Have a say on dog control orders / Lleisio barn ar orchmynion rheoli cŵn

15/11/2017

News Banner

Have a say on dog control orders / Lleisio barn ar orchmynion rheoli cŵn

pspo sign pontypool

Torfaen council is asking residents to have their say on changes to dog controls in the borough.

 

Currently it is an offence to fail to remove dog fouling on any land to which the public has access, or to allow dogs onto school grounds, designated play areas or marked sports pitches. Dogs are also excluded from the lapwing breeding area near Garn Lakes Nature Reserve in Blaenavon.

 

Under a new Public Spaces Protection Order (PSPO) failure to remove dog fouling would remain an offence, but the current dog exclusion zones would be revised to reduce the number from around 250 to 150. School grounds, designated play areas, marked sports pitches and the lapwing breeding area would remain exclusion zones but many of these areas will have their boundaries revised. 

 

The new order would also introduce two Dogs on Leads areas for specific parts of Cwmbran Boating Lake and Garn Lakes Local Nature Reserve. This would be a new offence and is being considered in response to concerns raised about dog on dog attacks, risks to wildlife and conflicts between different users of these areas. 

 

Failure to comply with a PSPO will result in a fixed penalty notice of £100. Failure to pay the Fixed Penalty Notice will result in legal action which could result in a maximum fine of £1000.

 

Councillor Fiona Cross, executive member for the environment, said: “Since the existing Dog Control Orders were introduced in 2013 new legislation has been introduced replacing them with Public Spaces Protection Orders and as part of this process the council is taking the opportunity to review existing dog controls. 

 

“We have listened to what residents have been telling us and while it is impossible to please everyone we have drafted proposals that we think are fair and will provide a more enjoyable experience for everyone using our parks and open spaces. 

 

“These are just proposals at this stage and I would urge anyone who wants to contribute to this consultation to have their say https://getinvolved.torfaen.gov.uk online, or visit one of our drop in sessions.”

 

The consultation will be available at https://getinvolved.torfaen.gov.uk from Wednesday 15 November until Wednesday 15 December 

 

The plans can also be viewed in person at the council offices at Tŷ Blaen Torfaen, Panteg Way, New Inn from Monday to Thursday, 9am until 5pm, and on Fridays from 9am until 4:30pm.

 

There will also be a series of drop in sessions on the following dates for anyone wishing to complete the consultation in person:

 

Monday 27 November. Blaenavon Workingmen’s Hall. 12pm – 2pm. 

Wednesday 29 November. Pontypool Active Living Centre. 12pm – 2pm. 

Friday 1 December. Cwmbran Library. 12pm – 2pm.

 


Mae cyngor Torfaen yn gofyn i drigolion leisio barn ar newidiadau i drefniadau rheoli cŵn yn y fwrdeistref.

 

Ar hyn o bryd, mae’n drosedd peidio â chodi baw cŵn  ar unrhyw dir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, neu ganiatáu i gŵn fynd ar diroedd ysgol, mannau chwarae dynodedig neu gaeau chwarae plant dynodedig. Gwaherddir cŵn hefyd o’r ardal bridio cornicyllod ger Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd Garn ym Mlaenafon.

 

Dan y Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus newydd (GAMA) byddai methu â chodi baw cŵn yn parhau i fod yn drosedd, ond byddai’r parthau gwahardd cŵn yn cael eu newid i ostwng y nifer o ryw 250 i 150. Byddai tiroedd ysgol, mannau chwarae dynodedig, caeau chwarae dynodedig a’r ardal bridio cornicyllod yn parhau i fod yn barthau gwahardd ond byddai ffiniau nifer o’r ardaloedd hyn yn cael eu newid. 

 

Byddai’r gorchymyn newydd hefyd yn cyflwyno dwy ardal Cŵn ar Dennyn ar gyfer rhannau penodol o Lyn Cychod Cwmbrân a Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd Garn. Byddai hon yn drosedd newydd ac mae’n cael ei hystyried mewn ymateb i bryderon a fynegwyd am gŵn yn ymosod ar gŵn eraill, peryglon i fywyd gwyllt a gwrthdaro rhwng gwahanol fathau o ddefnyddwyr yn yr ardaloedd hyn. 

 

Bydd methu â chydymffurfio â’r GAMA yn arwain at hysbysiad cosb sefydlog o £100. Bydd methu â thalu’r Hysbysiad Cost Sefydlog yn arwain at gamau cyfreithiol a allai arwain at ddirwy o £1000 ar y mwyaf.

 

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, aelod gweithredol ar gyfer yr amgylchedd: “Ers pan gyflwynwyd y Gorchmynion Rheoli Cŵn presennol yn 2013, mae deddfwriaeth newydd wedi ei chyflwyno yn eu disodli gyda Gorchmynion Amddiffyn Mannau Agored ac fel rhan o’r broses hon mae’r cyngor yn cymryd y cyfle i arolygu’r trefniadau presennol ar gyfer rheoli cŵn. 

 

“Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae trigolion wedi ei ddweud wrthym a thra nad yw’n bosibl plesio pawb, rydym wedi drafftio cynigion sydd, yn ein barn ni, yn deg ac a fydd yn rhoi profiad gwell i bawb sy’n defnyddio ein parciau a’n mannau agored. 

 

“Cynigion yw’r rhain yn unig ar hyn o bryd, a buaswn yn annog pawb sydd eisiau cyfrannu tuag at yr ymgynghoriad hwn i leisio barn arlein, neu alw heibio un o’r sesiynau a drefnwyd.”

 

Bydd yr ymgynghoriad ar gael yn https://getinvolved.torfaen.gov.uk o ddydd Mercher 15 Tachwedd hyd at ddydd Mercher 15 Rhagfyr 

 

Gellir hefyd gweld y cynlluniau yn swyddfeydd y cyngor yn Nhŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn o ddydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 5pm, ac ar ddydd Gwener rhwng 9am a 4:30pm.

 

Bydd cyfres o sesiynau galw heibio hefyd ar y dyddiadau canlynol i unrhyw un sy’n dymuno cwblhau’r ymgynghoriad yn bersonol:

 

Dydd Llun 27 Tachwedd. Neuadd y Gweithwyr Blaenafon. 12pm - 2pm. 

Dydd Mercher 29 Tachwedd. Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl. 12pm - 2pm. 

Dydd Gwener 1 Rhagfyr. Llyfrgell Cwmbrân. 12pm - 2pm.

Read the latest Torfaen Council news