Waste update / Diweddaru gwastraff 23/02/2018

23/03/2018

News Bannercompost

Waste update / Diweddaru gwastraff 23/02/2018

For collections missed on Monday 19 March

It is intended that all waste and recycling collections missed on Monday 19 will be collected on Saturday 24 and Monday 26 March. Please have your containers at the kerbside for 7am on Saturday. We will clear as much as we can on Saturday, and intend to clear the remainder on Monday as part of the usual collections.

To cope with the extra quantities of waste, residents who had their skinny bin collections missed on Monday 19 can place out one extra black bag next to their bin. We are using our street cleansing staff to collect these bags, so if your bag is taken before your bins please don’t worry. 

Anyone whose recycling was missed on Monday 19 can also place out additional recycling in bags, but please separate recycling before putting it out for collection.

Our crews sort all recycling by hand and separating it allows them to empty it directly into the vehicles and avoid putting their hands into bags with broken glass or other sharp objects. It also makes collections faster too, which helps with the greater quantities of recycling our crews are dealing with.


Ar gyfer casgliadau a fethwyd ar ddydd Llun 19 Mawrth

 

Y bwriad yw bod yr holl gasgliadau gwastraff ac ailgylchu a fethwyd ar ddydd Llun 19eg yn cael ei gasglu ar ddydd Sadwrn 24 a dydd Llun 26 Mawrth. Dodwch eich biniau allan erbyn 7am ar ddydd Sadwrn os gwelwch yn dda. Byddwn yn clirio cymaint ag y medrwn ar ddydd Sadwrn, a’r bwriad yw clirio’r gweddill ar ddydd Llun fel rhan o’r casgliadau arferol.

I ymdopi â’r gwastraff ychwanegol, caiff trigolion y methwyd casgliad eu biniau cul ar ddydd Llun 19 roi un sach ddu ychwanegol wrth eu bin. Rydym yn defnyddio staff glanhau strydoedd i gasglu’r sachau hyn, felly os yw’r sach yn cael ei chasglu cyn ein bin, peidiwch â phoeni. 

Caiff unrhyw un y methwyd casglu eu deunydd ailgylchu ar ddydd Llun 19 hefyd roi deunydd ailgylchu ychwanegol mewn sachau, ond dylid gwahanu’r eitemau cyn eu rhoi allan i’w casglu.

Mae ein criwiau yn didoli’r deunydd ailgylchu â llaw ac mae ei wahanu yn caniatáu iddyn nhw ei wagio’n syth i’r cerbydau ac osgoi rhoi eu dwylo mewn sachau gyda gwydr wedi torri neu bethau miniog eraill. Mae hefyd yn cyflymu’r gwaith casglu, sy’n helpu gyda’r deunydd ailgylchu ychwanegol mae ein criwiau yn delio ag o.


Green waste collection suspended for the week commencing Monday 26 March

As you may be aware, the recent snow has caused disruption to waste and recycling collections and created a backlog of missed collections.

To help us catch up, we are postponing the planned green waste collections starting next week until Tuesday 2 April (there will be no collections on Monday 1 April due to the bank holiday).

Delaying the start of green bin collections will give our crews extra capacity to deal with the current backlog and help us get back on track ahead of the potential further snowfall forecast over the Easter weekend.

The whole season will be extended for a week into December.  


Casgliad gwastraff gwyrdd wedi ei atal ar gyfer yr wythnos sy’n cychwyn dydd Llun 26 Mawrth 

Fel y byddwch yn gwybod, efallai, mae’r eira diweddar wedi amharu ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu ac mae casgliadau wedi eu methu.

I’n helpu ni i ddal i fyny, rydym yn gohirio’r casgliadau gwastraff gwyrdd oedd i ddechrau’r wythnos nesaf tan ddydd Mawrth 2 Ebrill (ni fydd casgliad ar ddydd Llun 1 Ebrill oherwydd gŵyl y banc).

Bydd gohirio dechrau’r casgliad gwastraff gwyrdd yn galluogi i’n criwiau ddelio â’r gwastraff sydd wedi hel a’n rhoi yn ôl ar y trywydd iawn cyn yr eira sydd wedi ei ddarogan ar gyfer penwythnos y Pasg.

Bydd y tymor cyfan yn cael ei ymestyn am wythnos i mewn i fis Rhagfyr.  

Read the latest Torfaen Council news