Nifty, Thrifty Torfaen Bulletin | Bwletin Torfaen Cynnil, Clyfar

21/01/2018

Nifty Thrifty Torfaenmoney

Nifty, Thrifty Torfaen...

Happy New Year and welcome to the first Nifty Thrifty bulletin in 2019. Packed with all the latest news, tips and information to help your money go that little bit further.

Croeso i'n bwletin Nadolig 2018, sydd dan ei sang â'r holl newyddion, awgrymiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf i helpu'ch arian i fynd ychydig ymhellach.

yoga

Look after your mental health and well-being

For tips on dealing with stress, anxiety and depression there’s information from the NHS - Ways to Wellbeing,  or the Mental Health Foundation.

 

Road to Wellbeing

Many of us experience difficult times in our lives which can leave us feeling stressed, anxious or depressed. The Road to Wellbeing programme teaches people how to manage their stress and improve mental wellbeing through its open access courses: ’Stress Control’ and ’ACTivate Your Life.’

 

There are also a range of self-help resources available on the website, including downloadable self-help guides and links to online Cognitive Behavioural Therapy (CBT) and Mindfulness apps. For more information see the website or call 0330 053 5596

 

Torfaen & Blaenau Gwent Mind provide:                

  • A daily drop in to our mental health & housing surgery for advice & guidance on how to access floating support & our STEP service for support around your mental health, wellbeing & tenancy.
  • Supported housing.
  • Recovery & Beyond Courses
  • Counselling.
  • Homeless males project.
  • Day Activities, social hub & much more over our 3 centres.

Contact MIND on 01495 757393 or find them on Facebook.

 

If you take medication or are receiving support for your mental health, follow the advice of your health professional. If you feel that you need extra support make an appointment with your GP or to talk to someone independent contact the Samaritans on 116 123


money

Could you be spending less on your bills?

Some energy suppliers participate in the Warm Home Discount Scheme, you might be eligible if you are on a low income or eligible benefit.

 

A quick phone call to your supplier might be worth a saving of £140 which will be credited to your account. Similarly certain health conditions may mean that you are entitled to a discount if on your water if you are in receipt of benefits, check with your water supplier. If you are on benefits and have three or more children you might also be entitled to a reduction. Find out more about the Water Sure Scheme from  Dwr Cymru or call 0800 052 0140

 

Warmer Wales is a comprehensive service offered by Citizens Advice Torfaen to help people reduce their energy bills through supplier switching, insulation grants and more informed use. For more information call 01633 876121 (option 2), email reception@torfaencab.org.uk or drop in to one of our advice sessions. 


water

Help U Scheme - help paying your water bills

What is HelpU?

The HelpU tariff is aimed at households that have an annual income of less than £15,000. If you qualify for the scheme we will cap your water bill which means you won’t pay over a certain amount for the year. If you have a water meter and the charge would be lower than the HelpU amount, your bill will be based on the reading from your water meter.


grocery

Grocery Aid

If you or your partner work or have worked in any part of the grocery industry you are eligible for help from Grocery Aid. They offer free emotional support and advice on many problems including; mental health issues, finance, debt worries, relationship breakdowns, legal questions and carers support. You may also be entitled to financial assistance. Applications are individually assessed based on your circumstances. 

 

For more information or to receive support call 08088 021 122 or visit www.groceryaid.org.uk for live chat. 


Don’t be afraid to ask for help

We know that people spend too much at Christmas. We know that sometimes they use money that should have been spent wiser. We don’t judge you and we want to help.

 

We have services across Torfaen that can help people in financial difficulty with benefits and debt advice, offer hardship support to purchase gas, electric and basic household items and provide foodbank vouchers. We can help you get 2019 off to the right start financially. If you or someone you know are struggling and would benefit from support, here’s where you can get some help.


energy

Do you need some emergency support to pay your Energy bills?

Discretionary Assistance Fund Wales

Apply here or ring between 9.30am and 5.30pm Monday to Friday on 0800 8595924 (free from a landline) or 033 0101 5000 (local rate)


money

Borrow wisely and save for next Christmas

Don’t borrow from unauthorised lenders or high interest payday lenders. The short term gain and convenience will create long term pain and you risk getting further and further into debt. If you really do need to borrow to make ends meet, the Gateway Credit Union has helped hundreds of families to save and borrow for Christmas.

 

Be realistic and budget accordingly. Work out how much you are going to spend on each person and stick to it. Think about buying presents throughout the year. Manage expectations around what you or Santa can give.


De-clutter

One of the quickest and easiest ways to make some extra cash, and extra space, is to have a clear out of your unwanted items especially toys and games that the children no longer play with. Head along to a local car boot sale, or sell them on eBay or Facebook.


calendar

Make a fresh start in 2019

Similarly why not make 2019 the year that you take the first steps towards the career you've always wanted. Our adult education service have a wide range of courses that will help you gain new skills and qualifications. Visit our adult learning courses finder on the Torfaen website.

 

cfw+

Communities For Work Plus

Now the new year is here, it's time to think about making 2019 a successful year for you.

Are you unemployed and hoping to get into work? Do you need support with qualifications?

 

We are offering a host of qualifications this year, with the opportunity to look into courses you may want that aren't on the list. Spaces are limited and eligibility applies: get in touch with us to find out whether you can access these courses and the support we can offer.

Call 01495 766040, email: clare.watkins@torfaen.gov.uk

 

biw2

Torfaen Employability Team

We offer FREE employability support to those out of work and those employed.

Call 01633 647743,

email employability@torfaen.gov.uk or message us now!

 

Whether it is training, qualifications, interview skills, support with job searching, CV writing or help completing an application form, get in touch!

☎️ 01633 647743✉️ employability@torfaen.gov.uk


yoga

Gofalu am eich iechyd a lles meddyliol

I gael cyngor ar ddelio â straen, pryder ac iselder, mae yna wybodaeth ar gael gan y GIG – Ffyrdd at Les,  neu’r Sefydliad Iechyd Meddwl.

 

Rhaglen Ffordd at Les

Mae llawer ohonom yn dod ar draws cyfnodau anodd yn ein bywydau, sydd yn gwneud i ni deimlo dan straen, yn bryderus neu’n isel. Mae rhaglen Ffordd at Les yn dysgu pobl sut i reoli’r straen y maent yn ei deimlo a gwella lles meddyliol trwy’r cyrsiau mynediad agored: ’Rheoli Straen’ ac ’ACTifadu Eich Bywyd.’

Mae yna hefyd ystod o adnoddau hunangymorth ar gael ar y wefan, yn cynnwys canllawiau hunangymorth i’w lawr lwytho, a chysylltiadau i apiau Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) ac Ymwybyddiaeth Ofalgar. I gael mwy o wybodaeth gweler y wefan neu ffoniwch 0330 053 5596

 

Mae Mind Torfaen a Blaenau Gwent yn cynnig:                

  • Cyfle i alw heibio ein cymhorthfa iechyd meddwl a thai yn ddyddiol i gael cyngor ac arweiniad ar sut i gael cefnogaeth ysbeidiol a mynediad at ein gwasanaeth STEP i gefnogi eich iechyd meddwl, lles a thenantiaeth.
  • Tai â chymorth.
  • Cyrsiau Gwella a Thu Hwnt
  • Cwnsela.
  • Prosiect i ddynion sy’n ddigartref.
  • Gweithgareddau Dydd, hwb cymdeithasol a llawer mwy yn ein 3 canolfan.

Cysylltwch â MIND ar 01495 757393 neu dewch o hyd iddynt ar Facebook.

 

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth neu'n cael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl, dilynwch gyngor eich gweithiwr iechyd proffesiynol. Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch, gwnewch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu neu siaradwch â rhywun annibynnol, cysylltwch â’r Samariaid ar 116 123


money

A allech chi fod yn gwario llai ar eich biliau?

Mae rhai cyflenwyr ynni yn cymryd rhan yn y Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes, felly fe allech fod yn gymwys os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-dal.

 

Gallai galwad ffôn cyflym i'ch cyflenwr arbed hyd at £140 fydd yn cael ei gredydu i'ch cyfrif. Yn yr un modd efallai bod rhai cyflyrau iechyd yn golygu bod gennych hawl i gael gostyngiad yn eich bil dŵr os ydych chi'n derbyn budd-daliadau; holwch eich cyflenwr dŵr. Os ydych ar fudd-daliadau a gennych dri neu ragor o blant efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad hefyd. Darganfyddwch fwy am gynllun Water Sure gan  Dŵr Cymru neu ffoniwch 0800 052 0140

 

Mae Cymru Gynhesach yn wasanaeth cynhwysfawr y mae Canolfan Cyngor ar Bopeth Torfaen yn ei gynnig i helpu pobl i ostwng eu biliau ynni trwy newid cyflenwr, grantiau inswleiddio a mwy o wybodaeth o ran defnyddio ynni. Mwy o wybodaeth ffoniwch 01633 876121 (opsiwn 2), e-bostiwch reception@torfaencab.org.uk neu beth am alw heibio un o’n sesiynau cyngor. 


water

Cynllun HelpU – eich helpu i dalu biliau dŵr

Beth yw HelpU?

Mae'r tariff HelpU wedi'i anelu at gartrefi sydd ag incwm blynyddol o lai na £15,000. Os ydych chi'n gymwys i fod yn rhan o'r cynllun, byddwn yn rhoi cap ar eich bil dŵr sy'n golygu na fyddwch yn talu dros swm penodol am y flwyddyn. Os oes gennych fesurydd dŵr a byddai'r tâl yn is na'r swm a bennir gan HelpU, bydd eich bil yn seiliedig ar yr hyn a ddarllenir ar eich mesurydd dŵr.


grocery

Cymorth ‘Grocery Aid’

Os ydych chi neu'ch cymar yn gweithio yn unrhyw ran o'r diwydiant bwyd, neu os fuoch yn gwneud rhyw dro, rydych chi'n gymwys i gael help gan Grocery Aid. Maent yn cynnig cymorth a chyngor emosiynol am ddim ar lawer o broblemau, gan gynnwys; materion iechyd meddwl, cyllid, pryderon oherwydd dyled, perthynas sy'n chwalu, cwestiynau cyfreithiol a chymorth i ofalwyr. Efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol hefyd. Caiff ceisiadau eu hasesu'n unigol yn seiliedig ar eich amgylchiadau. 

 

I gael mwy o wybodaeth neu i dderbyn cymorth, ffoniwch 08088 021 122 neu ewch i www.groceryaid.org.uk i gael sgwrs fyw.


Peidiwch â bod ofn gofyn am help

Gwyddom fod pobl yn gwario gormod yn ystod y Nadolig. Gwyddom eu bod weithiau'n defnyddio arian y dylid fod wedi ei wario'n ddoeth. Nid ydym yn eich barnu ac rydym am helpu. 

Mae gennym wasanaethau ar draws Torfaen sy'n gallu rhoi cyngor ar fudd-daliadau a dyled i bobl sydd ag anawsterau ariannol yn ogystal â chynnig cymorth gyda chaledi i brynu nwy, trydan ac eitemau sylfaenol i'r cartref a darparu talebau banc bwyd. Gallwn eich helpu i gael y dechrau gorau yn 2019. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth ac y byddent yn elwa ar gymorth, dyma ble gallwch chi gael help.


energy

A oes angen cymorth brys arnoch i dalu’ch biliau ynni?

Cronfa Cymorth Dewisol Cymru

Gwnewch gais yma neu ffoniwch rhwng 9.30am a 5.30pm Dydd Llun i Ddydd Gwener ar 0800 8595924 (am ddim o linell tir) neu 033 0101 5000 (pris galwad lleol)


money

Benthycwch yn ddoeth a chynilwch erbyn y Nadolig nesaf

Peidiwch â benthyca gan fenthycwyr nad ydynt wedi'u hawdurdodi na benthycwyr diwrnod cyflog sy'n codi cyfraddau llog uchel. Bydd y manteision a'r hwylustod tymor byr yn creu poen hirdymor ac mae yna berygl y gallech fynd i fwy o ddyled o lawer. Os oes angen i chi fenthyca i gael deupen llinyn ynghyd, mae Undeb Credyd Gateway wedi helpu cannoedd o deuluoedd i gynilo a benthyca ar gyfer y Nadolig.

 

Byddwch yn realistig a chyllidebu'n unol â hynny. Cyfrifwch faint y byddwch chi'n ei wario ar bob person a chadw ato. Meddyliwch am brynu anrhegion trwy gydol y flwyddyn. Rheolwch y disgwyliadau o ran yr hyn y gallwch chi neu Siôn Corn ei roi.


Beth am gael gwared ar eitemau diangen?

Un o'r ffyrdd cyflymaf a hawsaf o wneud rhywfaint o arian ychwanegol a chreu lle ychwanegol yw cael gwared ar eitemau diangen yn enwedig teganau a gemau nad yw'r plant yn chwarae â nhw bellach. Ewch i arwerthiant cist car lleol, neu beth am eu gwerthu ar eBay neu Facebook?


calendar

Beth am ddechrau newydd yn 2019?

Yn yr un ffordd, beth am wneud dechrau newydd yn 2019 a chymryd y camau cyntaf tuag at yrfa yr ydych wedi ei heisiau erioed. Mae gan y gwasanaeth addysg oedolion ystod eang iawn o gyrsiau fydd yn eich helpu i ennill sgiliau a chymwysterau newydd. Ewch i’n rhestr cyrsiau addysg oedolion ar wefan Torfaen.

 

cfw+

Cymunedau am Waith a Mwy

Nawr bod y flwyddyn newydd yma, mae'n amser i chi feddwl am wneud 2019 yn flwyddyn lwyddiannus i chi.

Ydych chi'n ddi-waith ac yn gobeithio dod o hyd i waith? Ydych chi angen cefnogaeth gyda chymwysterau? Rydyn ni'n cynnig llu o gymwysterau eleni, gyda'r cyfle i edrych ar gyrsiau yr hoffech chi nad ydynt ar y rhestr.

 

Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae yna feini prawf cymhwystra: cysylltwch â ni i ganfod a allwch chi gael mynediad i'r cyrsiau hyn a'r gefnogaeth y gallwn ei chynnig. Ffoniwch 01495 766040, ebostiwch: clare.watkins@torfaen.gov.uk

 

biw2

Tîm Cyflogadwyedd Torfaen

Rydym yn cynnig cymorth cyflogaeth AM DDIM i’r rheini sy’n ddi-waith a’r rheini sy’n gweithio. Ffoniwch 01633 647743, e-bostiwch employability@torfaen.gov.uk neu anfonwch neges atom nawr!

 

P’un ai hyfforddiant, cymwysterau, sgiliau cyfweld, cymorth i chwilio am waith, ysgrifennu CV neu help i lenwi ffurflen gais sydd arnoch, cysylltwch nawr!

☎️ 01633 647743✉️ employability@torfaen.gov.uk