Pontypool man prosecuted for illegally disposing of trade waste / Dyn o Bont-y-pŵl yn cael ei erlyn am dipio anghyfreithlon

24/10/2016

News Banner

Pontypool man prosecuted for illegally disposing of trade waste / Dyn o Bont-y-pŵl yn cael ei erlyn am dipio anghyfreithlon

british fly tipping

 

A Pontypool man has been made to pay £1,784 after he illegally disposed of trade waste which ended up fly tipped at the British site near Talywain in October 2015. 

 

Damien Robinson, 29, formally of Trevethin, carried out a painting and decorating job in Bristol and was paid to remove waste from a bathroom and kitchen renovation, despite not having a waste carrier’s license.

 

He claims to have then sub contracted out the disposal of the waste to a third party and ‘turned a blind eye’ to where it went. 

 

Mr Robinson was prosecuted under the Environmental Protection Act 1990 for knowingly permitting the deposit of controlled waste, and also for failing to secure that the transfer of the waste was only to an authorised person and failing to provide a written description of the waste.  

 

He pleaded guilty to two offences at Cwmbran Magistrates Court on Monday 17 October 2016 and was fined £280 for each offence, made to pay £1,196 costs to the council, and a £28 victim surcharge. 

 

Richard Marshall, senior environmental health officer at Torfaen council, said: “Around two thirds of all illegally dumped waste in Wales comes from residential households, and householders have a legal responsibility to ensure that their waste is disposed of properly.

 

“The householder Mr Robinson was working for paid him in good faith to remove the waste which was then dumped illegally. Fortunately in this case the right person was prosecuted, but householders should always check that traders are registered to remove waste or they could be hit with a huge fine.”

 

Councillor Gwyneria Clark, Torfaen council’s executive member for planning and public protection, said: “Fly tipping is a serious environmental crime which costs the tax payer thousands of pounds to clear up every year. 

 

“The British mountain has traditionally been a fly tipping hotspot and we are working in partnership with colleagues in Blaenau Gwent to increase officer patrols and surveillance in this area. 

 

“Now that much of the site is to return to public ownership we have a real opportunity to create a cleaner, greener environment for residents and visitors to enjoy, and I would urge anyone who witnesses fly tipping to report it confidentially to the council.” 

 

Residents can report any incidents of fly tipping they witness to the council confidentially via www.torfaen.gov.uk, through the Torfaen app, or by calling 01495 762200.

 

Further information on the work that local councils and other agencies in Wales are undertaking to combat fly tipping can be found by visiting the Fly Tipping Action Wales website www.flytippingactionwales.org

 


Gorfodwyd i ddyn o Bont-y-pŵl dalu £1,784 ar ôl cael gwared yn anghyfreithlon ar wastraff busnes a gafodd ei dipio’n anghyfreithlon yn safle’r British yn ymyl Talywaun yn Hydref 2015. 

 

Gwnaeth Damien Robinson, 29, gynt o Drefethin, waith peintio ac addurno ym Mryste a thalwyd iddo gymryd gwastraff o’r ystafell ymolchi a’r gegin, ern ad oedd ganddo drwydded i gludo gwastraff. 

 

Honnodd iddo is-gontractio gwaredu’r gwastraff ac iddo ‘droi llygad ddall’ i lle'r oedd y gwastraff wedi mynd. 

 

Cafodd Mr Robinson ei erlyn o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 am ganiatáu yn fwriadol gwaredu gwastraff, a hefyd am fethu sicrhau trosglwyddo’r gwastraff i berson awdurdodedig yn unig, ac am fethu rhoi disgrifiad ysgrifenedig o’r gwastraff.  

 

Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad yn Llys Ynadon Cwmbrân ar ddydd Llun 17 Hydref 2016 a chafodd ddirwy o £280 am bob trosedd. Bydd rhaid iddo dalu costau o £1,196 i’r cyngor a gordal dioddefwyr o £28.

 

Dywedodd Richard Marshall, uwch swyddog amgylcheddol yng nghyngor Torfaen: “Daw tua dwy ran o dair o wastraff anghyfreithlon yng Nghymru o dai preswyl, ac mae gan drigolion gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n gywir.

 

“Talodd y person yr oedd Mr Robinson yn gweithio iddo yn ddiffuant iddo gael gwared ar y gwastraff a gafodd ei ollwng wedyn yn anghyfreithlon. Yn ffodus, yn yr achos yma, cafodd y person cywir ei erlyn, ond dylai preswylwyr sicrhau bob tro bod gan bobl mewn busnes drwydded i waredu gwastraff neu efallai caiff y preswyliwr ddirwy fawr.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneira Clark, aelod gweithredol Cyngor Torfaen dros gynllunio a diogelu’r cyhoedd: “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol difrifol sy’n costio miloedd o bunnoedd y flwyddyn i drethdalwyr mewn costau clirio bob blwyddyn. 

 

“Mae mynydd y British wedi bod yn fan poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon ac rydym yn gweithio law yn llaw gyda Blaenau Gwent er mwyn cynyddu patrolau a gwyliadwriaeth yn yr ardal hon. 

 

“Nawr bod y safle am gael ei ddychwelyd i berchenogaeth gyhoeddus mae gyda ni gyfle gwirioneddol i greu amgylchedd glanach a gwyrddach i drigolion ac ymwelwyr gael mwynhau a buaswn i’n annog unrhyw un sy’n gweld tipio i roi gwybod i’r Cyngor yn gyfrinachol.” 

 

Gall drigolion rhoi gwybod i’r Cyngor yn gyfrinachol am unrhyw ddigwyddiadau o dipio trwy www.torfaen.gov.uk <http://www.torfaen.gov.uk>, neu trwy ap Torfaen, neu trwy ffonio 01495 762200.

 

Mae gwybodaeth bellach ar y gwaith y mae cynghorau lleol ac asiantaethau eraill yng Nghymru yn gwneud i ddelio â thipio anghyfreithlon trwy fynd i wefan Taclo Tipio Cymru www.flytippingactionwales.org 

 

Read the latest Torfaen Council news