Jobs fair offering local opportunities / Ffair swyddi yn cynnig cyfleoedd yn lleol

21/03/2018

newsjobsfair

Jobs fair offering local opportunities | Ffair swyddi yn cynnig cyfleoedd yn lleol

Torfaen County Borough Council will be hosting another FREE Jobs Fair on Tuesday 24 April 2018, at the Congress Theatre in Cwmbran Town Centre. This latest event,

 

organised by the Council’s European Funded operations Bridges into Work 2 and Working Skills for Adults 2, will give jobseekers from across the County Borough the opportunity to meet a range of employers, and follows the huge success of the Jobs Fair held in September 2017, which saw over 350 people attend. 

 

The event will run from 11am to 2pm, and will offer the ideal opportunity for prospective employees to find out more about local vacancies on offer, both within the Council and with the host of private companies and public sector organisations that will be in attendance.  

 

The event is also a great opportunity for young people who have chosen not to go on to further education to meet with a range of businesses with a presence in the local area. 

The fair has already attracted plenty of interest from a range of businesses in the local area, with 35 local employers attending with live vacancies, both full time and part time; this event is not to be missed.


The Council’s Skills and Employability teams will also be on hand to offer advice and support to help people access training, skills and local job opportunities.

The event presents an excellent opportunity for people looking for work or a change of career. The jobs fair is free to attend and open to people of all ages.

 

If your organisation or business has any live vacancies and are interested in attending, then please contact Tracey Coombe, tracey.coombe@torfaen.gov.uk or telephone 01633 648289 for more information.

 

(Bridges into Work 2 and Working Skills for Adults 2 are part financed by the European Social Fund)

Jobs Fair 2018

 

jobsfair

 

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnal Ffair Swyddi arall AM DDIM ar ddydd Mawrth 24 Ebrill 2018, yn Theatr y Congress yng Nghanol Tref Cwmbrân. Bydd y digwyddiad hwn, wedi ei drefnu gan Bontydd i Waith 2 a Sgiliau Gwaith i Oedolion 2, sydd wedi eu hariannu gan weithrediadau Cyllid Ewropeaidd y Cyngor, yn rhoi cyfle i bobl sy’n chwilio am waith ledled y Fwrdeistref Sirol gyfarfod â chyflogwyr amrywiol, ac mae’n dilyn llwyddiant mawr y Ffair Swyddi a gynhaliwyd ym mis Medi 2017, a welodd mwy na 350 o bobl yn mynychu.

 

Bydd y digwyddiad yn rhedeg rhwng 11am a 2pm, a bydd yn gyfle delfrydol i ddarpar weithwyr gael gwybod mwy am swyddi gwag lleol sydd ar gael, o fewn y Cyngor a chydag amrywiol gwmnïau lleol a chyrff y sector gwirfoddol a fydd yn bresennol.  

 

Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i bobl ifanc sydd wedi dewis peidio â mynd ymlaen i addysg bellach gyfarfod gydag amrywiol fusnesau sydd â phresenoldeb yn yr ardal leol. 

Mae’r ffair eisoes wedi denu digon o ddiddordeb gan amrywiol fusnesau yn yr ardal leol, gyda 35 o gyflogwyr lleol yn mynychu gyda swyddi gwag, yn rhai llawn-amser a rhan-amser; mae’r digwyddiad hwn yn un pwysig.

 

Bydd timau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Cyngor wrth law hefyd i gynnig cyngor a chymorth i helpu pobl i gael mynediad at hyfforddiant, sgiliau a chyfleoedd gwaith lleol.

 

Mae’r digwyddiad yn cynrychioli cyfle rhagorol i bobl sy’n chwilio am waith neu i newid gyrfa. Mae’n rhad ac am ddim i fynychu, ac yn agored i bobl o bob oedran.

Os oes gan eich cyfundrefn neu fusnes swyddi gwag ar hyn o bryd ac os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, yna cysylltwch â

Tracey Coombe, tracey.coombe@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 648289 i gael rhagor wybodaeth.

 

(Mae Pontydd i Waith 2 a Sgiliau Gwaith i Oedolion 2 yn cael eu rhannol ariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd)


Swyddi teg 2018


biw

Read the latest Torfaen Council news