 Tasha yn agor ei drysau yn yr orsaf Bŵer
Mae merch leol Natasha Maddison - Herbert wedi agor caffi yn yr
Orsaf Bŵer, Heol Blenheim, Sain Derfel, sef un o adeiladau Cyngor Torfaen.
Mae'r caffi, Ystafell De Tasha yn agored i bobl sy'n defnyddio'r ganolfan
addysg i oedolion ac aelodau o'r cyhoedd ac mae'n cynnig te, coffi, cacennau,
rholiau poeth ac oer, yn ddyddiol.
Yn y lansiad swyddogol ar ddydd Llun 23 Ionawr croesawodd y
Cynghorydd Veronica Crick, Maer Torfaen, y cam i agor y fath gyfleuster a
dymunodd ddyfodol llwyddiannus i'r busnes. Roedd hi'n falch iawn bod Tasha sydd
eisoes yn meddu ar brofiad arlwyo, yn byw yn lleol ac yn adnabyddus iawn yn y
gymuned.
Cafodd y fenter ei chydlynu a'i chefnogi
drwy'r broses gyfan gan Gymunedau yn Gyntaf ac Addysg i Oedolion Torfaen.
Dywedodd Linda Bailey, Rheolwr y Ganolfan a Sgiliau Hanfodol i Oedolion pa mor
falch oedd Canolfan Dysgu Oedolion a'r Gymuned yn Nhorfaen fod y caffi wedi
ail-agor a hefyd angerdd ac egni Tasha i redeg y caffi fydd yn croesawi’r
gymuned gyfan.
Meddai Richard Murphy, swyddog Hyrwyddo
Mentergarwch CBST “Mae gweithio gyda Tasha wedi bod yn bleser llwyr. Mae ei
hawydd i ddechrau ei busnes ei hun wedi bod yno o'r cychwyn cyntaf. Mae
gweithio'n galed a llwyddo, yn dod yn naturiol iddi fel person, ac mae pawb
sy'n gysylltiedig yn dymuno bob lwc iddi ar ei thaith yn rhedeg y fath fenter
addawol iawn"
I gael mwy o wybodaeth am gychwyn eich
busnes eich hun, ffoniwch Richard Murphy ar 01633 647455
|