Welcome to the first dedicated e-news bulletin for Torfaen’s new post 16 learning centre.
The name of the new centre will be announced on the 19th of November as part of the official sod cutting ceremony. A total of 415 suggestions were submitted online and face to face during the public engagement exercise which visited schools and community settings across the borough throughout June.
This new Coleg Gwentcampus will be the home of all English language A Level education in Torfaen and will also offer students the Welsh Baccalaureate and a range of vocational qualifications.
The new centre replaces three English medium school sixth forms in the borough and will be managed and run by Coleg Gwent in partnership with the council.
The centre will provide the pathway for Torfaen students into higher education, training and employment.
Cyhoeddi’r enw newydd!
Croeso i'r bwletin e-newyddion cyntaf ar gyfer canolfan ddysgu ôl-16 newydd Torfaen.
Bydd enw'r ganolfan newydd yn cael ei gyhoeddi ar 19 Tachwedd fel rhan o'r seremoni torri tywarchen swyddogol. Cyflwynwyd cyfanswm o 415 o awgrymiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd pan ymwelwyd ag ysgolion a lleoliadau cymunedol ar draws y fwrdeistref ym mis Mehefin.
Bydd campws newydd Coleg Gwent yn gartref i’r holl addysg Lefel A cyfrwng Saesneg yn Nhorfaen a bydd hefyd yn cynnig Bagloriaeth Cymru ac ystod o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr.
Mae'r ganolfan newydd yn disodli tri chweched dosbarth cyfrwng Saesneg yn y fwrdeistref a bydd yn cael ei reoli a'i redeg gan Goleg Gwent mewn partneriaeth â'r cyngor.
Bydd y ganolfan yn darparu llwybr i fyfyrwyr yn Nhorfaen sydd am fynd ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant a chyflogaeth.
Planning approved
The planning application for the learning centre and wider masterplan for the whole site was approved in July and construction of the foundations are now in full swing.
Cymeradwyo’r cais cynllunio
Cymeradwywyd y cais cynllunio ar gyfer y ganolfan ddysgu a'r prif gynllun ehangach ar gyfer y safle cyfan ym mis Gorffennaf ac mae'r gwaith o adeiladu'r sylfeini bellach yn mynd rhagddo.
Lease approved
During September the Welsh Government approved the council’s purchase of the site on a 999 year long leasehold. Coleg Gwent will then lease the site from the council for 99 years at a peppercorn rent.
Cymeradwyo’r Brydles
Yn ystod mis Medi, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru'r camau gan y cyngor i brynu'r safle ar brydles 999 mlynedd. Yna bydd Coleg Gwent yn rhentu'r safle gan y cyngor yn rhad am 99 mlynedd.
Croesyceiliog update
With the new Croesyceiliog School for pupils aged 11-16 opening in September 2019, 6thform learning starting that year will primarily take place in the school’s existing West Wing building.
This original school block will not be demolished as part of the work on the new school and will be the home for 6th form pupils for one year until the new learning centre opens in September 2020.
All year 11 learners moving into an English medium 6th form in 2019 for a 2 year course will start their studies at their 6th form for the academic year 2019-2020 and will then transfer to the new learning centre in for the academic year 2020-2021.
All secondary schools, including those without 6th forms, will be working on the transition arrangements to support their learners in the run up to the opening of the new centre.
Y diweddaraf am Groesyceiliog
Gyda'r Ysgol newydd yng Nghroesyceiliog ar gyfer disgyblion 11-16 oed yn agor ym mis Medi 2019, bydd yr addysg chweched dosbarth sy'n dechrau'r flwyddyn honno yn digwydd yn bennaf yn adeilad presennol Adain y Gorllewin.
Ni ddymchwelir y bloc ysgol gwreiddiol hwn fel rhan o'r gwaith ar yr ysgol newydd felly bydd yn gartref i ddisgyblion 6ed dosbarth am flwyddyn hyd nes i'r ganolfan ddysgu newydd agor ym mis Medi 2020.
Bydd dysgwyr blwyddyn 11 sy'n symud i 6ed dosbarth cyfrwng Saesneg yn 2019 am gwrs 2 flynedd yn dechrau eu hastudiaethau yn eu 6ed dosbarth yn y flwyddyn academaidd 2019-2020 cyn trosglwyddo i'r ganolfan ddysgu newydd yn ystod y flwyddyn academaidd 2020-2021.
Bydd pob ysgol uwchradd, gan gynnwys y rhai heb 6ed dosbarth, yn gweithio ar y trefniadau pontio i gefnogi eu dysgwyr yn ystod y cyfnod hyd at agoriad y ganolfan newydd.
Enhanced curriculum
Following work between Coleg Gwent and all borough’s secondary schools to align curriculums, the number of A levels on offer in Cwmbran has increased from 23 to 25 and the number of vocational qualifications has increased from 13 to 16. There will also be several foundation degree courses on offer – for more info see our webpages.
Cwricwlwm gwell
Yn dilyn gwaith rhwng Coleg Gwent ac ysgolion uwchradd yr holl fwrdeistref i alinio cwricwla, mae nifer y pynciau lefelau A sydd ar gael yng Nghwmbrân wedi cynyddu o 23 i 25 ac mae nifer y cymwysterau galwedigaethol wedi cynyddu o 13 i 16. Bydd hefyd nifer o gyrsiau gradd sylfaen ar gael - am ragor o wybodaeth gweler ein tudalennau gwe
Finance approved
Welsh Government have now formally approved their contribution to the financial package for the learning centre and wider site development which currently stands at £27.2 million.
Cymeradwyo cyllid
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo eu cyfraniad at y pecyn ariannol ar gyfer y ganolfan ddysgu a datblygiad ehangach y safle, sydd ar hyn o bryd yn £27.2 miliwn.
Drone footage
As part of keeping you updated on progress on site, Coleg Gwent will aim to capture regular drone footage and share it in this bulletin.
Delweddau Drôn
Fel rhan o'r camau i ddarparu'r diweddaraf ar gynnydd y safle, bydd Coleg Gwent yn anelu i gipio delweddau drôn yn rheolaidd a'u rhannu yn y bwletin hwn.
Webpages
For more information and stay up to date with the latest news, please visit our Learning Centre webpages