Torfaen Weekly News bulletin | Bwletin Newyddion Wythnosol Torfaen

03/08/2018

weekly newsResidents Survey 2018

Residents Survey 2018 - We're all ears!

Whether it's investing more into making the borough cleaner and greener, supporting vulnerable people in the community or improving the standards in our schools, we're committed to making Torfaen a better place for our residents. 

And with budgets under more and more pressure it's really important we understand what people's experiences and expectations are from their local council.

Arolwg Trigolion 2018 – Rydym ni’n glustiau i gyd!

P’un ai ydym yn buddsoddi mwy i wneud y fwrdeistref yn fwy glân, yn cefnogi pobl sy’n agored i niwed i fyw yn y gymuned neu’n gwella safonau yn ein hysgolion, rydym yn ymrwymedig i wneud Torfaen yn well lle i drigolion.  

Gyda chyllidebau o dan fwy a mwy o bwysau mae’n bwysig iawn ein bod ni’n deall profiadau a disgwyliadau pobl mewn perthynas â’u cyngor lleol.                     

Latest news | Y newyddion diweddaraf

rsurvey

Residents survey 2018

We always get told that surveys don't matter or nothing happens as a result of what we're told but that's not the case. Over the past year the results of the residents survey have been used to help inform decisions we have taken and enabled us to judge whether our services are meeting people's expectations. So please spare a few minutes to have your say.


Last year we had a great response and the feedback we received has been used to shape key council policies and decisions. You can see the 2017 results on our website but some of the key findings were: 

  • 56% of people were satisfied with the quality of council services 
  • Two thirds of people were satisfied with the council’s recycling service 
  • Just one in three felt their local area was free of litter and rubbish 
  • Just under half of you felt children were taught in good quality school buildings 

People also said social care services should focus on keeping people living independently and we should improve the way social care and health services work together. The information you provided was used throughout the year as we planned our services for 2018/19. Some of the decisions that reflect this included: 

  • investing more money into a cleaner, greener borough through the Torfaen spring clean including cleansing roadside verges, open spaces and events to support communities to improve their local environment 
  • opening new schools and improving existing ones through our 21st Century schools programme 
  • fining people caught dog fouling and dropping litter and prosecuting flytippers 

Complete the survey


Arolwg Trigolion 2018

Mae pobl yn dweud wrthym o hyd nad yw arolygon yn bwysig neu fod dim yn digwydd o ganlyniad i’r hyn sy’n cael ei ddweud ond nid felly mae hi. Dros y flwyddyn ddiwethaf cafodd canlyniadau arolwg y trigolion eu defnyddio i drwytho’r penderfyniadau yr ydym wedi eu cymryd ac i farnu a yw’n gwasanaethau’n cwrdd â disgwyliadau pobl. Felly rhowch ychydig o funudau os gwelwch yn dda i ddweud eich dweud. ​


Y llynedd cawsom ymateb gwych a defnyddiwyd yr adborth a gawsom i lunio polisïau a phenderfyniadau allweddol y cyngor. Gallwch weld canlyniadau 2017 ar ein gwefan ond dyma rhai o'r canfyddiadau allweddol: 

  • Roedd 56% o bobl yn fodlon ag ansawdd gwasanaethau'r cyngor
  • Roedd dwy ran o dair o’r bobl yn fodlon â’r gwasanaeth ailgylchu sydd gan y cyngor
  • Un ymhob tri yn unig oedd yn teimlo bod eu hardal leol heb sbwriel
  • Roedd ychydig dan hanner ohonoch yn teimlo bod plant yn cael eu haddysgu mewn adeiladau ysgol o ansawdd da

Dywedodd pobl hefyd y dylai gwasanaethau gofal cymdeithasol ganolbwyntio ar helpu pobl i fyw'n annibynnol a dylem wella'r ffordd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio.

Defnyddiwyd y wybodaeth a ddarparwyd gennych trwy gydol y flwyddyn wrth i ni gynllunio ein gwasanaethau ar gyfer 2018/19. Mae rhai o’r penderfyniadau sy’n adlewyrchu hyn yn cynnwys: 

  • buddsoddi mwy o arian i greu bwrdeistref lanach, wyrddach trwy ymgyrch gwanwyn glân Torfaen yn cynnwys glanhau ymylon ochr y ffordd, mannau agored a chynnal digwyddiadau i gefnogi cymunedau i wella eu hamgylchedd lleol
  • agor ysgolion newydd a gwella rhai sy'n bodoli eisoes trwy ein rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif
  • cyflwyno dirwyon i bobl sy'n cael eu dal yn gadael dal baw cŵn a gollwng sbwriel ac erlyn pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon

Cwblhewch yr arolwg


reading challenge 2018

Get up to mischief at Torfaen libraries this summer 

Children are being challenged to read six library books or more over the summer holidays as part of the Summer Reading Challenge 2018. The Summer Reading Challenge asks 4 -11 year olds to borrow and read any six library books during the summer holidays, a time when children’s literacy skills traditionally dip.

 

This year’s theme is Mischief Makers, celebrating the 80th anniversary of the much-loved Beano comic. Children can sign up at any Torfaen library and will be given a collector folder full of fun and games to keep a record of their reading journey.

 

Contact your local library or visit www.facebook.com/TorfaenLibraries for more details.

Read more...

Direidi yn llyfrgelloedd Torfaen yn ystod yr haf yma

Mae plant yn cael eu herio i ddarllen chwe llyfr llyfrgell neu fwy dros wyliau’r haf fel rhan o Her Ddarllen yr Haf 2018. Mae Her Ddarllen yr Haf yn gofyn i blant 4 -11 oed fenthyg a darllen unrhyw chwe llyfr llyfrgell yn ystod y gwyliau haf, pan fydd sgiliau llythrennedd plant yn cwympo’n draddodiadol.


Thema eleni yw Direidi, gan ddathlu pen-blwydd 80 oed comic y Beano. Gall plant gofrestru mewn unrhyw lyfrgell yn Nhorfaen a byddant yn cael ffeil gasglu yn llawn hwyl a gemau i gadw cofnod o’u taith ddarllen.

 
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol neu ewch i www.facebook.com/TorfaenLibraries i gael rhagor o fanylion..

Darllen mwy...


cfw+

Mentoring plan to help unemployed in Wales: Communities for Work Plus in Torfaen

Communities for Work Plus aims to support other training schemes by providing intensive mentoring. 

It is part of the Welsh Government's employability plan to reduce the number of people who are not in education, employment or training (NEET), increase the number of disabled people in work, and eliminate the qualification gap between Wales and the rest of the UK.

Read more...

Cynllun Mentora i helpu'r di-waith yng Nghymru: Cymunedau i Waith a Mwy yn Nhorfaen

Nod Cymunedau i Waith a Mwy yw cefnogi cynlluniau hyfforddi eraill trwy ddarparu mentora dwys. 

Mae’n rhan o gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), cynyddu nifer y bobl anabl sy’n gweithio, a dileu’r bwlch cymhwyster rhwng Cymru a gweddill y DU.

Darllen mwy...


playschemes2018playschemes20182

Torfaenapp


Have you taken the time to download the Torfaen mobile app? Join thousands of other residents who are already using it to request services and report issues online.


More and more services are being added to the app, from setting up direct debits and applying for benefits, to requesting recycling boxes, report fly-tipping, upload Torfaen Homeseeker evidence and much more.

 

When you report issues through the app or website, you can track the progress of your requests and you will receive email notifications when reports are updated. These online services are the fastest and easiest way to carry out most transactions with the council, and it is available for free through the Android, iTunes and Windows online stores.


Ydych chi wedi achub ar y cyfle i lawrlwytho ap ffôn symudol Torfaen? Ymunwch â miloedd o drigolion eraill sydd eisoes yn ei ddefnyddio i ofyn am wasanaethau a dweud wrthym ar-lein am broblemau.

 

Mae mwy a mwy o wasanaethau’n cael eu hychwanegu at yr ap, o greu debydau uniongyrchol a gwneud ceisiadau am fudd-daliadau, at ofyn am flychau ailgylchu, dweud wrthym am dipio anghyfreithlon, lanlwytho tystiolaeth i Homeseeker Torfaen a llawer mwy.

 

Pan fyddwch yn dweud wrthym am faterion trwy’r ap neu’r wefan, gallwch ddilyn hynt eich ceisiadau a byddwch yn derbyn e-bost pan fydd diweddariadau ar adroddiadau. Y gwasanaethau ar-lein yma yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf o drafod y rhan fwyaf o bethau gyda’r cyngor, ac mae ar gael trwy’ siopau Android, Blackberry, iTunes a Windows ar-lein.


Black Box Recycling


Back of the net!

Don’t forget that we provide free nets to help you keep your recycling secure. Nets are free of charge and can be ordered from www.torfaen.gov.uk

 

They can also be collected from the World Heritage centre in Blaenavon, Civic Offices in Pontypool, and Cwmban Customer Care Centre in Cwmbran Library.

Black Box Recycling


Yn ôl y rhwyd

Peidiwch ag anghofio ein bod yn darparu rhwydi am ddim i’ch helpu i gadw eich deunydd ailgylchu yn ei le. Mae’r rhwydi yn rhad ac am ddim a gallwch eu harchebu ar www.torfaen.gov.uk

 

Gallwch hefyd eu casglu o ganolfan Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon, Swyddfeydd y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl a Chanolfan Gofal Cwsmeriaid Cwmbrân yn Llyfrgell Cwmbrân.


Sponsored posts. These posts below are external advertisements from local businesses and their presence should not be seen as an endorsement by Torfaen County Borough Council.
 
Swyddi a noddir. Mae'r swyddi hyn isod yn hysbysebion allanol gan fusnesau lleol ac ni ddylid gweld eu presenoldeb fel cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen.


 

financial


Professional assistance for your financial needs

Bright Financial Affiliates Ltd has been providing independent mortgage and protection advice for over 20 years in South Wales. We have independent financial advisers local to; Abergavenny, Bargoed, Brecon, Bridgend, Cardiff, Cwmbran, Newport, Swansea, Tredegar and Usk. Our advisers have a wealth of experience and provide efficient services at competitive prices. We can also visit you, if you’re unable to come to our office. Click here to visit their website. 


Cymorth proffesiynol ar gyfer eich anghenion ariannol

Mae Bright Financial Affiliates Ltd wedi bod yn darparu cyngor morgais ac amddiffyniad annibynnol am fwy nag 20 mlynedd yn Ne Cymru. Mae gennym gynghorwyr ariannol annibynnol lleol yn ardaloedd: Y Fenni, Bargoed, Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Abertawe, Tredegar a Brynbuga. Mae gan ein cynghorwyr gyfoeth o brofiad ac maent yn cynnig gwasanaeth effeithiol am brisiau cystadleuol. Medrwn hefyd ddod atoch chi, os na fedrwch ddod i’n swyddfa. 

Cliciwch yma i fynd i’w gwefan. 


Advertise Your Business


Advertise Your Business | Hysbysebu Eich Busnes

Torfaen's Stay Connected e-bulletins are seen by 1000s of residents every week. If you would like to advertise your business here please email garethj.phillips@torfaen.gov.uk for further details. 


Mae e-fwletinau Cadw Cyswllt Torfaen yn cael eu darllen gan filoedd o drigolion pob wythnos. Os hoffech chi hysbysebuch busnes yn y fan hyn danfonwch e-bost garethj.phillips@torfaen.gov.uk am fanylion pellach