beth ydych chi’n ei feddwl am ofal plant yn Nhorfaen?
Lleisiwch eich barn a chael cyfle i ennill £100 mewn tocynnau siopa ar y stryd fawr. Mae'r holiadur hwn yn rhan o adolygiad o'r galw am ofal plant yn Nhorfaen. Cliciwch yma i ddechrau
Helping Parents Return to Work event
Cwmbran Job Centre Plus and Torfaen Employability teams are hosting a joint ‘Helping Parents Return to Work’ event at Cwmbran Stadium on 29 January 2019, 10am – 1pm.
If you are looking for work you are encouraged to attend the event and meet with employment teams and local employers, who will be providing LIVE flexible vacancies with family friendly hours in mind. You are welcome to bring children along as there will be plenty of fun activities and free give-aways for them to take part in.
For more information call Angela on 07342072863 or Claire on 07393761912. They will be able to meet with you prior to the event if you have any concerns.
Helpu Rhieni i Ddychwelyd i’r Gwaith digwyddiad
Mae Canolfan Waith a Mwy Cwmbrân a thimau Cyflogadwyedd Torfaen yn cynnal digwyddiad ar y cyd ‘Helpu Rhieni i Ddychwelyd i’r Gwaith’ yn Stadiwm Cwmbrân ar 29 Ionawr 2019, 10am - 1pm.
Os ydych yn chwilio am waith, fe’ch anogir i fynychu’r digwyddiad a chyfarfod timau cyflogaeth a chyflogwyr lleol, a fydd yn darparu swyddi gwag hyblyg BYW gydag oriau sy’n gyfeillgar i’r teulu dan sylw.
Mae croeso i chi ddod â phlant gyda chi gan y bydd digon o weithgareddau hwyliog a phethau am ddim iddyn nhw gymryd rhan ynddynt.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Angela ar 07342072863 neu Claire ar 07393761912. Byddan nhw’n medru cyfarfod â chi cyn y digwyddiad os oes gennych unrhyw bryderon.

Food Waste recycling services survey
The Wales Audit Office want to hear the views from residents about the food waste service that the Council provides. The survey asks for residents’ views about the food waste service.
Does the service meet your needs? Are there any changes to the design and delivery of the food waste services that could be made to encourage more people to use the service?
We want to hear your views! Complete the survey
Arolwg gwasanaethau ailgylchu gwastraff bwyd
Mae Swyddfa Archwilio Cymru am glywed barn trigolion am y gwasanaeth gwastraff bwyd y mae'r Cyngor yn ei ddarparu. Mae'r arolwg yn gofyn am farn preswylwyr am y gwasanaeth gwastraff bwyd.
A yw'r gwasanaeth yn diwallu eich anghenion? A oes unrhyw newidiadau i ddyluniad a darpariaeth y gwasanaethau gwastraff bwyd y gellid eu gwneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth?
 Have we got Loos for you!
Torfaen Council want to hear your views on its draft local toilets strategy. The draft strategy has been produced as a requirement of the Public Health (Wales) Act 2017.
Complete the survey at your convenience by accessing the document and responding to the consultation questions at https://getinvolved.torfaen.gov.uk/pssu/localtoiletsstrategy2018 or speak to us in person at the following locations:
- Monday 14 January, 4:30pm - 6:30pm at Tesco Pontypool
- Wednesday 16 January, 2:30pm - 4pm at Torfaen Carers Centre
- Monday 21 January, 12pm-2pm at Blaenavon Town Council Offices
To get a hard copy of the strategy contact Steven Honeywill on 01495 766958 or email steven.honeywill@torfaen.gov.uk The deadline for responses is 7 February 2019 and a final draft will be published by 31 May 2019.
|
 Daliwch eich Dŵr!
Mae Cyngor Torfaen am glywed eich barn ar ei strategaeth toiledau lleol ddrafft. Mae’r strategaeth ddrafft wedi cael ei chynhyrchu fel un o ofynion Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017.
Cwblhewch yr arolwg trwy fynd at y dogfennau a’r cwestiynau yn https://getinvolved.torfaen.gov.uk/pssu/localtoiletsstrategy2018 neu mynnwch air â ni yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Llun 14 Ionawr, 4:30pm - 6:30pm yn Tesco Pont-y-pŵl
- Dydd Mercher 16 Ionawr, 2:30pm - 4pm yng Nghanolfan Gofalwyr Torfaen
- Dydd Llun 21 Ionawr, 12pm - 2pm yn Swyddfeydd Cyngor Tref Blaenafon
I gael copi caled o’r strategaeth, cysylltwch â Steven Honeywill ar 01495 766958 neu drwy e-bost steven.honeywill@torfaen.gov.uk Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 7 Chwefror 2019 a bydd drafft terfynol yn cael ei chyhoeddi erbyn 31 Mai 2019.
|
Sponsored posts. These posts below are external advertisements from local businesses and their presence should not be seen as an endorsement by Torfaen County Borough Council. Swyddi a noddir. Mae'r swyddi hyn isod yn hysbysebion allanol gan fusnesau lleol ac ni ddylid gweld eu presenoldeb fel cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen.

Bright Financial Affiliates Ltd has been providing independent mortgage and protection advice for over 20 years in South Wales. We have independent financial advisers local to; Abergavenny, Bargoed, Brecon, Bridgend, Cardiff, Cwmbran, Newport, Swansea, Tredegar and Usk. Our advisers have a wealth of experience and provide efficient services at competitive prices. We can also visit you, if you’re unable to come to our office. Click here to visit their website.
Mae Bright Financial Affiliates Ltd wedi bod yn darparu cyngor morgais ac amddiffyniad annibynnol am fwy nag 20 mlynedd yn Ne Cymru. Mae gennym gynghorwyr ariannol annibynnol lleol yn ardaloedd: Y Fenni, Bargoed, Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Abertawe, Tredegar a Brynbuga. Mae gan ein cynghorwyr gyfoeth o brofiad ac maent yn cynnig gwasanaeth effeithiol am brisiau cystadleuol. Medrwn hefyd ddod atoch chi, os na fedrwch ddod i’n swyddfa.
Cliciwch yma i fynd i’w gwefan.
 Advertise Your Business
Torfaen's Stay Connected e-bulletins are seen by 1000s of residents every week. If you would like to advertise your business here please email garethj.phillips@torfaen.gov.uk for further details.
Mae e-fwletinau Cadw Cyswllt Torfaen yn cael eu darllen gan filoedd o drigolion pob wythnos. Os hoffech chi hysbysebuch busnes yn y fan hyn danfonwch e-bost garethj.phillips@torfaen.gov.uk am fanylion pellach.
 Gwaith ffordd Torfaen – y diweddaraf
Bob wythnos, mae rhestr o’r gwaith ffordd diweddaraf sy’n digwydd yn Nhorfaen yn cael ei diweddaru ar ein gwefan. I weld y diweddaraf, cliciwch ar y ddolen.
Rhestr gwaith ffordd wythnosol
|
|