 Ras
ffordd 10k flynyddol Torfaen Mic Morris
Mae tîm datblygu chwaraeon cyngor Torfaen yn disgwyl y
nifer uchaf erioed o gyfranogwyr yn y digwyddiad eleni sy’n cael ei gynnal ar
ddydd Sul, 17 Medi 2017, gyda mwy o redwyr na chafwyd y llynedd, eisoes wedi
cofrestru.
Bydd rhedwyr yn cychwyn am 9am o Heol Cwmafon ym
Mlaenafon ac yn croesi’r llinell derfyn yn amgylchedd godidog Parc Pont-y-pŵl. Mae pob rhedwr yn cael ei amseru â sglodyn a
byddant yn derbyn Crys-T Tech ac mae’r ras yn addas i redwyr o bob math ac
athletwyr ag anableddau. Ni chaniateir unrhyw un dan 15 oed i gymryd rhan yn y
ras.
Mae’r ffioedd mynediad yn £12 i redwyr cyswllt a £14 i
redwyr digyswllt. Bydd y rheini sy’n cofrestru ar y dydd yn talu £2 ychwanegol. Bydd
yr holl elw o'r ras yn cael ei roi i Gronfa Ymddiriedolaeth Chwaraeon er cof am
Mic Morris. Roedd Mic Morris yn heddwas a rhedwr pellter canol rhyngwladol
gwych o Bont-y-pŵl a gynrychiolai Prydain, y bu farw yn 24 oed tra'n hyfforddi
ym 1983. Sefydlwyd y gronfa ymddiriedolaeth rhwng Heddlu Gwent a Chyngor
Torfaen er mwyn codi arian ar gyfer y goreuon ymhlith athletwyr ifanc yn y maes
chwaraeon yn Nhorfaen, yn benodol pobl ifanc rhwng 11 a 21 oed sy'n byw yn
Nhorfaen.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch y digwyddiad neu i holi
ynghylch noddi, rhowch alwad i Christine Philpott ar 01633 628936 neu
e-bostiwch christine.philpott@torfaen.gov.uk
I gymryd rhan, ewch i: https://www.eventbrite.com/e/mic-morris-torfaen-10k-tickets
I
ddarllen yr erthygl lawn cliciwch yma os gwelwch yn dda
|