|
Peidiwch â gadael i'r dyddiau byrrach a'r nosweithiau hirach eich cadw i mewn - mae’n bwysicach fyth hyd yn oed mynd allan am ychydig o awyr iach. Lapiwch yn gynnes, ewch am dro ar y llwybr a mwynhewch y machlud haul gaeafol. Mae golygfeydd o'r llwybr yn ystod yr hydref a'r gaeaf yn dra gwahanol. Darllenwch ymlaen i gael syniadau am ble i gerdded yn ystod gwyliau'r Nadolig ac adnoddau defnyddiol i'ch helpu i gynllunio eich taith gerdded nesaf ar Lwybr Arfordir Cymru. 🎄
Ffordd symlach o deithio rhwng Gogledd a De-orllewin Cymru. Mae gwasanaeth bws TaithCymru yn dechrau ar 25 Hydref o Fangor yn y Gogledd ac yn mynd i Gaerfyrddin yn y De-orllewin. Bydd y bws yn aros yng Nghaernarfon, Porthmadog, Aberystwyth ac Aberaeron a lleoedd eraill - trefi arfordirol lle ceir cysylltiadau cludiant cyhoeddus eraill a mannau ardderchog i’w harchwilio ar y llwybr.
|
Bodlonwch eich obsesiwn â Llwybr Arfordir Cymru.... dewiswch arweinlyfrau a mapiau swyddogol i'ch helpu i gynllunio'ch taith gerdded, ategolion a ysbrydolwyd gan y llwybr, crysau-t cotwm organig chwaethus a hwdis cynnes clyd ar gyfer y teithiau cerdded oerach hynny - rydyn ni wedi gofalu am bopeth.
Y nwyddau sy’n gwerthu orau gennym? Y tystysgrifau cwblhau a'r bathodynnau swyddogol - y rhain yw’r cofroddion perffaith o'ch taith ar y llwybr. Ewch draw i’r siop i bori heddiw am yr anrheg Nadoligaidd berffaith i'ch partner cerdded neu beth am brynu rhywbeth bach i chi eich hun!
 Bathodynnau a Thystysgrifau
Chwilio am rywle ar y llwybr sydd ychydig yn haws i’w gerdded, am opsiwn llai mwdlyd pan fo’r tywydd wedi bod yn arw, neu am rywle addas ar gyfer bygi neu offer symudedd? Rhowch gynnig ar ran Gogledd Cymru rhwng tref glan môr Prestatyn a Llanfairfechan (tua 40 milltir/67 km i gyd). Yn bennaf mae’r rhan hon o’r llwybr yn mynd ar hyd llwybrau pren, promenadau, arwynebau wedi'u selio a graddiant isel, ac mae’n cynnig digon o olygfeydd arfordirol a chyfleoedd i aros am baned mewn caffi. Dyma ein hawgrymiadau:
-
Prestatyn i Dwyni Gronant - 4 milltir / 7km o lwybr pren, llwybrau troed a rhai ardaloedd tywodlyd. Ardderchog ar gyfer gwylio adar. Dewch â’ch binocwlars os gallwch.
-
Bae Colwyn i Landudno - 6 milltir / 9 km yn mynd ar hyd g glan môr Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Bae Penrhyn gyda digon o lefydd i fwyta ac yfed ar hyd y ffordd.
AWGRYM DA: Defnyddiwch y map rhyngweithiol i weld ble mae'r llwybr yn agos atoch chi (dilynwch y llinell borffor) a defnyddiwch Google Street View i weld sut olwg sydd ar y llwybr cyn i chi fynd.
 Prestatyn
Dyma grynodeb o'r hyn sydd ar gael i'ch helpu i gynllunio'ch taith gerdded ar y llwybr:
- Map rhyngweithiol – gallwch weld i ble mae'r llwybr yn mynd a phlotio eich llwybr a'i fesur mewn milltiroedd a chilometrau.
- Tablau pellter - Gwiriwch pa mor bell yw hi rhwng trefi mawr a phentrefi er mwyn cynllunio mannau i aros dros nos.
- Ap Llwybr Arfordir Cymru - Lawrlwythwch yr ap i helpu i lywio'r llwybr heb fynd ar goll, i gofnodi eich teithiau cerdded a gweld faint ydych chi wedi'i gerdded a'i ddefnyddio i gynllunio gweddill eich teithiau.
- Gwyriadau dros dro ar y llwybr - Chwiliwch am y newyddion diweddaraf i weld pa rannau sydd ar gau a'r llwybrau amgen.
- Arweinlyfrau swyddogol - Dewis o 7 o arweinlyfrau i ymchwilio i'r rhan nesaf y byddwch yn ei cherdded. Mae arweinlyfrau Cymraeg hefyd ar gael ar gyfer rhannau Pen Llŷn a Sir Benfro.
Mae'n debyg y byddwch chi'n gweld y morloi bach ar y traethau, yn bwydo ac yn gorffwys. Bydd y mamau allan yn y môr ond byddant yn cadw llygad barcud arnynt yr un pryd. Os byddwch yn digwydd eu gweld pan fyddwch chi ar y llwybr, y peth gorau i’w wneud yw cadw’n ddigon pell oddi wrthyn nhw a chadw cŵn ar dennyn.
Mae ein teithiau cerdded cylchol yn dechrau ac yn gorffen yn yr un lle - lle ceir llefydd parcio addas neu lle ceir opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Beth am roi cynnig ar y rhain dros gyfnod y Nadolig sy’n prysur agosáu gyda ffrindiau a theulu - delfrydol er mwyn cael ychydig o awyr iach yr heli, rhwng y tinsel a’r twrcil! Gwyliwch y fideo hwn o Borthcawl i gael ysbrydoliaeth, neu'r un yma yn Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.
 Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, Sir Gâr
Click to edit this placeholder text.
Ydych chi'n awyddus i ddefnyddio rhywfaint o wyliau cyn i'ch blwyddyn wyliau ddod i ben? Edrychwch ar y teithiau cerdded aml-ddiwrnod hyn - delfrydol fel rhan o benwythnos hir yr hydref hwn neu’n barod ar gyfer yr adeg y bydd y tywydd yn gwella. Dyma rai syniadau i godi archwaeth:
- Taith gerdded 25 milltir rhwng y Fali a Phont y Pedair Milltir, Ynys Môn. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae goleudy Ynys Lawd, amgueddfa forwrol Caergybi a'r bwâu naturiol - Bwa Gwyn a Bwa Ddu.
- 31 milltir rhwng Pwllheli ac Aberdaron ym Mhen Llŷn. Un o’r uchafbwyntiau yw llwybr cerdded tawelach, tir ar ben clogwyni, traethau tywodlyd a chanolfan gelf Plas Glyn y Weddw
 Ynys Lawd, Ynys Môn
Eisiau dysgu mwy am yr ardal o'ch cwmpas?
Mae'r Cynllun Llysgenhadon Cymru yn gwrs ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi'i gynllunio i ddysgu mwy am nodweddion unigryw Cymru. Dysgwch fwy am ble ydych chi'n byw a ffeithiau diddorol am y llwybr hefyd. Agored i bawb a gellir cofrestru yn rhad ac am ddim. Mae’n bosibl chwblhau pob uned ar eich cyflymder eich hun. Byddwch chi'n chwifio'r faner dros Gymru cyn pen dim!
|
Ar gael yn fuan ...
Defnyddiwch Lein y Cambrian rhwng Pwllheli ac Aberystwyth i gerdded bron i 100 milltir o'r llwybr. Yn ein cylchlythyr nesaf, byddwn yn rhoi dadansoddiad o sut y gellir gwneud hyn.
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
Tanysgrifiwch i fwletinau busnes drwy fynd i "Prosiectau" a thicio'r blwch ar gyfer "Llwybr Arfordir Cymru".
Maent yn agored i bob sector: lletygarwch, twristiaeth, darparwyr llety, y sector cyhoeddus ac unrhyw fusnes sydd â diddordeb yn y llwybr a'r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru (Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Sir Benfro).
Byddwch yn barod am syniadau hawdd ac ymarferol sy'n anelu at wneud y mwyaf o gyfleoedd busnes ar y llwybr, gyda deunyddiau marchnata partneriaid y gellir eu lawrlwytho am ddim i wella eich proffil i adael i gwsmeriaid wybod eich bod yma ar gyfer eu holl anghenion wrth gerdded!
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 11,500 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|