
Pontypool’s town centre team are seeking new businesses to join 18 independent traders at Pontypool Indoor Market.
The market, which has undergone a £2.3million refurbishment in recent years, is an ideal location for businesses wishing to trade in the town centre at a low cost.
Stalls range from £45 to £140 per week, and traders also benefit from the council’s business support team, and regular events including craft and record fairs, flea markets and seasonal activities.
Current businesses and services in the market include a butchers, greengrocers, florists, weekly fish monger, news agents, and services such as seamstresses, watch repairs and a barbers.
Market manager Bob Davies said: “The market is an ideal location for businesses wanting to trade in the town centre without paying a huge amount for rent or business rates.
“We have a fantastic range of products and services available, and are particularly keen to hear from traders selling antiques, clothing or hardware, or offering services such as key cutting and shoe repair.
“We also have catering stalls available that would suit a deli, coffee shop or sandwich bar.”
For further details contact the market manager, Bob Davies, on 01495 742757 or via robert.davies@torfaen.gov.uk
Mae tîm canol tref Pont-y-pŵl yn chwilio am fusnesau newydd i ymuno â 18 o fasnachwyr annibynnol ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
Mae’r farchnad sydd wedi derbyn gwaith adnewyddu gwerth £2.3miliwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn lleoliad gwych i fusnesau sydd am fasnachu yng nghanol y dref ar gost isel.
Mae cost stondinau yn amrywio o £45 i £140 yr wythnos, ac mae busnesau hefyd yn elwa o dîm cefnogi busnes y cyngor a digwyddiadau rheolaidd gan gynnwys ffeiriau crefftau a recordiau, marchnadoedd rhad a gweithgareddau tymhorol.
Mae’r busnesau a gwasanaethau sydd yn y farchnad ar hyn o bryd yn cynnwys cigydd, gwerthwyr llysiau, gwerthwyr blodau, gwerthwyr pysgod yn wythnosol, stondin bapurau newydd a gwasanaethau fel gwniadwraig, trwsio oriorau a thorri gwallt.
Dywedodd rheolwr y farchnad Bob Davies: “Mae’r farchnad yn lleoliad delfrydol i fusnesau sydd am fasnachu yng nghanol y dref heb dalu symiau uchel ar gyfer rhent a threthi busnes.
“Mae gyda ni amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau ar gael ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan rai sydd am werthu heb bethau, dillad neu nwyddau metel neu’n cynnig gwasanaethau fel torri allweddi a thrwsio esgidiau.
“Mae gyda ni hefyd stondinau arlwyo ar gael a fyddai’n addas ar gyfer deli, siop goffi neu siop frechdanau.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â rheolwr y farchnad, Bob Davies, ar 01495 742757 neu drwy robert.davies@torfaen.gov.uk
|