Weekly News / Newyddion Wythnosol

19/01/2018

bannerslipper swap pontypool care centre

Care centre users create story-inspired slippers

Members of Torfaen care centres have taken inspiration from classic children’s stories to create ornate slippers as part of a library project focussing on the health and wellbeing of older members of the community.

The Memory Lane Alzheimer’s Society group based at Ty Nant Ddu in Pontnewynydd picked a Cinderella theme, while members of the Torfaen Carer’s Centre in Pontypool chose to create a Willy Wonka-style slipper covered in lolly pops.

The slippers will be displayed in Torfaen libraries as part of the library service’s Slipper Talk project which aims to promote discussion around the health and wellbeing of older people, and encourage better understanding between the generations. Read full story here. 

Defnyddwyr canolfan gofal yn creu sliperi wedi eu hysbrydoli gan stori 

Mae aelodau canolfannau gofal yn Nhorfaen wedi cael eu hysbrydoli gan straeon clasurol i blant ac wedi creu sliperi addurnedig fel rhan o brosiect yn y llyfrgell sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles aelodau hŷn yn y gymuned.

Dewisodd Cymdeithas Alzheimer Memory Lane yn Nhŷ Nant Ddu ym Mhontnewynydd thema Sinderela, a dewisodd aelodau Canolfan Gofalwyr Torfaen ym Mhont-y-pŵl greu sliperi Willy Wonka wedi eu gorchuddio â losin.

Bydd y sliperi’n cael eu harddangos yn llyfrgelloedd Torfaen fel rhan o brosiect Siarad Sliperi gwasanaeth y llyfrgelloedd sy’n ceisio hybu trafodaeth ynglŷn ag iechyd a lles pobl hŷn, ac annog dealltwriaeth well rhwng y cenedlaethau. Darllen mwy.


Parade to commemorate Cwmbran hero

A parade to remember Cwmbran hero John Fielding will take place on Saturday 20 January.

 

The parade, led by the South Wales Police Marching Band and Drums, will set off from Abbeyfields at 10:40am, marching to St Michael and All Angels church in Llantarnam where a graveside service will begin at 11am.

 

The day marks the 139th anniversary of the 1879 Battle at Rorke's Drift in which Private John Fielding received the Victoria Cross after defending a remote station against 4,000 Zulus. He died in 1932.

Gorymdaith i goffáu arwr o Gwmbrân

Bydd gorymdaith i gofio arwr o Gwmbrân, John Fielding ar ddydd Sadwrn 20 Ionawr.

 

Bydd yr orymdaith, a fydd yn cael ei harwain gan Fand a Drymiau Heddlu De Cymru, yn dechrau o Abbeyfields am 10:40am, gan ymdeithio i Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion yn Llantarnam ble bydd gwasanaeth wrth ymyl y bedd yn dechrau am 11am.

 

Mae’r diwrnod yn nodi 139 o flynyddoedd ers Brwydr Rorke's Drift yn 1879 ble’r enillodd y Preifat John Fielding Groes Victoria ar ôl amddiffyn gwersyll anghysbell rhag 4,000 o Zwlŵaid. Bu farw yn 1932.


Residents asked to shape the future of Torfaen libraries

Torfaen council is asking residents to help shape the future of library services in the borough.

 

The council is looking to develop a new strategy for its library service that meet can meet the needs of the community while providing savings of £200,000.

 

Residents are asked to give their thoughts on the current service and provide their suggestions on how libraries may be improved, services prioritised and how the council can be more effective and efficient in delivering them in the future. To complete the survey visit www.forms.torfaen.gov.uk/librarysurvey2017/survey.html

Gofyn i drigolion lunio dyfodol llyfrgelloedd Torfaen

Mae Cyngor Torfaen yn gofyn i drigolion i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau llyfrgelloedd yn y fwrdeistref.

 

Mae’r cyngor yn edrych at ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer ei gwasanaeth llyfrgelloedd sy’n gallu cwrdd ag anghenion y gymuned a chynnig arbedion o £200,000 at yr un pryd.

 

Gofynnir i drigolion roi eu barn ar y gwasanaeth presennol ac awgrymu sut y gall llyfrgelloedd gael eu gwella, gwasanaethau gael blaenoriaeth a sut gall y cyngor fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth eu darparu yn y dyfodol. I gwblhau’r arolwg ewch i www.forms.torfaen.gov.uk/librarysurvey2017/survey.html


michelle woolley bakery

New bakery opens in Pontypool

Visitors to Pontypool Indoor Market can fight off the cold this winter with a selection of warming soups, homemade pies and pasties, and freshly baked bread.

 

Penrhiwgyngi Farm Bakery opened in December 2017 and is already proving a hit with customers, adding to the market’s existing food offer of oven baked jacket potatoes, home cooked meals, fresh meat, fish, and fruit and veg.

 

The bakery also sells a range of freshly made cakes, birthday cakes to order, and can offer a catering service.

Stondin Fara a theisennau newydd yn agor ym Mhont-y-pŵl

Bydd ymwelwyr â Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn gallu brwydro’r oerfel dros y gaeaf gyda dewis o gawl cynnes, pasteiod cartref a bara ffres.

 

Agorodd Siop Fara Fferm Penrhiwgyngi yn Rhagfyr 2017 ac mae’n boblogaidd yn barod gyda chwsmeriaid, gan ychwanegu at arlwy presennol y farchnad o datws trwy’u crwyn, prydiau cartref, cig ffres, pysgod a ffrwythau a llysiau.

 

Mae’r stondin hefyd yn gwerthu amrywiaeth o deisennau ffres, teisennau pen-blwydd ac maen nhw'n gallu cynnig gwasanaeth arlwyo.


Road closure to complete footbridge at Station Road/Avondale Road

A section of Station Road and Avondale Road in Griffithstown will be closed for one day on Sunday 21 January to allow the safe installation of a new footbridge between Station Road and Avondale Road.

 

Diversions will be clearly sign posted and the road closure will be lifted as soon as possible. Supervised pedestrian access will be maintained through the road closure, although delays can be expected.

 

Temporary traffic signals will be installed on Monday 22 January to allow contractors to complete final resurfacing works. These are likely to be in place for up to a week and will be sited each morning at 9:30am, and removed no later than 4pm, to minimise disruption during the rush hour.

Cau'r ffordd i gwblhau pont wrth Heol yr Orsaf/Heol y Glyn

Bydd rhan o Heol yr Orsaf a Heol y Glyn yn Nhref Gruffydd ar gau am ddiwrnod ar ddydd Sul 21 Ionawr i alluogi gosod pont newydd yn ddiogel rhwng Heol yr Orsaf a Heol y Glyn.

 

Bydd arwyddion clir i ddangos gwyriadau a bydd y ffyrdd ar agor cyn gynted â phosibl. Bydd mynediad wedi ei reoli i gerddwyr trwy gydol adeg cau’r ffordd, er bod disgwyl oedi ar brydiau.

 

Bydd arwyddion traffig dros dro yn cael eu gosod ar ddydd Llun, 22 Ionawr i ganiatáu i gontractwyr i gwblhau gwaith arwynebu terfynol. Mae’r rhain yn debygol o fod yn eu lle am hyd at wythnos a chânt eu gosod bob bore am 9:30am, a’u tynnu nid yn hwyrach na 4pm, er mwyn lleihau amharu yn ystod oriau brig.


happiness pulse

Beat the winter blues and take part in the Happiness Pulse

The survey gwent.happinesspulse.org/pulse/torfaen is now open and will be available until Wednesday 28 February.

 

The survey is also open to all residents and the results will provide an insight into the well-being of people living in Torfaen.


Trechwch felan y gaeaf a chymerwch ran yn y Pwls Hapusrwydd

Mae’r arolwg gwent.happinesspulse.org/pulse/torfaen nawr ar agor a bydd ar gael tan ddydd Mercher 28 Chwefror.

 

Mae’r arolwg ar gael i bob trigolyn a bydd y canlyniadau yn rhoi mewnwelediad i lesiant pobl yn Nhorfaen.

Drop-in session for Pontypool railway station

A drop-in session for residents and other stakeholders to view proposals for improvements at Pontypool and New Inn Railway Station is taking place at St Mary’s church hall in Panteg between 10am and 7pm on Wednesday 24 January.

 

The council, with the support of Welsh Government, has engaged with Network Rail and Arriva, and commissioned consultants to design a scheme to improve the station for the benefit of passengers.

Sesiwn galw i mewn ar gyfer gorsaf drenau Pont-y-pŵl

Bydd sesiwn galw i mewn i drigolion a rhanddeiliaid eraill gael gweld argymhellion ar gyfer gwelliannau yng Ngorsaf Drenau Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd yn neuadd Eglwys y Santes Fair ym Mhanteg rhwng 10am a 7pm ar ddydd Mercher 24 Ionawr.

 

Mae’r cyngor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi ymgysylltu â Network Rail ac Arriva, ac wedi comisiynu ymgynghorwyr i ddylunio cynllun i wella’r orsaf i deithwyr.