Torfaen parks keep green flags flying / Parciau Torfaen yn chwifio’r faner werdd

18/07/2018

newsGarn Lakes

Torfaen parks keep green flags flying / Parciau Torfaen yn chwifio’r faner werdd

Four of Torfaen’s parks have been awarded the prestigious Green Flag Award for another year.

 

Pontypool Park, Panteg Park, Cwmbran Boating Lake and Garn Lakes all received the award, which recognises the best-managed parks and open spaces across the UK.

 

Cwmbran Boating Lake and Pontypool Park first received their award in 2012, while Garn Lakes Local Nature Reserve was given the award in 2013, and Panteg Park in 2016.

 

Henllys Local Nature Reserve and Blaen Bran Community Woodland were also recognised again with a Green Flag Community Award. 

 

The Green Flag Award scheme is delivered in Wales by environmental charity Keep Wales Tidy with support from Welsh Government, and is judged against strict criteria including horticultural standards, cleanliness, environmental management and community involvement.

 

Councillor Fiona Cross, executive member for the environment at Torfaen council, said: “Torfaen has some of the most beautiful parks and open spaces in the country and it is fantastic to receive this award for another year. 

 

“I would particularly like to thank the volunteers groups – Pontypool Park Friends, the Friends of Fish Pond Park, the Blaenavon World Heritage Environment Group, the Friends of Henllys Local Nature Reserve, and the volunteers at Blaenbran Community Woodland for helping us to keep our Green Flags flying.”


Mae pedwar o barciau Torfaen wedi cael Gwobr y Faner Werdd am flwyddyn arall.

 

Derbyniodd Parc Pont-y-pŵl, Parc Panteg, Llyn Cychod Cwmbrân a Llynnoedd y Garn i gyd y wobr, sy’n cydnabod y parciau a mannau agored ar draws y DU sy’n cael eu rheoli orau.

 

Cafodd Llyn Cychod Cwmbrân a Pharc Pont-y-pŵl eu gwobr am y tro cyntaf yn 2012, cafodd Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn y wobr yn 2013, a  Pharc Panteg yn 2016.

 

Cafodd Gwarchodfa Natur Leol Henllys a Choedwig Gymunedol Blaen Brân eu cydnabod eto gyda Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. 

 

Mae cynllun Gwobr y Faner Werdd yn cael ei drefnu yng Nghymru gan yr elusen Cadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae meini prawf pendant ynghlwm wrth y wobr gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymgysylltiad cymunedol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr aelod gweithredol dros yr amgylchedd yng Nghyngor Torfaen: “Mae gan Dorfaen rhai o’r parciau a mannau agored mwyaf prydferth yn y wlad ac mae’n wych cael derbyn y wobr yma am flwyddyn arall. 

 

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r grwpiau o wirfoddolwyr - Cyfeillion Parc Pont-y-pŵl, Cyfeillion Fish Pond Park, Grŵp Amgylchedd Treftadaeth y Byd Blaenafon, Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henllys a’r gwirfoddolwyr yng Nghoedwig Gymunedol Blaen Brân  am ein helpu ni i gadw’r Baneri Gwyrdd i chwifio.”

 

Read the latest Torfaen Council news