 Lansio gwefan Dewis yn Nhorfaen
Bydd gwefan Dewis yn cael ei lansio’n swyddogol yn Nhorfaen ddydd Gwener yma (10 Mawrth).
Gwefan Dewis yw’r lle i gael yr holl wybodaeth am les yng Nghymru.
Bydd y wefan yn darparu cefnogaeth ar gyfer lles oedolion drwy ddarparu adnoddau gan fudiadau gofal cymdeithasol, iechyd, trydydd sector a sector annibynnol
Meddai’r Cyng. Richard Clark, aelod gweithredol dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles yn Nhorfaen: "Dewis yw’r lle i fynd os ydych am wybodaeth neu gyngor am eich lles neu os ydych am wybod sut y gallwch helpu rhywun arall.
"Mae’r wefan dan ei sang â gwybodaeth am fudiadau a gwasanaethau a all helpu pobl leol.
"Mae pobl wedi dweud wrthym nad yw’n hawdd dod o hyd i wybodaeth. Mae Dewis yn cynnig y wybodaeth gywir mewn un man sy’n hawdd dod o hyd iddo.
"Os ydych yn cynnig gwasanaeth sy’n helpu lles pobl, gallwch ychwanegu eich manylion at Dewis Cymru, fel bod y bobl yr ydych am eu helpu a'u cefnogi, yn medru dod o hyd i chi'n haws, a hynny waeth pa mor fawr neu fach ydych chi, neu p'un a ydych yn wirfoddolwyr – os ydych yn helpu lles pobl, mae Dewis Cymru am wybod amdanoch a’r hyn yr ydych yn ei wneud, er mwyn i ni fedru cyfeirio pobl atoch."
Ar hyn o bryd mae gan Dewis Cymru wybodaeth leol ar gyfer Gogledd Cymru, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Cynhelir y lansiad ddydd Gwener yma 10 Mawrth o 2pm – 2.30pm yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 8AT ac mae’n rhan o ddiwrnod Cyngor a Chymorth Cynghrair Wirfoddol Torfaen.
I gael mwy o wybodaeth ewch i www.dewis.wales
|