School improvement recognised but special measures required | Cydnabod gwelliannau ysgol ond galw am fesurau arbennig.

03/12/2018

newsschool

School improvement recognised but special measures required | Cydnabod gwelliannau ysgol ond galw am fesurau arbennig.

Today (3rd December), Estyn, Her Majesty’s Inspectorate for Education and Training in Wales published a monitoring report on Cwmbran High School which places the school in special measures.

 

This follows a monitoring visit by Estyn in October to measure the school’s progress against the five recommendations from the original inspection in December 2015.

 

The latest inspection recognised the school has made improvements across a range of areas including standards at KS3. However, the pace of improvement has been too slow and insufficient progress has been made in relation to the five key recommendations since their last inspection.

 

Estyn’s five recommendations are:

 

1 - Improve the standard of pupils’ skills, particularly their writing, and numeracy

2 - Improve the behaviour and disrespectful attitudes of a few pupils in a minority of lessons  

3 - Ensure that the literacy and numeracy framework is implemented fully

4 - Address the shortcomings in teaching to ensure that pupils make good progress in all lessons

5 - Improve the consistency in the work of middle managers, particularly in planning for improvement

 

Cwmbran High Head Teacher, Helen Coulson, said: “Estyn recognises the ongoing improvements made by the school but the pace of improvement has been insufficient. The school action plan has been updated to address the identified shortcomings and the school has introduced a range of strategies across the school to improve leadership, governance and good practice in the classroom.  I’d like to reassure parents that the school is working proactively with governors, council colleagues, the regional education achievement service and Estyn to ensure our action plan rapidly delivers the necessary improvements across the school.”

 

“The school will submit our action plan in January and will meet with Estyn in February to evaluate the quality of the plan and agree the best way forward.”

 

Torfaen’s executive member for Education and Lifelong Learning, Cllr David Yeowell, said: "The council shares Estyn's concerns over Cwmbran High's performance and issued a statutory warning notice to the school last year. Since then we have provided additional support for the school and governing body, however, the pace of change has not been fast enough and it has failed to make adequate progress. We will continue to support the school during this difficult time and ensure that it is able to successfully carry out the improvements at the pace that is required."

 

Torfaen’s Chief Education Officer, Dermot McChrystal said: “Although the Estyn report recognises the progress the school has made since the last inspection, the school will now be required to work with renewed urgency to address these shortcomings and the council will work with the school to agree the immediate interventions that are required to drive rapid improvement. “

 

The Head Teacher and Chair of Governors will hold an open meeting for parents and carers on Wednesday, December 5 from6pm – 7pm in the Upper School Hall.

 

Parents/Carers who cannot make this meeting can email head.cwmbranhigh@torfaen.gov.uk or call 01633 643950 to arrange an appointment with the Head Teacher or Deputy Head Teacher.

 

To read the inspection report visit https://www.estyn.gov.wales/inspection


Heddiw (3 Rhagfyr), cyhoeddwyd adroddiad monitro gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ar Ysgol Uwchradd Cwmbrân sy’n ei rhoi dan fesurau arbennig.

 

Mae hyn yn dilyn ymweliad monitro gan Estyn ym mis Hydref i fesur cynnydd yr ysgol yn erbyn y pum argymhelliad a wnaed yn yr arolwg gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2015.

 

Roedd yr arolwg diweddaraf yn cydnabod bod yr ysgol wedi gwneud gwelliannau ar draws ystod o feysydd gan gynnwys safonau yng Nghyfnod Allweddol 3. Fodd bynnag, ni welwyd gwelliannau yn ddigon cyflym ac ni wnaed digon o gynnydd mewn perthynas â'r pum argymhelliad allweddol ers eu harolwg diwethaf.

 

Dyma 5 argymhelliad Estyn:

 

1 - Gwella safon sgiliau'r disgyblion, yn enwedig ysgrifennu, a rhifedd

2 - Gwella ymddygiad ac agweddau amharchus ychydig o ddisgyblion mewn nifer fach iawn o wersi

3 - Sicrhau bod y fframwaith llythrennedd a rhifedd yn cael ei gweithredu'n llawn

4 - Mynd i'r afael â'r diffygion yn yr addysgu i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da ym mhob gwers

5 - Gwella cysondeb yn nhermau gwaith rheolwyr canol, yn enwedig wrth gynllunio ar gyfer gwella.

 

Dywedodd Helen Coulson, Pennaeth yr Ysgol: "Mae Estyn yn cydnabod y gwelliannau parhaus a wnaed gan yr ysgol ond nid yw cyflymder y gwelliant wedi bod yn ddigonol. Mae cynllun gweithredu'r ysgol wedi'i ddiweddaru i fynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd ac mae'r ysgol wedi cyflwyno ystod o strategaethau ar draws yr ysgol i wella arweinyddiaeth, rheoli ac arferion da yn yr ystafell ddosbarth. Hoffwn roi sicrwydd i rieni bod yr ysgol yn gweithio'n rhagweithiol gyda llywodraethwyr, cydweithwyr y cyngor, y gwasanaeth cyflawni addysg ranbarthol ac Estyn i sicrhau bod ein cynllun gweithredu yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol, a hynny'n gyflym, ar draws yr ysgol.

 

“Bydd yr ysgol yn cyflwyno ein cynllun gweithredu ym mis Ionawr a byddwn yn cwrdd ag Estyn ym mis Chwefror i werthuso ansawdd y cynllun a chytuno ar y ffordd orau ymlaen.”

 

Dywedodd y Cynghorydd David Yeowell, aelod gweithredol dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Nhorfaen: "Mae'r cyngor yn rhannu pryderon Estyn o ran perfformiad Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac fe wnaethom roi rhybudd statudol i'r ysgol y llynedd. Ers hynny, rydym wedi rhoi cymorth ychwanegol i'r ysgol a'r corff llywodraethu, ond, nid yw cyflymder y newid wedi bod yn ddigon ac mae wedi methu â gwneud cynnydd digonol. Byddwn yn parhau i gefnogi'r ysgol yn ystod yr amser anodd hwn a sicrhau ei bod yn gallu cyflawni'r gwelliannau yn llwyddiannus a hynny ar frys i ateb y gofyn".

 

Meddai Dermot McChrystal, Prif Swyddog Addysg Torfaen: "Er bod adroddiad Estyn yn cydnabod y cynnydd a wnaed gan yr ysgol ers yr arolwg diwethaf, bydd angen i'r ysgol weithio ar fwy o frys nag erioed i fynd i'r afael â'r diffygion hyn a bydd y cyngor yn gweithio gyda'r ysgol i gytuno ar yr ymyraethau sy" n ofynnol i yrru gwelliant cyflym ".

 

Bydd y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn cynnal cyfarfod agored i rieni a gofalwyr, ddydd Mercher, 5 Rhagfyr o 6pm - 7pm yn Neuadd yr Ysgol (uchaf).

 

Gall Rieni/Gofalwyr nad ydynt yn medru mynychu’r cyfarfod hwn, e-bostio head.cwmbranhigh@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 643950 i drefnu apwyntiad gyda’r Pennaeth neu’r Dirprwy Bennaeth.

 

I ddarllen adroddiad yr arolwg ewch i https://www.estyn.gov.wales/inspection

Read the latest Torfaen Council news