|
 Mae wedi bod yn haf prysur i Brosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf, gyda rhai o’n prosiectau adfer afonydd mwy yn symud o’u cam cynllunio i gael eu gwireddu, ochr yn ochr â’r gwaith parhaus gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ar draws y dalgylch.
Yn y rhifyn hwn, byddwn yn edrych ar ddau brosiect mawr i ailosod pontydd pibellau, a fydd yn ailgysylltu dros 18km o gynefinoedd afon. Byddwn hefyd yn mynd i Langurig lle mae camau cyntaf prosiect uchelgeisiol i ailgyflwyno clogfeini i afon Gwy wedi cychwyn.
Bydd Hilary yn rhannu canlyniadau addawol cynnar o’n treialon o ran ffwng y gawod ar jac y neidiwr, yn ogystal â darparu diweddariad ar y planhigion goresgynnol eraill yr ydym ni wedi bod yn mynd i’r afael â nhw. Hefyd, wrth i ni symud ymlaen o’r haf eithriadol o boeth a sych a gawsom tuag at yr hydref a’r gaeaf, bydd Bridie yn rhannu cyngor ymarferol ar sut y gall ffermydd baratoi ar gyfer y newid o ran amodau.
Rydym hefyd yn eich gwahodd i ddod i gwrdd â’r tîm yn ein digwyddiad Sgyrsiau â CNC, a fydd yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ar 22 Medi.
Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy.
Nickie a Susie
Mae dau brosiect mawr i ailosod pontydd pibellau wedi cychwyn, a fydd yn ailgysylltu dros 18km o gynefinoedd afon, yn gwella llwybrau pysgod, ac yn adfer mwy o brosesau naturiol yn yr afon.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys i ddisodli dwy bont bibell bresennol neu ffosydd cerrig ar afonydd Camarch a Duhonw, ger Llanfair-ym-Muallt, ag adeileddau pontydd rhychwant clir newydd.
 Llun: Wern Wyn cyn y gwaith
 Llun: Wern Wyn – pont rhychwant clir newydd yn cael ei hadeiladu – mae’r bibell ddu yn cludo dŵr yr afon drwy’r safle gwaith
Mae’r pontydd pibellau presennol yn cyfyngu ar symudiad pysgod a gwaddod, ac mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw parhaus oherwydd rhwystrau o ganlyniad i raean a malurion prennaidd yn ystod llifoedd uchel. Mae Sefydliad Gwy ac Wysg wedi ymgymryd â gwaith clirio ers blynyddoedd lawer. Bydd disodli’r pibellau â phontydd rhychwant clir yn dileu’r rhwystrau hyn, gan ganiatáu i’r afonydd weithredu’n fwy naturiol, tra’n darparu croesfannau mwy cadarn i dirfeddianwyr.
 Llun: Pont bibell Llwyn y Brain ar afon Camarch cyn i’r gwaith gychwyn
Mae rhannau uchaf yr isafonydd hyn o afon Gwy yn silfeydd hanfodol ar gyfer rhywogaethau pwysig sydd dan fygythiad, megis eog Iwerydd. Gyda’i gilydd, bydd y prosiectau’n ailgysylltu dros 18km o gynefinoedd i fyny’r afon ar gyfer rhywogaethau yn cynnwys eog Iwerydd, llysywod pendoll a phenlletwadau, gan adfer symudiad naturiol graean, a helpu i ddarparu’r cynefin glân ar wely’r afon y mae ei angen er mwyn i wyau allu goroesi’n llwyddiannus.
Cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn ar afon Duhonw yn Wern Wyn, roedd angen i ni sicrhau bod y pysgod a oedd yn byw yn yr ardal waith yn cael eu symud yn ddiogel cyn i’r afon gael ei dargyfeirio dros dro.
Gan ddefnyddio’r broses electrobysgota, daliodd ein tîm hyfforddedig y pysgod yn ofalus, gan ganiatáu iddynt ddadebru cyn eu hadleoli i gynefin addas i lawr yr afon. Daethpwyd o hyd i bum eog Iwerydd ifanc, 12 penlletwad, dwy lysywen, ac oddeutu 50 o silod mân brithyll a brithyllod brych.
Roedd yn wych gweld cymaint o bysgod yn yr ardal fechan hon. Dangosodd hefyd yn union pam bod cael gwared ar rwystrau fel y rhain mor bwysig. Unwaith y bydd y bont newydd yn ei lle, gall pysgod symud yn rhydd i ddefnyddio’r cynefin i fyny’r afon.
Mae'r gwelliannau hyn yn arbennig o bwysig yng ngoleuni asesiad diweddar CNC, a ganfu bod sefyllfa eogiaid Cymru yn parhau’n argyfyngus – gyda statws ‘risg’ yn berthnasol i’r holl afonydd sy'n cael eu monitro bellach. Mae hyn yn dangos yn amlwg yr angen brys i sicrhau cynefinoedd silio a meithrin ar gyfer eogiaid.
 Llun: Penlletwad a ddarganfuwyd wrth achub y pysgod
 Llun: Llysywen a ddarganfuwyd wrth achub y pysgod
|
|
|
Bridie
Ar ôl haf a dorrodd pob record fel yr haf poethaf, sychaf, a’r mwyaf heulog ers dechrau cadw cofnodion, mae’n anodd dychmygu dychwelyd i borfeydd wedi eu drensio gan law, afonydd llawn at eu glannau, a mwd o dan draed … ond fe ddaw!
Wrth i ni agosáu at yr hydref, nawr yw’r amser i feddwl am yr hyn y gellir ei wneud i baratoi eich fferm ar gyfer y misoedd gwlypach sydd i ddod.
Diogelu’ch priddoedd rhag y tywydd
Mae priddoedd sydd wedi eu strwythuro’n dda yn gweithio fel sbwng, gan ddal dŵr a maethynnau a helpu i atal dŵr ffo.
Nawr yw’r amser i wirio strwythur eich pridd, ac ystyried awyru mewn caeau lle mae cywasgiad yn cyfyngu pwysau’r cnwd. I sicrhau gwydnwch yn y tymor hwy, ystyriwch ychwanegu perlysiau a chodlysiau â gwreiddiau dwfn, a’u rheoli drwy bori mewn cylchdro er mwyn caniatáu i fioleg y pridd a’r gwreiddiau wneud mwy o’r gwaith.
Gallai’r grant Creu Cynefinoedd Dros Dro, sy’n agor ym mis Tachwedd, hefyd roi’r cyfle i ariannu gwyndwn aml-rywogaeth y gwanwyn nesaf.
Plannu coed a gwrychoedd
Mae coed a gwrychoedd yn darparu cysgod a lloches werthfawr, gan wella llesiant a chynhyrchiant da byw. Maent hefyd o fudd i’r amgylchedd ehangach.
Ystyriwch blannu gwrychoedd ar draws llethrau i ryng-gipio llwybrau llif dŵr a choed ar hyd glannau afonydd i ddarparu cysgod.
Ar gyfer ffermydd sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd angen i chi fod wedi darparu cynllun cyfle i blannu coed a gwrychoedd erbyn diwedd y flwyddyn hon. Gallai’r grant Cyfalaf Amgylchedd ym mis Tachwedd hefyd gynorthwyo gwaith i blannu ac adfer gwrychoedd, a phlannu coed ar raddfa fach.
Diogelu eich cyflenwadau dŵr
Ar ôl yr haf yr ydym newydd ei gael, mae hefyd yn werth ystyried sut y gallwch chi wneud gwell defnydd o’r dŵr a fydd yn ein cyrraedd dros y gaeaf.
Gall y grant Seilwaith Bach, sydd ar agor nawr, ariannu tanciau casglu dŵr glaw – gan arafu’r llif yn y gaeaf wrth storio dŵr sydd dros ben i’w ddefnyddio yn yr haf.
Gall y grant hefyd ariannu pympiau dŵr solar sy’n bwydo sawl cafn, gan roi mwy o hyblygrwydd i ffermwyr wrth reoli pori a helpu i gadw stoc allan o nentydd ac afonydd, a fydd yn fanteisiol i fioddiogelwch hefyd.
Beth allai weithio ar eich fferm chi?
Mae pob fferm yn wahanol, ac ni fydd yr un datrysiad yn gweithio ym mhobman. Gall Cyswllt Ffermio ddarparu llawer o gymorth a chyngor defnyddiol, yn ogystal â chymorth i gael mynediad at grantiau. Gallwch ddod o hyd i gyngor a chymorth busnes drwy Cyswllt Ffermio ar wefan Busnes Cymru.
Gall ein tîm hefyd helpu i nodi cyfleoedd sy’n addas i’ch fferm, eich tir a’ch busnes chi, a fydd hefyd yn helpu i wella gwydnwch Gwy Uchaf, felly cysylltwch â ni.
 Llun: Lansiodd y Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur ‘Y Fferm Sy’n Ddiogel rhag y Tywydd’ yng Nghymru yn gynharach eleni. Mae’n cynnig ffyrdd ymarferol o wella pridd, porfa a chynhyrchiant eich fferm i hybu gwydnwch yn wyneb tywydd eithafol. Gall aelodau gael mynediad at y llyfryn gwybodaeth, ac mae aelodaeth yn rhad ac am ddim.
|
|
|
Hilary a Nickie
Yr haf hwn rydym wedi bod yn rhoi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol fel rhan o’n hymdrechion i fynd i’r afael â jac y neidiwr yn Gwy Uchaf – ffwng y gawod microsgopig o ystod frodorol y planhigyn yn yr Himalayas.
Rydym wedi cychwyn treialon gydag arbenigwyr o CABI i weld a allai’r rheolaeth fiolegol hon ein helpu i reoli jac y neidiwr yn y tymor hwy. Mae’r ffwng yn unigryw i jac y neidiwr, ac os yw’n llwyddo i sefydlu ei hun, gall leihau grym, trwch a gallu’r planhigyn i gynhyrchu hadau, gan roi gwell cyfle i lystyfiant brodorol adfer ar hyd glannau ein hafonydd.
Ym mis Mehefin, ymunodd CABI â Nickie a minnau yn y maes i’n hyfforddi ar weithdrefnau brechu a monitro ar ein dau safle treialu yn nalgylchoedd Irfon ac Aran. Roedd yn wych cael treulio diwrnod gyda’u harbenigwyr a rhoi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol fel rhan o’n gwaith ar rywogaethau goresgynnol.
 Llun: Hilary gyda thîm CABI ar y safle brechu cyntaf ym mis Mehefin
Rydym bellach wedi cwblhau dwy rownd o waith brechu a monitro, ac rydym yn falch iawn o weld cyfradd dda o heintiad cychwynnol.
Mae yna beth ffordd i fynd o hyd. Mae’r camau nesaf hanfodol yn cynnwys gweld a all y sborau ffwng oroesi dros y gaeaf mewn dail sydd wedi cwympo, heintio eginblanhigion jac y neidiwr y gwanwyn nesaf, a lledaenu’n raddol y tu hwnt i’r plotiau treialu gwreiddiol.
Bydd y cyfnod prawf yn rhedeg dros dair blynedd, felly ni fyddwn yn gwybod a ydyw wedi bod yn gwbl llwyddiannus am beth amser, ond mae’r arwyddion yn addawol hyd yma. Edrychwn ymlaen at gael rhannu diweddariad arall â chi yn y gwanwyn!
 Llun: Dail â chyfraddau heintio uchel o ddafadennau ffwng yn ystod ymweliad monitro ym mis Awst
Mynd i’r afael â chlymog Japan yng Nghamarch
Fis Medi eleni, mae ein contractwyr o Sefydliad Gwy ac Wysg wedi bod ar grwydr!
Mae’r tîm wedi bod yn crwydro ar draws dalgylch Camarch, sef is-afon i afon Irfon, yn trin dros 50 o safleoedd yr effeithiwyd arnynt gan glymog Japan.
Nid ar chwarae bach mae trin ardal mor fawr, felly diolch yn fawr iawn i Sefydliad Gwy ac Wysg a’r nifer o dirfeddianwyr a fu’n rhan o’r gwaith am ein helpu i fynd i’r afael ag un o’r rhywogaethau mwyaf goresgynnol yn nalgylch Gwy.
Os ydych chi’n sylwi ar glymog Japan ger afon Camarch, cysylltwch â Nickie ar adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru, gan nodi’r lleoliad, ac yn ddelfrydol, cymerwch luniau agos o’r dail a’r coesynnau.
Pidyn-y-gog Americanaidd
Rydym hefyd yn parhau i fynd i’r afael â’r pidyn-y-gog Americanaidd, gyda’r lluniau cyn ac ar ôl y gwaith yn dangos y canlyniadau hyd yma.
Nid ydym wedi gorffen eto. Bydd planhigion llai sy’n tyfu fel egin o’r prif blanhigyn yn parhau i gael eu targedu, ac rydym yn disgwyl y bydd y planhigion iau hyn yn gwywo’n ôl yn gynt pan fyddwn yn dychwelyd i’w taclo y flwyddyn nesaf.
 Llun: Planhigyn pidyn-y-gog Americanaidd yn nalgylch Marteg yn gwywo’n ôl ar ôl triniaeth gan chwynladdwr
|
|
|
Brendan a Henry
Ar ôl dwy flynedd o gynllunio a gwaith monitro sylfaenol, mae’n braf gweld clogfeini yn cael eu hailgyflwyno i afon Gwy yn Llangurig o’r diwedd.
Rydym yn adfer darn pwysig 7km o hyd o afon Gwy drwy ailgyflwyno symiau mawr o gerrig lleol ar ffurf clogfeini o wahanol feintiau. Mae clogfeini yn nodweddion naturiol mewn afonydd ar dir uchel, ond yn hanesyddol cafodd llawer eu symud o’r darn hwn o’r afon, gan adael rhannau â llifau symlach a llai o gynefinoedd naturiol.
 Mae’r cam cyntaf bellach wedi ei gwblhau, gydag oddeutu 95 tunnell o glogfeini wedi eu hailgyflwyno. Maent wedi eu gosod mewn patrwm afreolaidd, gan efelychu natur er mwyn creu sianel amrywiol gyda rifflau, pyllau, ceryntau cyflymach, ac ardaloedd o ddŵr tawelach.
 I ni, un o’r agweddau mwyaf diddorol o’r gwaith hwn yw’r hyn y gallai ei olygu i eogiaid ifanc. Mae ein gwaith monitro wedi canfod digonedd o silod mân yn yr ardal, ond siomedig yw goroesiad y gleisiaid hŷn. Mae’r diffyg gorchudd gan glogfeini a’r cynefinoedd amrywiol yn cyfrannu at y cyfyngiad ar eu gallu i fwydo, cysgodi a thyfu.
 Drwy dorri’r llif yn rhannau llai, mae clogfeini yn creu lloches rhag ceryntau cryf ac ysglyfaethwyr, mannau bwydo a phocedi dyfnach o ddŵr. Mae’r rhain yn darparu lloches i bysgod a bywyd gwyllt eraill yn ystod llifau isel yn yr haf a llifogydd yn y gaeaf, tra bod yr amrywiaeth ehangach o gynefinoedd hefyd o fudd i blanhigion dyfrol ac infertebratau y mae pysgod yn dibynnu arnynt.
Rydym wedi treulio dwy flynedd yn casglu gwybodaeth sylfaenol, felly nawr byddwn yn gallu monitro’r hyn a fydd yn digwydd nesaf, a gweld a ydyw’r cynefin sydd wedi ei adfer yn gwneud gwahaniaeth i oroesiad y pysgod ifanc.
Dim ond un rhan o’r stori yn Llangurig yw’r clogfeini.
 Lluniau: Clogfeini yn cael eu hailgyflwyno i afon Gwy yn Llangurig
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd y darn hwn o’r afon i blannu coed, gosod ffensys a lleiniau clustogi, gan helpu i amddiffyn glannau’r afon, darparu cysgod ar gyfer y dyfodol a lleihau’r pridd, y maetholion a’r llygryddion sy’n mynd i mewn i afon Gwy.
Gerllaw yng Nghoedwig Tarenig Llywodraeth Cymru, rydym hefyd wedi bod yn arafu symudiad y dŵr trwy greu draeniau a ffosydd gan ddefnyddio torbrennau coedwigaeth.
Gyda’i gilydd, mae’r holl fesurau hyn yn mynd i’r afael â gwahanol fathau o bwysau ar yr un darn hwn o afon, gan weithio ar y tir cyfagos yn ogystal ag o fewn y sianel ei hun.
Bydd yr ail gam yn mynd rhagddo y mis hwn, a fydd yn ychwanegu mwy o glogfeini yn yr ardaloedd lle maent yn brin, gyda mwy o gamau i ddilyn.
|
|
|
Daisy
A hoffech chi ddod i siarad â ni am yr hyn sy’n digwydd yn Gwy Uchaf, neu fater amgylcheddol arall sy’n bwysig i chi?
Bydd ein digwyddiad Sgyrsiau â CNC nesaf yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, a bydd ein tîm Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn bresennol.
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Medi 2026
-
Amser: 4:30pm–6.30pm
-
Lleoliad: Y Pafiliwn Rhyngwladol (Llawr Uchaf), Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY
Mae’n ddigwyddiad anffurfiol ar ffurf marchnadfa, lle gall pobl o bob cwr o ganolbarth Cymru siarad yn uniongyrchol â staff ac aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, gofyn cwestiynau, rhannu syniadau a phryderon, a siarad am y materion amgylcheddol sy’n effeithio ar eu hardal leol.
I dîm Gwy Uchaf, mae hefyd yn gyfle i sgwrsio â phobl rydyn ni eisoes yn gweithio gyda nhw, a chwrdd â rhai wynebau newydd.
P’un a ydych chi’n ffermwr neu’n rheolwr tir, yn cynrychioli sefydliad neu gymuned leol, eisoes yn adnabod ein prosiect yn dda neu am ddysgu mwy, dewch i gael sgwrs â ni.
Rydym yn awyddus i glywed am yr heriau a’r cyfleoedd rydych chi’n eu gweld ar lawr gwlad, siarad am y gwaith sy’n digwydd ar draws Gwy Uchaf, ac archwilio ble y gallem ni gydweithio.
Nid oes rhaid aros am y digwyddiad cyfan – galwch heibio unrhyw bryd rhwng 4.30pm a 6.30pm. Mae cyfleusterau parcio ar gael ar y safle.
Gobeithio y gwelwn ni chi yno!
O bontydd newydd a channoedd o dunelli o glogfeini i ffwng y gawod microsgopig, mae’r rhifyn hwn yn rhoi syniad da i chi o ba mor amrywiol y gall y gwaith o adfer afonydd fod.
Yr hyn sy’n cysylltu’r holl waith hwn yw cydlafurio. P’un a ydym yn adnewyddu rhwystr, yn adfer cynefin o fewn yr afon, yn mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol, neu’n gwneud newidiadau ar dir fferm cyfagos, rydym yn dibynnu ar ffermwyr, tirfeddianwyr, contractwyr, sefydliadau lleol a chymunedau i wireddu hyn.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gweithio gyda’r prosiect, a’i gefnogi yn ystod haf prysur arall.
Mae llawer mwy ar y gweill wrth i ni nesáu at yr hydref a’r gaeaf, a byddwn yn parhau i rannu ein cynnydd ar hyd y daith.
|
|
|
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf #AdferGwyUchaf wedi ei ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o’r Rhaglen Gyfalaf Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i’r afael ag amrywiaeth o bwysau sy’n effeithio ar yr afon.
Os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni drwy’r cyfeiriad e-bost isod.
Pe bai’n well gennych gopi papur o’r cylchlythyr, cysylltwch â ni.
Cyfeiriad e-bost: adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru
Y we: Gwefan Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, X
Os byddai’n well gennych siarad â ni wyneb yn wyneb, peidiwch ag anghofio dod i chwilio amdanom ni yn ein digwyddiad Sgyrsiau â CNC ddydd Mawrth 22 Medi.
|
|
|
|
|