|
The renovation of two buildings in Pontypool has created 10 new affordable homes in the town centre.
Trosnant House and Ty Quaker which are on Trosnant Street have been converted into flats by Melin Homes.
Ty Quaker, known as the Brass Band Building, was previously the home of the Pontypool Brass Band and will feature four new homes. Trosnant House has been derelict for a number of years and will offer six homes.
The work has been completed as part of the Pontypool Investment Fund. The fund has seen £4.5 million invested into Pontypool since 2016 and has helped to create 22 affordable homes.
An associated recruitment and training scheme has also helped more than 65 people into employment or training in the construction sector.
Councillor Alan Jones, executive member for business, tourism, leisure and culture, said:
“I would like to thank the Welsh Government for providing funding under their Vibrant and Viable Places programme and to Melin Homes for taking these projects forward. I would also like to thank CJ Construction who have done a fantastic job in the renovation of these buildings.
“The Pontypool Investment Fund is a huge success story. It has delivered much needed, affordable housing and the associated footfall is providing a boost to town centre traders. It has also helped a huge amount of young people into employment and training.”
Melin Chief Executive, Paula Kennedy said: “These new homes bring us great pleasure to open because they are more than just bricks and mortar. These are very much part of regenerating two buildings in disrepair and also Pontypool Town Centre. This is very much a partnership with the Welsh Government and Torfaen Council to bring these much-needed homes and we hope this is the first of many.”
Rebecca Evans, Welsh Government Minister for Housing and Regeneration, said: “We are committed to working in partnership to create more affordable housing and to support town centre regeneration; these fantastic developments bringing buildings back to life demonstrate how together we can make a difference.”
Mae yna 10 cartref fforddiadwy newydd ym Mhont-y-pŵl ar ôl adfer dau adeilad yng nghanol y dref.
Mae Trosnant House a Tŷ Quaker ar Trosnant Street wedi eu troi’n fflatiau gan Gartrefi Melin.
Roedd Tŷ Quaker, neu Adeilad y Band Pres, yn arfer bod yn gartref i Fand Pres Pont-y-pŵl a bydd yn cynnwys pedwar cartref newydd. Mae Trosnant House wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd a bydd yn cynnig chwech o gartrefi newydd.
Mae’r gwaith wedi ei wneud fel rhan o Gronfa Buddsoddi Pont-y-pŵl. Mae’r gronfa wedi buddsoddi £4.5 miliwn ym Mhont-y-pŵl ers 2016 ac wedi helpi i greu 22 cartref fforddiadwy.
Mae cynllun recriwtio a hyfforddi ar y cyd hefyd wedi helpu dros 65 o bobl i gael gwaith neu hyfforddiant yn y sector adeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Alan Jones, yr aelod gweithredol dros fusnes, twristiaeth, hamdden a diwylliant: “Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am roi arian trwy eu rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ac i Gartrefi Melin am wthio’r cynlluniau yma ymlaen. Hoffwn ddiolch hefyd i CJ Construction sydd wedi gwneud gwaith ardderchog i adfer yr adeiladau yma.
“Mae Cronfa Buddsoddi Pont-y-pŵl yn llwyddiant anferth. Mae wedi dod â chartrefi fforddiadwy mawr eu hangen ac mae’r cynnydd mewn ymwelwyr o ganlyniad yn rhoi hwb i fasnachwyr yng nghanol y dref. Mae’r gronfa wedi helpu nifer o bobl ifanc i mewn i waith a hyfforddiant.”
Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin: "Mae'n bleser agor y cartrefi newydd hyn gan eu bod yn fwy na brics a morter yn unig. Mae'r rhain yn rhan fawr iawn o gamau i adfywio dau adeilad a oedd yn adfeilion, yn ogystal â chanol tref Pont-y-pŵl. Yn sicr, mae hyn yn bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen i ddod â'r fath gartrefi mawr eu hangen ac rydym yn gobeithio mai dyma fydd y cyntaf o lawer. "
Meddai Rebecca Evans, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Tai ac Adfywio: “Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i greu mwy o dai fforddiadwy a chefnogi adfywio yng nghanol y dref; mae’r fath ddatblygiadau bendigedig sy’n ailddefnyddio adeiladu segur yn dangos sut, gyda’n gilydd, y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.”
|