Get ready for the Cwmbran Big Event this weekend / Byddwch yn barod am Ddigwyddiad Mawr Cwmbrân y penwythnos yma

05/06/2017

News Banner

Get ready for the Cwmbran Big Event this weekend / Byddwch yn barod am Ddigwyddiad Mawr Cwmbrân y penwythnos yma

Cwmbran Big Event

The Cwmbran Big Event takes place this weekend (Saturday 10 June) at Cwmbran Boating Lake from 12pm-5pm.

 

The event includes sporting competitions, craft and food stalls, and a wide variety of music and dance acts, including Welsh beatboxer Beatbox Tangent. 

 

There will be rides and activities for small children, Greenmeadow Community Farm animals, paddle boats, a climbing wall, and a laser tag arena.

 

Dog lovers are encouraged to bring their pets along to enter into the dog show at 2pm.

 

Parking will be available at Llanyrafon school just a short walk from the boating lake itself. Visitors are also encouraged to walk or cycle to the event if possible.

 

Recycling facilities are also available, and visitors will able to recycle most of their waste, including glass bottles, cans, paper, plastic and cardboard, on-site.

 

More than 10,000 people attended last year’s event and most activities are free, and designed to be fun for the whole family.

 

For a copy of the programme visit www.torfaen.gov.uk/thebigevent

 

It is funded by Torfaen Council, Cwmbran Community Council, Croesyceiliog & Llanyrafon Community Council, Henllys Community Council with sponsorship from Rubin Lewis O’Brien Solicitors, Solar Buddies, Everett, Tomlin, Lloyd and Pratt Solicitors Owen’s Catering and Sidoli’s. 

 


Cynhelir Digwyddiad Mawr Cwmbrân y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 10 Mehefin) yn Llyn Cychod Cwmbrân rhwng 12pm a 5pm.

 

Mae’r digwyddiad yn cynnwys cystadlaethau, stondinau crefftau a bwyd, ac amrywiaeth o actau cerddoriaeth a dawns, gan gynnwys y bît-bocsiwr o Gymru, Beatbox Tangent.

 

Bydd reidiau a gweithgareddau i blant bach, anifeiliaid Fferm Gymunedol Greenmeadow, cychod olwyn, wal ddringo ac arena tagio laser.

 

Anogir pobl sy’n caru cŵn i ddod â’u hanifeiliaid anwes gyda nhw ar gyfer y sioe gŵn am 2pm.

 

Bydd lle i barcio ar gael yn Ysgol Llanyrafon, taith fer ar droed i ffwrdd o’r llyn cychod ei hun. Anogir ymwelwyr hefyd i gerdded neu feicio i’r digwyddiad os yn bosib.

 

Mae cyfleusterau ailgylchu ar gael hefyd, a bydd ymwelwyr yn medru ailgylchu’r rhan fwyaf o’u sbwriel, gan gynnwys poteli gwydr, caniau, papur, plastig a chardbord, ar y safle.

 

Daeth mwy na 10,000 o bobl i’r digwyddiad y llynedd ac mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau am ddim, ac wedi eu cynllunio i fod yn hwyl i’r teulu cyfan.

 

I gael copi o’r rhaglen, ewch i www.torfaen.gov.uk/thebigevent

 

Caiff y digwyddiad ei ariannu gan Gyngor Torfaen, Cyngor Cymuned Cwmbrân, Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon, Cyngor Cymuned Henllys gyda nawdd gan Rubin Lewis O’Brien Solicitors, Solar Buddies, Everett, Tomlin, Lloyd and Pratt Solicitors, Owen’s Catering a Sidoli’s. 

 

 

Read the latest Torfaen Council news