|
The Art department at St. Alban’s RC High School is inviting the public to attend an end year exhibition that will showcase the work produced by the school’s aspiring young artists. This selection of diverse work has been made possible by Year 11, 12 and 13 pupils.
The exhibition will take place in the Sixth Form Café at St. Alban’s, The Park, Torfaen, on Thursday 12 July from 4pm until 6.30pm.
For the second year running, the school exhibition is a unique opportunity for parents, friends and the community of Pontypool to come together and celebrate the work of the students. The show will display a range of work across the artistic spectrum, including portraiture and still-life.
On the exhibition, Art teacher and exhibition curator Miss Carly Llewellyn, “I am elated at this opportunity to showcase the work of our talented pupils for a second year running. I am very proud of the work these students have produced, and am excited to share it with the wider community of Torfaen. Save the Arts!”
There will be postcard-style prints of the featured work for sale with proceeds going to the Art department, with refreshments provided by Friends of St. Alban’s PTA.
For more information on the exhibition and to see more of the work being created at St. Alban’s Art Department, you can follow them on Twitter: @ARTStAlbans & @MissCLlew.
Mae'r adran Gelf yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban yn gwahodd y cyhoedd i fynychu arddangosfa diwedd blwyddyn a fydd yn arddangos y gwaith a gynhyrchwyd gan artistiaid ifanc uchelgeisiol yr ysgol. Mae'r dewis hwn o waith amrywiol yn cael ei gyflwyno diolch i ddisgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13.
Cynhelir yr arddangosfa yn y Caffi Chweched Dosbarth yn Alban Sant, Y Parc, Torfaen, ar ddydd Iau 12 Gorffennaf o 4pm tan 6.30pm.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae arddangosfa'r ysgol yn gyfle unigryw i rieni, ffrindiau a chymuned Pont-y-pŵl ddod ynghyd i ddathlu gwaith y myfyrwyr. Bydd y sioe yn arddangos ystod o waith ar draws y sbectrwm artistig, gan gynnwys portreadau a bywyd llonydd.
Wrth sôn am yr arddangosfa, meddai Miss Carly Llewellyn, athrawes gelf a churadur yr arddangosfa “Rwy'n falch iawn o'r cyfle hwn i arddangos gwaith ein disgyblion dawnus am yr ail flwyddyn yn olynol. Rwy'n ymfalchïo’n fawr yn y gwaith y mae'r myfyrwyr hyn wedi'i gynhyrchu, ac rwy'n falch o'r cyfle i'w rhannu â chymuned ehangach Torfaen. Achubwch y Celfyddydau! "
Fe fydd printiau maint cerdyn post o’r gwaith ar werth a bydd yr holl elw yn mynd i’r adran gelf. Cyfeillion Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Alban Sant fydd yn paratoi’r lluniaeth.
I gael mwy o wybodaeth am yr arddangosfa ac i weld mwy o’r gwaith sy’n cael ei greu gan Adran Gelf Alban Sant, gallwch ddilyn hwy ar Twitter: @ARTStAlbans ac @MissCLlew.
|