|
O gyrsiau hyfforddi a thaflenni am ddim i ddolenni defnyddiol i deithiau cerdded byr i'w rhannu â'ch cwsmeriaid, mae ein e-fwletin mis Tachwedd yn llawn syniadau rhagorol i'ch helpu i gynyddu diddordeb eich cwsmeriaid wrth i'r nosweithiau fyrhau. |
|
|
Beth am gyfoethogi eich gwybodaeth leol am Lwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol gyda hyfforddiant ar-lein am ddim drwy Gynllun Llysgenhadon Cymru.
 Dysgu mwy am nodweddion arbennig Cymru rhad ac yn ddim
Drwy ddysgu mwy am atyniadau, tirweddau a threftadaeth eich ardal, fel Llysgennad Twristiaeth ardystiedig, byddwch yn fwy parod i ateb cwestiynau ymwelwyr, i argymell lleoedd i’w harchwilio ac i rannu’r hyn sy'n gwneud eich cyrchfan chi yn arbennig.
Cofrestrwch am ddim a dewis o blith mwy na dwsin o gyrsiau hyfforddi pwrpasol ar-lein sy'n ymestyn ar draws Cymru, o Gonwy i Sir Gaerfyrddin. Cwblhewch fodiwlau'r cwrs i ennill statws llysgennad efydd, arian neu aur a byddwch yn derbyn tystysgrif Llysgennad Twristiaeth y gellir ei lawrlwytho a logo swyddogol.
Defnyddiwch yr asedau hyn yn eich holl weithgareddau cyfryngau cymdeithasol a marchnata i hyrwyddo eich busnes fel cefnogwr dibynadwy a gwybodus o dwristiaeth Cymru.
|
|
Helpwch gwsmeriaid i ddod o hyd i’r golygfeydd sydd ar garreg eich drws gyda thaflenni teithiau cerdded iVisit. Arddangoswch nhw yn eich cyntedd, ar eich cownter, neu eu hychwanegu at becynnau gwybodaeth i westeion; maen nhw’n ffordd ymarferol o roi gwybodaeth am deithiau cerdded lleol yn uniongyrchol yn nwylo eich cwsmeriaid. Archebwch trwy ddefnyddio'r ddolen isod a nodwch god disgownt TICDISCOUNT wrth y ddesg dalu i dderbyn eich taflenni yn rhad ac am ddim.
Archebwch eich taflenni AM DDIM gan ddefnyddio cod disgownt TICDISCOUNT
|
|
|
|
Ddim yn siŵr sut i sôn am y llwybrau yn eich cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol?
 Cymerwch olwg ar yr enghreifftiau ardderchog hyn gan fusnesau annibynnol yn y Mwmbwls - rhywbeth i gnoi cil arno.
Efallai bod yr haf wedi mynd ond yn sicr nid yw hynny’n wir am y dirwedd hardd sy'n amgylchynu eich busnes — beth am atgoffa eich cwsmeriaid i ddod i ymweld?
Os ydych chi'n dal i gael trafferth i gael ysbrydoliaeth, beth am geisio gwneud eich postiadau cymdeithasol yn rhai personol? Gall rhannu eich hoff le i fwynhau’r machlud, lle picnic cudd neu eich hoff fwyty lleol helpu darpar gwsmeriaid a chefnogi twristiaeth yn eich ardal.
A pheidiwch ag anghofio tagio Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol yn eich holl bostiadau cymdeithasol a byddwn ninnau yn gwneud ein gorau i rannu! Gallwch weld ein holl dagiau cymdeithasol ar ddiwedd yr e-fwletin hwn.
|
|
|
Mae Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol yn cynnig llwybrau ar gyfer pob gallu, ac mae llwybrau cylchol yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr, teuluoedd a phobl sy'n awyddus i fwynhau taith gerdded mwy syml. Cadwch y dolenni hyn fel y gallwch eu rhannu’n hwylus ag ymwelwyr sy'n chwilio am lwybrau symlach â digon o olygfeydd, heb unrhyw angen am fynd yn ôl yr un ffordd!
|
|
|
Mae newid yn y gyfraith o 1 Hydref 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru fod wedi'i gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Os ydych yn cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gwblhau'r cofrestriad am ddim cyn 31 Mawrth 2027. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i lety cofrestredig ac i gefnogi twristiaeth yng Nghymru. Cofrestrwch eich llety ymwelwyr nawr
Rydym yn awyddus i deilwra ein e-fwletinau busnes fel eu bod mor ymarferol a defnyddiol ag sydd bosibl. Os oes gennych syniadau ar gyfer rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch â'n tîm yn wcp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - Dilynwch ba bynnag lwybr cerdded sy'n berthnasol i'ch busnes, rhannwch a rhowch sylwadau ar ein postiadau - byddwn yn gwneud ein gorau i anfon sylwadau yn ôl.
|
|
|
|
|