Rhydian Roberts to play Blaenavon Workman’s Hall / Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn croesawu Rhydian Roberts

12/01/2017

News Newyddion

Rhydian Roberts to play Blaenavon Workman’s Hall / Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn croesawu Rhydian Roberts

rhydian

The double platinum-selling classical singer Rhydian Roberts will play the Blaenavon Workman’s Hall on Saturday 11 March 2016.

 

Rhydian shot to fame on ITV’s X Factor and has gone on to becoming an international star, working with some of the biggest names in the music industry.

 

He will perform hits from his most recent album Carry the Fire as well as some of the classics he has become known for across the world.

 

It is Rhydian’s second time performing in Blaenavon – he previously played to sell-out crowds at the Blaenavon Ironworks in 2010 to mark the centenary of the Blaenavon Male Voice Choir, who will be supporting him again for the evening. 

 

Rhydian said: “I had a fantastic time the last time I came to Blaenavon and everyone made me feel so welcome. I have a real passion for Welsh male voice choirs and I am delighted that the Blaenavon Male Voice Choir can come and support me for the evening.

 

“I will be singing some of my latest songs from my new album and putting my own spin on some well-loved classics, so there will be something for everyone to enjoy.” 

 

The chair of the Blaenavon World Heritage Committee, Gareth Davies, said: “We are delighted to welcome Rhydian back to Blaenavon. His last performance here sold out quickly and was a huge success, and we have wanted to have him back for some time.

 

“It promises to be a great evening and I hope to see as many people there as possible to help us raise funds to support Blaenavon World Heritage Day.”

 

Doors open from 7pm and tickets can be booked at www.ticketsource.co.uk/blaenavonworkmenshall or directly Blaenavon Workman’s Hall on 01495 792661. 

 


Ar ddydd Sadwrn 11 Mawrth 2017, bydd Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn croesawu'r canwr clasurol Rhydian Roberts y mae ei recordiau wedi cyflawni platinwm dwbl. 

 

Fe saethodd Rhydian i fyd y sêr ar raglen X Factor ar ITV ac aeth ymlaen i ddod yn seren ryngwladol, gan weithio gyda rhai o'r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth.

 

Bydd yn perfformio ffefrynnau o'i albwm diweddaraf Carry the Fire, yn ogystal â rhai o'r clasuron ddaeth â chydnabyddiaeth iddo ymhob rhan o'r byd.

 

Dyma'r ail dro i Rhydian berfformio ym Mlaenafon - gwerthwyd pob tocyn y tro diwethaf iddo ymddangos ar lwyfan Gwaith Haearn Blaenafon yn 2010 i nodi canmlwyddiant Côr Meibion Blaenafon, a fydd yn ymuno ag ef eto ar y noson. 

 

Dywedodd Rhydian: "Cefais amser gwych y tro diwethaf i mi ddod i Flaenafon ac fe wnaeth pawb estyn cymaint o groeso i mi a gwneud i mi deimlo mor gartrefol. Mae gen i angerdd go iawn am  gorau meibion yng Nghymru ac rwyf wrth fy modd bod Côr Meibion Blaenafon yn medru ymuno â mi ar y noson.

 

"Byddaf yn canu rhai o fy nghaneuon diweddaraf o fy albwm newydd a dehongli rhai o'r clasuron enwocaf yn fy ffordd unigryw, felly bydd rhywbeth at ddant pawb."

 

Dywedodd Gareth Davies, cadeirydd Pwyllgor Treftadaeth y Byd Blaenafon: "Rydym yn falch iawn o groesawu Rhydian yn ôl i Flaenafon. Fe wnaeth ei berfformiad diwethaf yma werthu allan yn gyflym ac roedd yn llwyddiant ysgubol, ac rydym wedi bod yn awyddus iddo ddychwelyd ers tro. 

 

“Mae’n argoeli i fod yn noson wych a gobeithiaf weld cymaint o bobl â phosib yno, i’n helpu i godi arian i gefnogi Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon.”

 

Bydd y drysau yn agor o 7pm a gellir archebu tocynnau ar www.ticketsource.co.uk/blaenavonworkmenshall neu’n uniongyrchol o Neuadd y Gweithwyr Blaenafon ar 01495 792661. 

Read the latest Torfaen Council news