Meet rugby legends at Pontypool Indoor Market this St David’s Day / Dewch i gwrdd ag enwogion y byd rygbi ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar ddydd Gŵyl Dewi

24/02/2017

News Newyddion

Meet rugby legends at Pontypool Indoor Market this St David’s Day / Dewch i gwrdd ag enwogion y byd rygbi ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar ddydd Gŵyl Dewi

rugby legends st davids day

TV presenter and former Welsh International Eddie Butler will be joined by the legendary Pontypool front row Graham Price, Charlie Faulkner and Bobbie Windsor, and current members of Pontypool RFC, for a special meet and greet this St David’s Day at Pontypool Indoor Market.

 

The event also includes the Cotyledon Food and Craft Market alongside the town’s usual Wednesday outdoor market, workshops by Mother Earth Crafts, and activities for little ones including Wonderful Wardrobe Dress up and Dance and face painting. 

 

There will also be performances from Ysgol Feithrin Pontypwl, Abersychan High School and the Cor Fon Lwyd Welsh choir. 

 

Activities start from 11am in the town centre and indoor market, with the meet and greet with the players taking place between 12:30pm and 1:30pm.

 

The event has been organised by the volunteers of the Friends of Pontypool Town. 


Bydd rheng flaen enwog Pont-y-pŵl, Graham Price, Charlie Faulkner a Bobbie Windsor, ynghyd ag aelodau presennol Clwb Rygbi Pêl-droed Pont-y-pŵl yn ymuno ag Eddie Butler, cyflwynydd teledu a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, ar gyfer achlysur cwrdd a chyfarch ar ddydd Gŵyl Dewi ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.

 

Mae'r digwyddiad hefyd yn cynnwys Marchnad Bwyd a Chrefftau Cotyledon ochr yn ochr â marchnad awyr agored arferol y dref ar ddydd Mercher, ynghyd â gweithdai gan Grefftau Mother Earth, a gweithgareddau ar gyfer y rhai bach yn cynnwys cyfle i wisgo i fyny a dawnsio gyda Wonderful Wardrobe a phaentio wynebau.

 

Bydd hefyd perfformiadau gan Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl, Ysgol Uwchradd Abersychan a chôr Cymraeg Afon Lwyd.

 

Mae’r gweithgareddau’n dechrau am 11am yng nghanol y dref a’r farchnad dan do, gyda chyfle i gwrdd a chyfarch y chwaraewyr rhwng 12:30pm a 1:30pm.

 

Trefnwyd y digwyddiad gan wirfoddolwyr Cyfeillion Tref Pont-y-pŵl.

 

Read the latest Torfaen Council news