|
Mae haf 2026 yn un a fydd yn curo pob record a bu’r gwres mawr a’r tanau gwyllt yn hawlio’r penawdau. Er eich bod wedi mwynhau cerdded y llwybr pan oedd yn ddiogel gwneud hynny, rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau’r cyfnodau oerach hefyd ac wedi cael seibiant ar ôl y tywydd poeth. Mae tywydd oerach ar fin ein cyrraedd! Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys:
- Archwilio safleoedd hanesyddol ar hyd y llwybr
- Bws TrawsCambria yng ngorllewin Cymru
- Ap Llwybr Arfordir Cymru
Yn ystod mis Medi, gallwch ymweld â rhai o adeiladau hanesyddol Cymru (sydd yng ngofal Cadw) ac sy’n cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau a theithiau tywysedig (Drysau Agored). Mae'n gyfle perffaith i fynd am dro hamddenol ar y llwybr ac archwilio rhywle newydd – rhywle sydd efallai’n lleol i chi. Dod o hyd i ddigwyddiad yn agos atoch chi
Pam na wnewch chi ymweld â'r lleoedd hyn ar hyd y llwybr?
- Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres, Ynys Môn - 13 a 27
- Castell Talacharn, Sir Gaerfyrddin - 19 a'r 20
- Castell Trefadog, Llanfaethlu, Ynys Môn - 19 a 20
Rhowch gynnig ar ein teithlenni Cadw - sy'n cyfuno taith gerdded ar y llwybr â safle hanesyddol. O gestyll i sawl caer Rufeinig ar ben bryn, byddwch chi'n dysgu rhywbeth newydd am Gymru hanesyddol.
 Castell Talacharn, Sir Gaerfyrddin
 |
|
Dyma’r eitem fwyaf poblogaidd yn siop swyddogol Llwybr Arfordir Cymru o bell ffordd! Mae'r bathodynnau hyn yn berffaith ar gyfer dathlu eich amser ar y llwybr - mae’n nhw’n cynrychioli eich ymrwymiad, profiadau newydd a gawsoch ac atgofion anhygoel o gerdded arfordir Cymru - rhywbeth a fydd yn aros gyda chi am byth.
Perffaith er mwyn dangos eich hun i'ch ffrindiau neu i’w wnïo ar eich sach gefn. Casglwch y gyfres i gyd!
|
Archwiliwch y llwybr rhwng Aberystwyth ac Aberporth (37 milltir) ar fws T5 TrawsCambria am £6.50 (yn ddilys am 24 awr ar ôl ei brynu). Dechreuwch eich taith o dref brifysgol Aberystwyth a theithio i'r de tuag at Aberaeron i archwilio'r harbwr ac edmygu'r adeiladau lliw pastel.
Yna galwch draw i Gei Newydd, lle mae'r cerflun ar y lawnt sy'n edrych dros yr harbwr, yn nodi pwynt hanner ffordd swyddogol y llwybr. Yna mae Aberporth, sy'n enwog am ei draethau tywodlyd a’i olygfeydd godidog o Fae Ceredigion i orffen eich taith. Mwy o fanylion am wasanaethau a thocynnau
 Cei Newydd
Mae sawl gwarchodfa natur yn croesi'r llwybr ac mae Gwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd, Casnewydd, yn un ohonynt - lle poblogaidd i ymlacio ym myd natur ymhell o brysurdeb y ddinas. Ewch ar Lwybr y Tegeirianau, llwybr hygyrch 1 filltir i chwilio am degeirianau arbennig yn ystod diwedd yr haf. Cofiwch ddychwelyd yno ddiwedd yr hydref i wylio golygfa odidog y drudwy yn heidio wrth iddi nosi. Dewch o hyd i fwy o warchodfeydd natur ar hyd y llwybr
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd
Mae gan yr ap swyddogol fap sy'n dangos i ble mae'r llwybr yn mynd a ble ydych chi ar y llwybr. Cofnodwch eich teithiau cerdded tra byddwch ar y llwybr neu ychwanegwch nhw wedyn at yr ap - hynod o ddefnyddiol os byddwch chi'n rhy flinedig ar ôl diwrnod hir o gerdded.
Bydd yr ap yn helpu i osgoi mynd ar goll ar y llwybr ac yn olrhain eich cynnydd - gan ddangos faint o bob ardal ydych chi wedi'i gwblhau a faint o'r llwybr cyfan - defnyddiol i wybod ble yn union ydych chi wedi bod! Mwy o fanylion am yr ap (ar gael ar iOS ac Android).
 Ap Llwybr Arfordir Cymru ar AppStore a Google Play
Darllenwch y bwletin busnes diweddaraf (Medi) sydd wedi'i neilltuo i helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd busnes ar y llwybr. Mynediad am ddim a hwylus at ddeunyddiau marchnata partneriaid. Gallwch eu lawrlwytho er mwyn denu mwy o ymwelwyr ac i sicrhau bod mwy o gwsmeriaid yn eich gweld wrth iddynt gerdded y llwybr.
Tanysgrifiwch i fwletinau busnes gyda'ch cyfeiriad e-bost ac ewch i “Prosiectau” a thiciwch y blwch ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru. Mae e-fwletinau busnes ar agor i bob sector sydd â diddordeb yn y llwybr.
|
Gwyliau Cerdded - Cynhelir digon o ddigwyddiadau ar y llwybr neu gerllaw a hynny’n fuan, fel gwyliau cerdded - syniad ar gyfer archwilio mwy o Gymru. Gweld mwy o ddigwyddiadau
- Gŵyl Gerdded Gŵyr 5-13 Medi
- Gŵyl Gerdd Caerdydd 3-18 Hydref
- Gŵyl Gerdded Cas-gwent 23-25 Hydref
|
Beth yw eich hoff flodyn gwyllt arfordirol? Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r fideo eglurhaol hwn am fywyd gwyllt arfordirol (sy'n agor ar Instagram) yn esbonio beth allwch chi ei weld a beth yw’r enwau Cymraeg. Ein ffefryn personol ni yw clustog Fair â'i phetalau pinc tlws - gweler y llun.
|
 |
|
Llwybr Arfordir Cymru - Newfoundland, Canada - Mae ein ffrindiau yn Newfoundland, Canada yn adeiladu eu llwybr arfordir eu hunain a daethant draw i Gymru i weld sut mae Llwybr Arfordir Cymru a’n partneriaid yn gwneud pethau. Dyma adroddiad o'u hymweliad i weld "sut y llwyddodd Cymru". Cafodd llawer ei ddysgu gan y ddwy ochr! |
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 11,500 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|