 A Pontypool market trader, who has battled testicular cancer, is to go under the needle to raise money for the Velindre Cancer Centre.
Richard Klier, 42, of Abertillery was diagnosed in December 2016 and was supported through three cycles of chemotherapy by Velindre.
He will be getting a tattoo of the centre’s logo, donated by Scott Gallear of the Cold Soul Collective Tattoo Studio in Pontypool, as part of a family fun day in the town centre on August 12.
The day will also include stalls in the town, fun and games for children, music and dance, and lots of other activities.
Richard runs Bubblicious Bathtime from Pontypool Indoor Market with his partner Lisa Taylor. He said: “I have had a huge amount of support from Velindre and this is my way of giving something back by raising money for the centre, and drawing attention to testicular cancer which many men are afraid to talk about.
“We have a fantastic day planned, with fun for all the family and a raffle with some great prizes including an Amazon Echo, tickets for a tour of the Principality Stadium, sessions at the Escape Rooms in Cardiff, champagne, meals for two, and lots more.
“It would be great to see as many people as possible coming to Pontypool on August 12 to have a great day out and to help us raise money for a really important charity.”
You can sponsor Richard’s tattoo by visiting his Just Giving page at www.justgiving.com/fundraising/lisa-taylor95
Mae masnachwr ym marchnad Pont-y-pŵl, sydd wedi brwydro canser ceilliol, i fynd dan y nodwydd i godi arian ar gyfer Canolfan Canser Felindre.
Cafodd Richard Klier, 42, o Abertyleri, ei ddiagnosis ym mis Rhagfyr 2016 ac fe’i cefnogwyd trwy’r driniaeth cemotherapi gan Felindre.
Bydd yn cael tatŵ o logo’r ganolfan, wedi ei roddi gan Scott Gallear o’r Cold Soul Collective Tattoo Studio ym Mhont-y-pŵl, fel rhan o hwylddydd i’r teulu yng nghanol y dref ar Awst 12.
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys stondinau yn y dref, hwyl a gemau i’r plant, cerddoriaeth a dawns, a llawer o weithgareddau eraill.
Mae Richard yn rhedeg Bubblicious Bathtime o Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl gyda’i bartner Lisa Taylor. Meddai: “Rwyf wedi cael llawer iawn o gefnogaeth gan Felindre a dyma fy ffordd i o roi rhywbeth yn ôl trwy godi arian i’r ganolfan, a thynnu sylw at ganser ceilliol, rhywbeth y mae llawer o ddynion yn ofni siarad amdano.
“Mae gennym ddiwrnod gwych wedi ei gynllunio, gyda hwyl i’r teulu cyfan a raffl gyda gwobrau ardderchog gan gynnwys Amazon Echo, tocynnau ar gyfer taith o gwmpas Stadiwm y Principality, sesiynau yn yr Escape Rooms yng Nghaerdydd, siampên, prydau bwyd i ddau a llawer mwy.
“Byddai’n wych gweld cymaint o bobl ag y bo modd yn dod i Bont-y-pŵl ar Awst 12 i fwynhau diwrnod da a’n helpu ni i godi arian ar gyfer elusen bwysig iawn.”
Medrwch noddi tatŵ Richard trwy ymweld â’i dudalen Just Giving yn www.justgiving.com/fundraising/lisa-taylor95
|