Torfaen businesses congratulated by Leader of Torfaen Council / Busnesau Torfaen yn cael eu llongyfarch gan Arweinydd Cyngor Torfaen

19/12/2017

News Bannerleader business event

Torfaen businesses congratulated by Leader of Torfaen Council / Busnesau Torfaen yn cael eu llongyfarch gan Arweinydd Cyngor Torfaen

A selection of  Torfaen businesses who have been successful in winning awards or have made significant achievements during 2017 have met with Councillor Anthony Hunt, Leader of Torfaen Council.

 

Business leaders from across a diverse range of sectors including financial services, manufacturing and food were congratulated for their successes at an informal networking lunch event held at the Civic Centre, Pontypool on Tuesday December 12th.

 

Speaking at the event, the Leader of Torfaen County Borough Council, Councillor Hunt, thanked businesses for their contribution to the lives of local people and the economy, and said: “It’s fantastic to learn that so many Torfaen businesses have been recognised for their hard work and excellence in their field. I wish all businesses in the borough a very successful and prosperous 2018.”

 

Michael McLeod, Managing Director of UniGreen Scheme based in Mamhilad Park Estate, Pontpool, Torfaen who attended the event said “Being awarded with Young Entrepreneur of the Year at the 2017 Monmouthshire Business Awards in October was an extremely proud moment for me. It’s great to be recognised for all the hard work. I am really looking forward to growing and developing the business in Torfaen over the coming year.”

 


Mae detholiad o fusnesau  Torfaen sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ennill gwobrau neu wedi llwyddo’n arwyddocaol yn ystod 2017 wedi cyfarfod â’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen.

 

Llongyfarchwyd arweinwyr busnes o amrywiol sectorau gan gynnwys gwasanaethau ariannol, gweithgynhyrchu a bwyd ar eu llwyddiant mewn digwyddiad cinio rhwydweithio anffurfiol a gynhaliwyd yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl ar ddydd Mawrth 12fed Rhagfyr.

 

Gan siarad yn y digwyddiad, diolchodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Hunt, i’r busnesau am eu cyfraniad i fywydau pobl leol a’r economi, gan ddweud: “Mae’n wych deall bod cymaint o fusnesau Torfaen wedi eu cydnabod am eu gwaith caled a’u rhagoriaeth yn eu maes. Dymunaf 2018 lwyddiannus a ffyniannus iawn i’r holl fusnesau yn y fwrdeistref.”

 

Meddai Michael McLeod, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynllun UniGreen sydd wedi ei leoli ar Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl, Torfaen, a fynychodd y digwyddiad: “Roedd cael gwobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Sir Fynwy 2017 ym mis Hydref yn foment anrhydeddus iawn i mi. Mae’n wych cael eich cydnabod am yr holl waith caled. Rwy’n edrych ymlaen at dyfu a datblygu’r busnes yn Nhorfaen dros y flwyddyn i ddod. ”

 

Read the latest Torfaen Council news