Griffithstown Primary School in Pontypool is the first primary school in Gwent to become Dementia Friendly.
More than 400 pupils and staff at the school have completed the Alzheimer’s Society’s awareness training and have become Dementia Friends by learning about dementia and what life is like for people living with condition.
Pupils visited County Hospital to perform songs for people living with dementia and supported a new project called Shimmer Zimmers, where they decorated zimmer frames with colourful materials to help people with dementia recognise their own and use it more often.
Younger children have also been reading The Elephant That Forgot which aims to help them understand dementia from a young age.
Head boy Rowan Harris said: “Through the training we know what to do when we meet someone with dementia and how we can help them. We are proud of what we have achieved and it has helped us to become more involved with the community.”
Head girl Ella Davies said: “I enjoyed meeting people with dementia and being able to cheer them up, and make them feel happier.”
Councillor Many Owen, executive member for children and young people, and Torfaen’s dementia champion said: “I am really proud with what the children here at Griffithstown Primary School have achieved. All the children in the school have played their part, and we hope that more schools in Torfaen will take on the challenge and become dementia friends.”
The award was presented to the school by Torfaen’s Assembly Member Lynne Neagle who chairs the cross party dementia group at the Senedd.
She said: “I was incredibly proud to present Griffithstown Primary School with their Dementia Friendly Award. Being the first primary school in Gwent and one of the very first schools in Wales to achieve it is fantastic, and I congratulate all the pupils and staff on their achievement.
“I have invited the school to visit the Senedd to talk about their work so that other AMs can see what great work is going on to make Torfaen dementia friendly.”
Torfaen was one of the first areas to be accredited as a Dementia County and its library service, tourist attractions such as Greenmeadow Community Farm and Big Pit, as well as many traders and businesses across the borough have become Dementia Friends.
For more details on becoming a dementia friendly business contact phil.diamond@torfaen.gov.uk
Ysgol Gynradd Griffithstown ym Mhont-y-pŵl yw’r ysgol gynradd yng Ngwent i ddod yn un sy’n Deall Dementia.
Mae mwy na 400 o ddisgyblion a staff yn yr ysgol wedi cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth Cymdeithas Alzheimer ac wedi dod yn Gyfeillion Dementia trwy ddysgu am ddementia a sut beth yw bywyd i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr.
Ymwelodd disgyblion ag Ysbyty’r Sir i berfformio caneuon i bobl sy’n byw gyda dementia a chefnogi prosiect newydd o’r enw Shimmer Zimmers, lle’r oeddynt yn addurno fframiau Zimmer gyda deunydd lliwgar i helpu pobl gyda dementia i adnabod eu ffrâm nhw a’i ddefnyddio’n amlach.
Mae’r plant iau hefyd wedi bod yn darllen The Elephant That Forgot sydd â’r nod o’u helpu i ddeall dementia o oedran ifanc.
Meddai’r pen bachgen Rowan Harris: “Oherwydd yr hyfforddiant, rydyn ni'n gwybod beth i’w wneud os byddwn yn cyfarfod rhywun gyda dementia a sut medrwn eu helpu. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni ac mae wedi ein helpu i chwarae mwy o ran yn y gymuned.”
Meddai’r pen geneth Ella Davies: “Rwyf wedi mwynhau cyfarfod pobl gyda dementia a medru codi eu calonnau, a gwneud iddynt deimlo’n hapusach.”
Dywedodd y Cynghorydd Many Owen, aelod gweithredol dros blant a phobl ifanc a hyrwyddwr dealltwriaeth dementia Torfaen: “Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae’r plant yma yn Ysgol Gynradd Griffithstown wedi ei gyflawni. Mae’r holl blant yn yr ysgol wedi chwarae eu rhan, a gobeithiwn y bydd mwy o ysgolion yn Nhorfaen yn derbyn yr her a dod yn gyfeillion dementia.”
Cyflwynwyd y wobr i’r ysgol gan Aelod Cynulliad Torfaen Lynne Neagle sy’n cadeirio’r grŵp dementia trawsbleidiol yn y Senedd.
Meddai: “Roeddwn yn hynod falch o gyflwyno Gwobr Cyfeillion Dementia i ysgol Gynradd Griffithstown. Mae bod yr ysgol gynradd gyntaf yng Ngwent ac un o’r ysgolion cyntaf un yng Nghymru i gyflawni hyn yn wych, ac rwy’n llongyfarch yr holl ddisgyblion a’r staff ar eu llwyddiant.
“Rwyf wedi gwahodd yr ysgol i ymweld â’r Senedd i siarad am eu gwaith er mwyn i ACau eraill weld y gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo i wneud Torfaen yn lle sy’n deall dementia.”
Torfaen oedd un o’r lleoedd cyntaf i’w achredu fel Sir Dementia gyda’r gwasanaeth llyfrgell, atyniadau i dwristiaid megis Fferm Gymunedol Greenmeadow a’r Pwll Mawr, ynghyd â nifer o fasnachwyr a busnesau ledled y fwrdeistref wedi dod yn Gyfeillion Dementia.
I gael rhagor o fanylion ar ddod yn fusnes sy’n deall dementia, cysylltwch â phil.diamond@torfaen.gov.uk
|