Hundreds of Torfaen children take part in Crucial Crew / Cannoedd o blant Torfaen yn cymryd rhan yn y Criw Craff

12/03/2018

newscrucial crew 2018

Hundreds of Torfaen children take part in Crucial Crew / Cannoedd o blant Torfaen yn cymryd rhan yn y Criw Craff

Almost 1000 year six pupils from Torfaen schools have taken part in the Crucial Crew, an annual event that teaches children about personal safety, sustainability, recycling and other skills that will be useful as they transition into secondary school.

Pupils took part in a series of workshops from agencies such as Torfaen council’s waste and road safety teams, Fly Tipping Action Wales, South Wales Fire and Rescue, Food Standards Agency Wales, Network Rail, Western Power, Sight Cymru, RNLI, The Samaritans, and the Dogs Trust.

The sessions aim to encourage pupils to make better-informed choices, and reinforce key safety messages at a crucial time in their lives.

Councillor Fiona Cross, executive member for the environment, said: "Year six children are coming to the end of their primary education and will start to be given much more responsibility for themselves and their own safety.

“I am particularly pleased to see these children being engaged with recycling. It is at this age that they will start to form habits that will stay with them for the rest of their lives and if we can encourage them to be passionate about recycling now the benefits will last for years to come.”


The Crucial Crew is a multi-agency event led by RESOLVE it, and Torfaen’s road safety team. Crucial Crew events are aimed at 10-12 year olds and are delivered to over 13,000 children across south Wales every year.

For further details visit www.resolveitcic.co.uk/crucial-crews


Mae dros 1000 o ddisgyblion blwyddyn chwech o ysgolion Torfaen wedi cymryd rhan yn y Criw Craff, digwyddiad blynyddol sy’n dysgu’r plant am ddiogelwch personol, cynaliadwyedd, ailgylchu a sgiliau eraill a fydd yn ddefnyddiol wrth iddyn nhw symud i’r ysgol uwchradd.

Cymerodd y disgyblion rhan mewn cyfres o weithdai gydag asiantaethau fel timau gwastraff a diogelwch ar y ffyrdd cyngor Torfaen, Taclo Tipio Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Network Rail, Western Power, Sight Cymru, RNLI, Y Samariaid, a’r Ymddiriedolaeth Cŵn.

Amcan y sesiynau yw annog disgyblion i wneud dewisiadau gwell ar sail gwybodaeth, ac ategu negeseuon diogelwch allweddol ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr aelod gweithredol dros yr amgylchedd: "Mae plant blwyddyn chwech yn dod at ddiwedd eu haddysg gynradd a byddan nhw’n dechrau cael mwy o gyfrifoldeb am eu hunain a’u diogelwch.

“Rydw i’n arbennig o falch o weld y plant yma’n ymwneud ag ailgylchu.  Ar yr oedran yma maen nhw’n dechrau mynd i arferion a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu bywydau ac os allwn ni eu hannog i fod yn angerddol ynglŷn ag ailgylchu nawr bydd y buddion yn parhau am flynyddoedd i ddod.”


Digwyddiad aml-asiantaeth yw’r Criw Craff a arweinir gan RESOLVE it, a thîm diogelwch ffyrdd Torfaen. Anelir digwyddiadau Criw Craff at blant 10-12 oed ac mae dros 13,000 o blant ar draws de Cymru yn cymryd rhan bob blwyddyn.

Am fwy o fanylion ewch i www.resolveitcic.co.uk/crucial-crews

Read the latest Torfaen Council news